Eisteddfod Genedlaethol Cymru Treffynnon 1869

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Treffynnon 1869
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1869 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadTreffynnon Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1869 yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, ar 31 Awst-1 Medi 1869, ddydd Mawrth a dydd Mercher.[1] Roedd Eisteddfod Genedlaethol i fod ei chynnal yn Aberhonddu y flwyddyn hon ond roedd y sefydliad wedi mynd i ddyled o £1276 17s 4c (tua £131,428 ym mhrisiau 2016) a penderfynodd y pwyllgor lleol ohirio yr eisteddfod tan 1870.[2][3] Yn hytrach cynhaliwyd "Eisteddfod Goronog" yn Nhreffynnon dros ddeuddydd gyda'r elw i'w drosglwyddo i'r Eisteddfod Genedlaethol. Codwyd pabell oedd yn ddigon i ddal 1,100 o bobl a roedd cyngerdd ar y nos Fawrth.

Cynigiwyd Y Goron am awdl ar y testun "Milflwyddiant". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a traddodwyd beirniadaeth Gwilym Hiraethog gan Pedr Mostyn. Cyhoeddwyd fod "Galarwr gwyl ei eiriau" yn deilwng a datgelwyd mai'r Parch Richard Mawddwy Jones oedd y bardd buddugol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Yr Eisteddfod Genedlaethol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-09-11. Cyrchwyd 2016-08-13.
  2. "ABERHONDDUI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1869-04-07. Cyrchwyd 2016-08-16.
  3. "YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL - Y Dydd". William Hughes. 1869-05-21. Cyrchwyd 2016-08-16.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.