Drogheda
Oddi ar Wicipedia
Tref yn Iwerddon yw Drogheda (Saesneg) neu Droichead Átha (Gwyddeleg) a leolir yn Swydd Louth, Gweriniaeth Iwerddon, ar lan Môr Iwerddon tua 45 km i'r gogledd o ddinas Dulyn. Mae'n borthladd pwysig.
Mae Afon Boyne yn llifo trwy Drogheda i aberu ym Môr Iwerddon. Ceir pont newydd dros yr afon ar gwr y dref sef Pont Lacy.
Dywedir i'r dref gael ei sefydlu gan y Llychlynwyr yn y flwyddyn 911 OC.