Edward Owen (Maes Llaned)

Oddi ar Wicipedia
Edward Owen
Ganwyd6 Chwefror 1846 Edit this on Wikidata
Llandderfel Edit this on Wikidata
Bu farw29 Hydref 1931 Edit this on Wikidata
Talaith Chubut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Yr Ariannin Yr Ariannin
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata

Roedd Edward Owen, (6 Chwefror 1846 - 29 Hydref 1931) yn beiriannydd, syrfëwr a masnachwr o Gymru a wasanaethodd fel cadeirydd Cyngor Dinas Chubut deirgwaith. Roedd yn un o arloeswr gwladychu Cymreig yn nyffryn isaf Afon Chubut ac ar ynys Choele Choel, yn nhalaith Río Negro, yr Ariannin.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef ar 6 Chwefror 1846 ar Fferm Tŷ Uchaf, Llandderfel, ger y Bala, Sir Feirionnydd. Ei dad oedd Owen Owens, tenant y fferm, a'i wraig Mary Jones, a oedd â dau fab arall, a thair merch.

Bywyd ym Mhatagonia[golygu | golygu cod]

Ymadawodd Edward Owen am Batagonia ar 20 Ebrill 1874 o Lerpwl, ar y llong Hipparchus [1] ynghyd â 49 o deithwyr eraill o Gymru a oedd yn dod o wahanol rannau o Gymru, gan gynnwys Aberdâr, Aberteifi, Rhuthun a Ffestiniog. Gan gyrraedd Chubut ym Mhatagonia, fel y rhan fwyaf o fewnfudwyr o ffermwyr, trosglwyddwyd 100 hectar o dir yn ardal Drofa Dulog yn nyffryn isaf Afon Camwy rhwng pentrefi Gaiman a Threlew iddo.[2]

Gweithiodd Edward Owen ei fferm i drawsnewid y tir ac adeiladu ei dŷ a'i atodiadau. Gwnaeth cyflwyno peiriannau amaethyddol am y tro cyntaf yn Chubut. Enw'r fferm oedd "Maes Llaned", sef Maes Llan Ed(ward). Yn ei fferm roedd ganddo siop gof a gweithdy mecanyddol lle adeiladodd ei gerbydau ei hun. Fe greodd melin ddŵr a generadur ei hun i gynhyrchu trydan gan ddefnyddio sianel ddŵr Afon Chubut gerllaw. Ei fferm oedd y cyntaf yn y dyffryn cyfan, ledled talaith Chubut, ac o bosibl ar draws Patagonia, i gael trydan.

Erbyn 1876 roedd Edward Owen wedi creu argraff dda ymysg awdurdodau'r Ariannin am ei wybodaeth a'i sgiliau peirianneg. Cafodd ei benodi i gynnal arolwg a mesur y tiroedd ar ochr ddeheuol Afon Chubut, gyda'r bwriad o'u paratoi ar gyfer mewnfudwyr newydd. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys cynllunio'r rhwydwaith o ffyrdd neu lwybrau gwell, byddai'n addas ar gyfer cysylltu'r ardal o ffermydd bach yn y dyffryn â Puerto Madryn lle gellid allforio cynhyrchion amaethyddol.[3]

Am flynyddoedd lawer roedd yn berchen ar ran o long o'r enw Monte León, a ddefnyddiwyd ar gyfer masnach rhwng y wladfa a Buenos Aires, ac ym 1893 fe'i penodwyd yn llywydd y Phoenix Patagonian Mining Company. Cwmni cwbl Gymreig oedd hwn a grëwyd i archwilio'r posibiliadau o fanteisio ar fwyngloddio metel gwerthfawr ym mynyddoedd yr Andes. Roedd Llwyd ap Iwan hefyd yn rhan o'r cwmni hwnnw.[4] Er gwaethaf yr holl weithgareddau hyn, cymerodd Edward Owen amser i fynychu gwasanaeth Sul yng nghapel Nasareth yn Drofa Dulog, lle roedd hefyd yn deacon ac yn rhoddwr y tir lle adeiladwyd y capel.[5]

Bu'n llywydd Comisiwn Bwrdeistrefol Chubut (yr unig fwrdeistref ar y pryd, sef Gaiman bellach) ym 1894, 1896 a 1897, a chynghorydd ym 1887, 1900 a 1901. Bu hefyd yn aelod a llywydd Cyngor Bwrdeistref Trelew. Roedd Owen hefyd yn llywydd Dinesig Rawson ym 1895. Yn ystod ei gyfnod gweinyddol cynlluniwyd adeiladu'r ar gyfer llys barn, carchar a gorsaf heddlu.

Erbyn 1903, roedd Owen yn cyfarwyddo'r gwaith adeiladu camlesi yn ardal Choele Choel. Ystyrir Owen fel sylfaenydd wladfa Gymreig Rio Grande, Luis Beltrán, a oedd yn cael ei alw'n Villa Galense yn ei flynyddoedd cynnar.[6] Symudodd Owen i Río Negro ar gais llywodraethwr y Diriogaeth Genedlaethol José Eugenio Tello, a fu hefyd yn llywodraethwr Chubut. Aeth tua saith deg o ddynion gyda'u teuluoedd i'w ganlyn yno.

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu'n briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd Elizabeth Jones a briododd ym 1876, Owen oedd ei thrydydd gŵr, bu iddynt chwech o blant. Bu Elizabeth farw ym 1889 wedi geni ei phlentyn olaf.[7] Priododd eto ym 1890 a Mary Rogers gan gael chwe phlentyn arall.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, "Maes Llaned," yn ardal Drofa Dulog, ar 29 Hydref 1931 yn 85 mlwydd oed. Daearwyd ei weddillion y dydd canlynol ym mynwent Trelew yng ngŵydd tyrfa enfawr.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Y FINTAI BATAGONAIDD - Y Dydd". William Hughes. 1874-04-24. Cyrchwyd 2019-07-23.
  2. "LLANDDERFEL - Y Dydd". William Hughes. 1874-10-30. Cyrchwyd 2019-07-23.
  3. "ORWLADFAGYMREIG - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1904-04-12. Cyrchwyd 2019-07-23.
  4. Companion to the Welsh Settlement in Patagonia Archifwyd 2022-06-09 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 23 Gorffennaf 2019
  5. "GOHEBIAETHAU - Y Celt". H. Evans. 1892-10-21. Cyrchwyd 2019-07-23.
  6. TESTIMONIOS VARIOS - II adalwyd 23 Gorffennaf 2019
  7. "Anqeu - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-05-29. Cyrchwyd 2019-07-23.
  8. Y Ford Gron, Cyf 2; rhif 3; Tud 25; Ionawr 1932 PATAGONIA'N COLLI UN O'I SEFYDLWYR adalwyd 23 Gorffennaf 2019