Richard Maibaum
Oddi ar Wicipedia
Cynhyrchydd ffilmiau, dramodydd a sgriptiwr Americanaidd oedd Richard Maibaum (ganwyd 26 Mai, 1909 – 4 Ionawr, 1991). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei addasiadau o nofelau Ian Fleming, James Bond.
Ganwyd Maibaum yn Ninas Efrog Newydd a mynychodd Brifysgol Efrog Newydd a Phrifysgol Iowa, cyn iddo ddechrau gweithio fel actor a dramodydd ar Broadway.