Terence Young

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Stewart Terence Herbert Young (20 Mehefin, 1915 – 7 Medi, 1994) yn gyfarwyddwr ffilmiau Prydeinig. Cafodd ei eni yn Shanghai, Tseina a derbyniodd addysg breifat. Astudiodd Hanes Dwyreiniol yng Ngholeg St. Catherine, Prifysgol Caergrawnt. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo tair ffilm, gan gynnwys y ffilm gyntaf yn y gyfres James Bond sef Dr. No (1962) yn ogystal â From Russia With Love (1963), a Thunderball (1965).