Ardal Hanesyddol Bythynnod Coulsontown

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Un o fythynnod chwarelwyr Coulsontown

Mae Ardal Hanesyddol Bythynnod Coulsontown (Saesneg:Coulsontown Cottages Historic District) yn ardal hanesyddol cenedlaethol yn Coulsontown yn Peach Bottom Township yn Swydd York, Pennsylvania, tua tri chwarer milltir i'r dwyrain o Delta. Mae'r ardal yn cynnwys pedwar adeilad. Maent yn fythynnod carreg a adeiladwyd rhwng 1845 a 1865 gan chwarelwyr o Gymru ac yn anneddau deulawr, 2/3 bae o led ac 1 bae o hyd, gyda llechi'n gorchuddio'r toeau talcen a simneiau ar y ddau ben. Mae dwy ystafell i lawr y grisiau a dwy ystafell i fyny'r grisiau.[1]

Ychwanegywd at y Gofrestr Genedlaethol o Leoedd Hanesyddol ym 1985.[2]

Yn 2006 fe brynwyd dau ohonynt gan yr Old Line Museum ac mae'nt yn cael eu hadfer i'w cyflwr gwreiddiol ac ar agor i'r cyhoedd.[3]

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]