Dr. No (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Terence Young |
| Cynhyrchydd | Harry Saltzman Albert R. Broccoli |
| Ysgrifennwr | Ian Fleming |
| Addaswr | Richard Maibaum Johanna Harwood Berkely Mather |
| Serennu | Sean Connery Joseph Wiseman Ursula Andress Jack Lord John Kitzmiller |
| Cerddoriaeth | Monty Norman |
| Sinematograffeg | Ted Moore |
| Golygydd | Peter R. Hunt |
| Cwmni Cynhyrchu | United Artists |
| Amser rhedeg | 110 munud |
| Gwlad | DU |
| Iaith | Saesneg |
Ffilm gyntaf yng nghyfres James Bond ydy Dr. No (1962), a'r ffilm gyntaf i serennu Sean Connery fel yr asiant cudd ffuglennol i MI6 James Bond. Seiliwyd y ffilm ar y nofel o 1958 Dr. No gan Ian Fleming. Cafodd y nofel ei addasu gan Richard Maibaum, Johanna Harwood a Berkeley Mather ar gyfer y sgrîn fawr. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Terence Young a'i chynhyrchu gan Harry Saltzman a Albert R. Broccoli, mewn partneriaeth a barodd tan 1975.
Yn y ffilm, danfonir Bond i Jamaica er mwyn ymchwilio i mewn i farwolaeth asiant Prydeinig. Aiff Bond ar drywydd Dr. Julius No sy'n byw ar ynys bellenig. Darganfydda Bond fod cynllwyn gan Dr. No i rwystro arbrofion rocedi Americanaidd a llwydda Bond i atal y cynllwyn hwn.