Rowland Williams
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Hwfa Môn)
Hwfa Môn yn ei wisg archdderwydd, gan Christopher Williams
Bardd oedd Rowland Williams (Hwfa Môn) (1823-1905) ac un o ffigyrau cyhoeddus mwyaf adnabyddus ei ddydd. Bu'n Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru o 1895 ymlaen.
Ganed Hwfa Môn yn Nhrefdraeth, Ynys Môn, ond cafodd ei fagu yn Rhostrehwfa ar yr ynys ; cymerodd ei enw barddol o enw'r pentref bychan hwnnw. Gweithiodd am gyfnod fel gweinidog gyda'r Annibynwyr mewn rhannau eraill o ogledd Cymru a hefyd yn Llundain. Yn 1881 dychwelodd i Fôn i fod yn weinidog yn Llannerch-y-medd.
Yn 1862 enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 1867 enillodd y Goron (dyma flwyddyn gyntaf cystadleuaeth y Goron).
Yn 1905 cafodd ei bortreadu yn ei wisg Orseddol gan yr arlunydd Christopher Williams.
Llyfryddiaeth [golygu]
Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth,
- Gwaith Barddonol Hwfa Môn; Argraffwyd gan Jane ac E Jones, Llanerchymedd (1883, 1903)