Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958
| Paul Robeson ar y llwyfan yn ystod y gymanfa ganu. | |
| Lleoliad | Glyn Ebwy, Blaenau Gwent |
|---|---|
| Cynhaliwyd | 1958 |
| Enillydd y Goron | Llewelyn Jones o Lanbadarn |
| Enillydd y Gadair | T. Llew Jones |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958 yn nhref Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. Er bod y rheol Gymraeg wedi'i sefydlu, bu eithriadau yn yr Eisteddfod hon; fe siaradodd Aneurin Bevan, yr aelod seneddol lleol o 1929 tan 1960, yn y Saesneg, gan na throsglwyddodd ei rieni'r iaith Gymraeg iddo, a oedd yn arferiad cyffredin y dyddiau hynny. Disgrifiodd Bevan yr Eisteddfod fel "conglfaen gwareiddiad", ac anogodd beidio â chyfeirio at 'Gymru a Mynwy' mwyach gan mai nodweddion Cymreig oedd i bobl Mynwy.
Bu cryn ddadlau yn y wasg ynglŷn â'r rheol Gymraeg; roedd y Western Mail yn dadlau am lai o Gymraeg yn yr Eisteddfod, er mwyn y di-Gymraeg, ond yr oedd eraill yn poeni y byddai'r Eisteddfod yn dychwelyd i fod yn ddwyieithog unwaith yn rhagor. Roedd y rheol Gymraeg yn golygu bod cannoedd o bobl yng Nglyn Ebwy wedi eu diddori yn y Gymraeg ac yn awyddus i'w dysgu.
T. Llew Jones oedd enillydd y gadair, bardd ac awdur nifer fawr o lyfrau darllen i blant. Testun yr awdl oedd 'Caerllion-ar-Wysg'. Yn yr awdl, mae tad-cu yn poeni bod ei ŵyr yn cyfeillachu gyda'r Rhufeiniaid, gan ddysgu eu hiaith a'u diwylliant ac yn troi'i gefn ar Gymru a'r Gymraeg. Roedd y neges hon yn hynod o berthnasol i'r hyn oedd yn digwydd yng Nghymru ym 1958 a hyd yn oed heddiw.
Bu dadleuon eraill hefyd yn Baner ac Amserau Cymru; beirniadodd R Gerallt Jones y beirniaid am eu dibyniaeth ar chwaeth bersonol a'u safon isel, a beirniadodd Kate Roberts yr Eisteddfod am beidio â thalu sylw teilwng i'r nofel a diffyg urddas seremoni'r fedal ryddiaith.
Ffeithiau ac enillwyr [golygu]
- Enillydd y Goron: Llewelyn Jones o Lanbadarn ar y pwnc 'Cymod'.
- Enillydd y Gadair: T. Llew Jones gyda'r awdl "'Caerllion-ar-Wysg'"
- Ymwelodd Paul Robeson â'r Eisteddfod hon: gweler ei lun uchod.