Delta, Pennsylvania

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Delta yn fwrdeistref yn Swydd York, Pennsylvania, yn yr Unol Daleithiau, ac yn un o gymunedau mwyaf deheuol ym Mhennsylvania. Mae'n ffinio â Cardiff, Maryland sydd i'r de iddi. Roedd y boblogaeth yn 728 yn ôl cyfrifiad 2010.[1]

Hanes[golygu]

Lleolir Delta yng nghanol Rhanbarth Llechi Peach Bottom. Agorwyd chwareli llechi yn Delta yn y 1840au, wrth i chwarelwyr gyrraedd o Gymru. Yn Arddangosfa Crystal Palace 1850, barnwyd mai llechi Peach Bottom oedd y gorau yn y byd. Mae'r rhan fwyaf o dai Delta yn dal i fod a thoeau llechi, ac mae gweddillion y palmentydd llechi glas-ddu gwreiddiol yn dal i fodoli ar draws y fwrdeistref .

Daeth Rheilffordd Peach Bottom i Delta yn 1876, gan gludo llechi ar hyd ei llinell i Red Lion a York. O'r de cyrhaeddodd y Maryland Central Railroad yn Delta yn 1883 a dechreuodd trenau redeg o Delta i Bel Air, Maryland a Baltimore yn 1884. Cafodd y ddwy linell eu holynu yn ddiweddarach gan y Maryland and Pennsylvania Railroad, a oedd yn weithredol tan 1978. Roedd y chwarel lechi yn gwsmer pwysig i’r gwasanaeth cludo nwyddau hyd at 1971.

Ardal Hanesyddol[golygu]

Rhestrwyd Ardal Hanesyddol Delta ar y Gofrestr Genedlaethol o Safleodd Hanesyddol yn 1983.

Cysylltiad â Chymru[golygu]

Capel Cymraeg Rehoboth

Capel Rehoboth[golygu]

Mae Capel Cymraeg Rehoboth yn Delta yn eglwys Gristnogol anenwadol sy'n cynnal gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.[2] Cynhelir gwersi Cymraeg gan y capel.[3] Mae ei chôr Cymraeg wedi ennill gwobr wrth gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mynwent Slateville[golygu]

Ym mynwent Eglwys Brebysteriadd Slatville, sydd i'r gogledd ddwyrain o Delta, fe gladdwyd nifer o'r mewnfydwyr o Gymru gyda nifer o cerrig beddau gyda'r Gymraeg arnynt yn unig.[4] Mae'r enwau lleodd canlynol o Gymru yn ymddangos arnynt: Bangor, Beddgelert, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Bryncrug, Caernarfon, Clwt y Bont, Coed Mawr, Corris, Ogwen, Dinorwig, Dowlais, Ebenezer, Ffestiniog, Llanllechid, Llanberis, Llanddeiniolen, Llanrug, Pennal, Penrhyndeudraeth, Pentrefoelas, Sir Gaerfyrddin, Tyn y Maes, Waunfawr, Bwlch Uchaf, Nant Uchaf a Nant y Graean.

Un o fythynod chwarelwyr Coulsontown

Bythynnod chwarelwyr Coulsontown[golygu]

Tua tri chwarter milltir i'r dwyrain o Delta ceir Coulsontown, lle saif pedwar bwthyn sydd wedi eu hadeiladu yn arddull bythynnod chwarelwyr a geir yng Nghymru.[5] Yn 2006 fe brynwyd dau ohonynt gan yr Old Line Museum ac mae'nt yn cael eu hadfer i'w cyflwr gwreiddiol ac ar agor i'r cyhoedd.[6]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]