Sean Connery
| Sean Connery | |
|---|---|
Sean Connery |
|
| Ganwyd | 25 Awst, 1930 Caeredin, Yr Alban |
| Enwau eraill | Thomas Sean Connery |
| Yn enwog am | Ffilmiau James Bond, Entrapment, The Untouchables, Indiana Jones and the Last Crusade |
| Galwedigaeth | Actor, cynhyrchydd |
Actor a chynhyrchydd o Gaeredin, Yr Alban yn wreiddiol ydy Syr Thomas Sean Connery, a adnabyddir fel Sean Connery (ganwyd 25 Awst 1930). Caiff ei adnabod am ei rôl fel yr asiant cudd MI6 James Bond. Mae Connery wedi ennill Gwobr yr Acamedi, Golden Globe a BAFTA. Yn 1987, ennillodd Wobr yr Academi fel yr Actor Cefnogol Gorau am ei rôl yn The Untouchables. Cafodd ei urddo gan y Frenhines Elizabeth II ym mis Gorffennaf 2000.
Mae Connery hefyd yn enwog am gadw'i acen Albanaidd mewn ffilmiau, waeth beth yw cenedligrwydd y cymeriad mae'n chwarae. Er ei fod yn hŷn na'r mwyafrif o symbolau rhyw traddodiadol, caiff ei enwi fel un o'r dynion mwyaf golygus yn barhaus gan amryw gylchgronau o ganlyniad i'w ymddangosiad garw.
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Ei Fywyd Cynnar [golygu]
Cafodd Connery ei eni yn Fountainbridge, Caeredin, yn fab i Euphamia C. "Effie" (née Maclean), glanheuwraig a Joseph Connery, gweithiwr mewn ffatri a gyrrwr lorïau. Roedd ei dad yn Gatholig Rhufeinig o dras Gwyddelig a oedd a'i wreiddiau yn Swydd Wexford tra bod ei fam yn Brotestant Albanaidd. Mae Connery yn honni iddo gael ei alw'n Sean ymhell cyn iddo ddod yn actor gan ddweud fod ganddo ffrind Gwyddelig o'r enw Séamus pan oedd yn blentyn a pha bryd bynnag roedd y ddau gyda'i gilydd, byddai pawb yn ei alw wrth ei enw canol.
Ei swydd gyntaf oedd fel dyn llaeth yng Nghaeredin gyda Chymdeithas Cyd-weithredol St. Cuthbert's. Yna ymunodd â'r Lynges Frenhinol, ond yn ddiweddarach cafodd ei ryddhau ar sail meddygol oherwydd briw ar y dwodenwm. Yn hwyrach dychwelodd i'r Gymdeithas Cyd-weithredol cyn gweithio mewn nifer o swyddi eraill gan gynnwys gyrrwr lorïau, labrwr, model i ddarlunwyr yng Ngholeg Celf Caeredin, sgleiniwr eirch ac fel magwr cyhyrau.
Yn ôl gwefan swyddogol Connery, daeth Connery yn drydydd yng nghystadleuaeth magu cyhyrau Mr. Universe yn 1953. Awgrymodd cyd-gystadleuwr, Johnny Isaacs, y dylai fynd i glyweliad ar gyfer y perfformiad llwyfan o South Pacific. Arweiniodd hyn Connery i fwy o waith ar lwyfan, teledu a ffilm. Cafodd rôl flaenllaw yng nghynhyrchiad Rudolph Cartier o Anna Karenina ar gyfer y BBC yn 1961. Actiodd hefyd yn Darby O'Gill a'r Little People (1959) yn serennu Albert Sharpe.
Pan oedd yn iau, roedd Connery yn beldroediwr brwd a chwaraeodd i dîm o'r enw Bonnyrigg Rose. Cynigiwyd iddo chwarae mewn treialon ar gyfer tîm llwyddiannus Dwyrain Fife. Tra'n teithio gyda chast South Pacific, roedd Connery yn rhan o gêm beldroed yn erbyn tîm lleol roedd Matt Busby, rheolwr Manceinion Unedig wedi bod yn gwylio ar y pryd. Yn ôl adroddiadau, cynigiodd Busby gytundeb i Connery gwerth £25 yr wythnos yn union wedi i'r gêm orffen. Cyfaddefodd Connery ei fod wedi cael ei demptio i dderbyn y cynnig ond wrth gofio'n ôl dywedodd "I realised that a top-class footballer could be over the hill by the age of 30, and I was already 23. I decided to become an actor and it turned out to be one of my more intelligent moves."
Daeth ei rôl deledu Americanaidd gyntaf fel porthor yn un o raglenni'r The Jack Benny Show.
James Bond (1962–1967, 1971, 1983) [golygu]
Daeth llwyddiant mawr cyntaf Connery pan gafodd ei gastio yn rôl yr asiant cudd MI6 James Bond. Actiodd mewn saith ffilm Bond, gyda chwech ohonynt wedi'u cynhyrchu gan EON. Mae'r ffilmiau hyn yn cynnwys Dr. No (1962), From Russia with Love (1963), Goldfinger (1964), Thunderball (1965), You Only Live Twice (1967), Diamonds Are Forever (1971) a Never Say Never Again (1983) (answyddogol).
Darganfuwyd yr actor carismatig ac ysgafn-droed gan Harry Saltzman ac Albert R. Broccoli ar ôl i actorion eraill posib gael eu gwrthod. Roedd yr actorion hyn yn cynnwys David Niven (a chwaraeodd rhan Bond yn y sbŵf Casino Royale, ym 1967), Cary Grant, a James Mason; gwrthododd y ddau olaf i ymrwymo i gyfres ffilm. Roedd cyllid bychan y ffilm wedi gorfodi'r cynhyrchwyr i gyflogi actor anhysbys.
Ian Fleming [golygu]
Roedd crëwr James Bond, Ian Fleming yn amau a oedd y castio'n addas, gan ddweud "He's not what I envisioned of James Bond looks" a "I’m looking for Commander Bond and not an overgrown stunt-man," gan ychwanegu fod Connery (cyhyrog, 6' 2", ac Albanwr) yn anghoeth. Fodd bynnag, dywedodd cariad Fleming wrtho fod gan Connery y carisma rhywiol angenrheidiol. Yn fuan ar ôl llwyddiant agoriadol Dr. No, newidiodd Fleming ei feddwl; roedd wedi ei blesio cymaint nes iddo greu hanes hanner Albanaidd, hanner Swis i'r James Bond yn y nofelau a oedd i ddilyn.
Roedd portread Connery o Bond wedi'i lywio i raddau helaeth gan diwtora'r cyfarwyddwr Terence Young a roddodd sglein ar ei berfformiad tra'n defnyddio ei bresenoldeb a'i statws corfforol ar gyfer golygfeydd o gyffro. Ysgrifennodd Robert Cotton mewn cofiant am Connery bod Lois Maxwell (y Miss Moneypenny cyntaf) wedi sylwi ar y modd roedd "Terence took Sean under his wing. He took him to dinner, showed him how to walk, how to talk, even how to eat." Ysgrifennodd Cotton "Some cast members remarked that Connery was simply doing a Terence Young impression, but Young and Connery knew they were on the right track."
You Only Live Twice [golygu]
Ym mis Mehefin 1967, ar ôl ffilmio You Only Live Twice, rhoddodd Connery'r gorau i'r rôl, wedi iddo syrffedu ar y plotiau ailadroddus, diffyg datblygiad y cymeriad, disgwyliadau uchel y cyhoedd a'r ofn a gael ei deipgastio. Roedd hefyd yn ofni'r cyfeiriad ffantasi roedd y ffilmiau'n symud tuag atynt, gan ymbellhau o'r storïau gwreiddiol. Adroddwyd bod Connery yn awyddus i fod yn gyd-gynhyrchydd y gyfres wedi iddo gael ei ysbrydoli gan Dean Martin fel cyd-gynhyrchydd yn y gyfres Matt Helm. Sylwodd Connery nad oedd The Silencers wedi gwneud yn agos at yr arian a wnaeth Thunderball, ond gwyddai fod Martin yn gwneud mwy o arian nag ef.
Ei fywyd personol [golygu]
Bu Connery'n briod i'r actores Diane Cilento o 1962 tan 1973. Cawsant fab sef yr actor Jason Connery. Mae Connery wedi bod yn briod i'r peintiwr Ffrengig Micheline Roquebrune (ganed 1929) ers 1975.
Roedd Connery, sydd wrth ei fodd yn chwarae golff, arfer perchen ar y Domaine de Terre Blanche yn Ne Ffrainc am ugain mlynedd (o 1979) lle bwriadai adeiladu ei gwrs golff delfrydol ar y 300 hecter o dir ond ni wireddwyd ei freuddwyd nes i'r tir gael ei werthu i'r biliwnydd Almaenig Dietmar Hopp ym 1999.
Cyhuddiadau o gamdrin [golygu]
Yn ei hunangofiant "My Nine Lives" yn 2006, yn ogystal ag mewn cyfweliadau eraill ar y radio ac mewn print, honnodd Diane Cilento fod Connery wedi ei tharo ar sawl achlysur. Mae Connery wedi gwadu'r holl gyhuddiadau.[1]
Mewn cyfweliad gyda Barbara Walters ym 1987, tynnodd Connery nyth cacwn am ei ben pan ddywedodd ei fod yn dderbyniol i ddyn slapio menyw gyda grym cyfyngedig os oedd yn angenrheidiol i'w thawelu neu os oedd y dyn wedi cael ei wthio i mewn i "sefyllfa bryfoclyd".[2]
Iechyd [golygu]
Ym 1993, dywedwyd fod Connery yn derbyn triniaeth ymbelydrol am salwch yn ei wddf. Arweiniodd hyn ar y cyfryngau yn dweud fod gan yr actor cancr y gwddf ar ôl blynyddoedd o ysmygu trwm, gydag asiantaethau newyddion yn Siapan a De Affrica yn dweud ei fod wedi marw. Yn syth ar ôl hyn, ymddangosodd Connery ar y "Late Show with David Letterman" er mwyn gwadu'r straeon. Mewn cyfweliad ym 1995 gyda Entertainment Weekly, dywedodd fod y driniaeth er mwyn cael gwared o nodylau ar ei linnynau lleisiol. Bu farw ei dad, a oedd hefyd yn ysmygwr trwm o gancr y gwddf ym 1972. Yn 2003, cafodd lawdriniaeth i gael gwared ar cataracts ar ei ddwy lygad. Ar y 12 Mawrth 2006, cyhoeddodd ei fod yn gwella o driniaeth i gael gwared ar dyfiant ar ei aren. Ym mis Mehefin 2008, torrodd asgwrn yn ei ysgwydd tra'n chwarae golff yn Efrog Newydd.
Ffilmiau [golygu]
| Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1954 | Lilacs in the Spring | Dim credyd | |
| 1957 | No Road Back | Spike | |
| Hell Drivers | Johnny Kates | ||
| Action of the Tiger | Mike | ||
| Time Lock | Welder #2 | ||
| 1958 | Another Time, Another Place | Mark Trevor | |
| A Night to Remember | Titanic deck hand | Dim credyd | |
| 1959 | Darby O'Gill and the Little People | Michael McBride | |
| Tarzan's Greatest Adventure | O'Bannion | ||
| 1961 | On the Fiddle | Pedlar Pascoe | |
| The Frightened City | Paddy Damion | ||
| 1962 | The Longest Day | Pte. Flanagan | |
| Dr. No | James Bond | ||
| 1963 | From Russia with Love | James Bond | |
| 1964 | Marnie | Mark Rutland | |
| Woman of Straw | Anthony Richmond | ||
| Goldfinger | James Bond | ||
| 1965 | The Hill | Trooper Joe Roberts | |
| Thunderball | James Bond | ||
| 1966 | A New World | Ei hun | Cameo |
| A Fine Madness | Samson Shillitoe | ||
| 1967 | You Only Live Twice | James Bond | |
| 1968 | Shalako | Moses Zebulon 'Shalako' Carlin | |
| 1969 | The Bowler and the Bonnet | Ei hun | Cyfarwyddwr; rhaglen ddogfen |
| 1970 | The Molly Maguires | Jack Kehoe | |
| 1971 | The Red Tent | Roald Amundsen | |
| The Anderson Tapes | John Anderson | ||
| Diamonds Are Forever | James Bond | ||
| 1972 | A Spain Golf Course | Ei hun | Pwnc fer |
| 1973 | The Offence | Detective Sergeant Johnson | |
| 1974 | Zardoz | Zed | |
| Murder on the Orient Express | Colonel Arbuthnot | ||
| 1975 | Ransom | Nils Tahlvik | |
| The Dream Factory | Himself | Rhaglen ddogfen | |
| The Wind and the Lion | Mulay Achmed Mohammed el-Raisuli the Magnificent | ||
| The Man Who Would Be King | Daniel Dravot | ||
| 1976 | Robin and Marian | Robin Hood | |
| 1976 | The Next Man | Khalil Abdul-Muhsen | |
| 1977 | A Bridge Too Far | Maj. Gen. Roy Urquhart | |
| 1979 | The First Great Train Robbery | Edward Pierce/John Simms/Geoffrey | |
| Meteor | Dr. Paul Bradley | ||
| Cuba | Maj. Robert Dapes | ||
| 1981 | Outland | O'Niel | |
| Time Bandits | Brenin Agamemnon/Fireman | ||
| 1982 | G'ole! | Adroddwr | Rhaglen ddogfen |
| Five Days One Summer | Douglas Meredith | ||
| Wrong Is Right | Patrick Hale | ||
| 1983 | Sean Connery's Edinburgh | Ei hun | Pwnc fer |
| Never Say Never Again | James Bond | ||
| 1984 | Sword of the Valiant: The Legend of Sir Gawain and the Green Knight | The Green Knight | |
| 1986 | Highlander | Juan Sanchez Villa-Lobos Ramirez | |
| The Name of the Rose | William of Baskerville | Gwobr BAFTA - Actor Gorau mewn Rôl Arweiniol | |
| 1987 | The Untouchables | Jim Malone | Gwobr Academi Actor Cefnogol Gorau Gwobr Golden Globe Actor Cefnogol Gorau mewn Ffilm |
| 1988 | The Presidio | Lt. Col. Alan Caldwell | |
| 1989 | Indiana Jones and the Last Crusade | Professor Henry Jones | |
| Family Business | Jessie McMullen | ||
| 1990 | The Hunt for Red October | Captain Marko Ramius | |
| The Russia House | Bartholomew 'Barley' Scott Blair | ||
| 1991 | Highlander II: The Quickening | Juan Sanchez Villa-Lobos Ramirez | |
| Robin Hood: Prince of Thieves | King Richard I | Dim credyd | |
| 1992 | Medicine Man | Dr. Robert Campbell | |
| 1993 | Rising Sun | Capt. John Connor | Cynhyrchydd gweithredol hefyd |
| 1994 | A Good Man in Africa | Dr. Alex Murray | |
| 1995 | The Thief and the Cobbler | Tack the Cobbler | Llais; fersiwn gwreidio; heb ei gadarnhau |
| Just Cause | Paul Armstrong | Cynhyrchydd gweithredol hefyd | |
| First Knight | King Arthur | ||
| 1996 | Dragonheart | Draco | Llais |
| The Rock | John Patrick Mason | Cynhyrchydd gweithredol hefyd | |
| 1998 | The Avengers | Sir August de Wynter | |
| Playing by Heart | Paul | ||
| 1999 | Entrapment | Robert MacDougal | Cynhyrchydd hefyd |
| 2000 | Finding Forrester | William Forrester | |
| 2003 | The League of Extraordinary Gentlemen | Allan Quatermain | |
| 2006 | Sir Billi the Vet | Sir Billi | Llais - Rhyddhad 2008, wedi animeiddio |
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ MacDonald, Stuart (2005-09-25). ["Jealous Connery beat me, says ex-wife" http://news.scotsman.com/topics.cfm?tid=652&id=1993262005.] Adalwyd ar 2007-09-29.
- ↑ "YouTube video of Connery interview". YouTube. Adalwyd ar 2007-09-29.
| Rhagflaenydd: dim |
Actor James Bond 1962 – 1967 |
Olynydd: George Lazenby |
| Rhagflaenydd: George Lazenby |
Actor James Bond 1971 |
Olynydd: Roger Moore |