Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1889 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1889 yn Aberhonddu, Sir Frycheiniog (Powys bellach), o ddydd Mawrth 27 Awst hyd ddydd Gwener 30 Awst 1889, ar faes yng Ngherrigcochion, Aberhonddu. Roedd y pafiliwn anferth, a gynllunwyd i'r pwrpas gan un Mr Clark o Stoke-on-Trent, yn medru dal 8,000 o bobl. Cawsai'r Eisteddfod Genedlaethol ei chyhoeddi ar y Maen Llog yn Aberhonddu ar 10 Gorffennaf 1888 gan yr Archdderwydd Clwydfardd gyda chymorth Hwfa Môn, Dewi Wyn o Essyllt, Watcyn Wyn, Tudno ac eraill. Dywedir fod dros 2,000 wedi gwylio'r orymdaith trwy'r dref.

Darllenodd John Morris-Jones bapur ar bwnc orgraff yr iaith Gymraeg sy'n garreg filltir yn hanes sefydlu'r orgraff diweddar.

Enillodd Pedr Hir y wobr am gyfansoddi rhamant (yn cyfateb i'r Fedal Ryddiaith heddiw) am ei stori 'Rhamant Syr Rhys ap Thomas'; y beirniad oedd neb llai na'r nofelydd enwog Daniel Owen.

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Y Beibl Cymraeg - Evan Rees (Dyfed)
Y Goron Llewelyn ein Llyw Olaf - Howell Elvet Lewis (Elfed)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Cofnodion a chyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Aberhonddu, 1889, dan olygyddiaeth E. Vincent Evans (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1889).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.