Ceri Wyn Jones
| Ceri Wyn Jones | |
|---|---|
| Geni | Ceri Wyn Jones Rhagfyr 5, 1967 |
| Galwedigaeth | Bardd |
| Addysg | Ysgol Uwchradd Aberteifi, Prifysgol Aberystwyth |
| Gwaith nodedig | Byd Llawn Hud, Dwli o Ddifri, Dauwynebog |
| Gwobrau nodedig | Cadair a Choron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Priod | Catrin |
| Plant | Gruffudd, Ifan |
Bardd Cymraeg ydy Ceri Wyn Jones (ganed 5 Rhagfyr 1967), sy'n adnabyddus am ennill Cadair a Choron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Cynnwys |
Bywgraffiad[golygu]
Ganed yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford a magwyd ef yno ac yn Aberteifi a Phen y Bryn yng ngogledd Sir Benfro. Mynychodd ysgolion cynradd Cilgerran ac Aberteifi, cyn mynd i Ysgol Uwchradd Aberteifi.
Dysgodd gynganeddu mewn cyfres o weithdai gyda T. Llew Jones pan oedd yn 17 oed. Ysgrifennodd Ceri Wyn Jones gyfres o englynion i T. Llew Jones i ddathlu ei benblwydd yn 90 oed.[1]
Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dechrau dysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Llandysul, lle bu'n bennaeth yr adran Saesneg am ddros degawd. Gadawodd byd addysg i ddilyn gyrfa fel golygydd gyda Gwasg Gomer yn 2002.[2]
Ef oedd Prifardd y Gadair, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 1997, am ei awdl Gwaddol. Enillodd hefyd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 2009 am gerddi ar y testun Yn y Gwaed, a oedd wedi eu cyflwyno i'w ewythr, y diweddar Barchedig Aled ap Gwynedd.[2]
Wedi ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru o 2003 hyd 2004, cyhoeddodd y gyfrol Dwli o Ddifri i blant, a chyrhaeddodd honno restr fer Gwobr Tir Na-n Og yn 2005. Er na enillod y gyfrol hon y wobr, roedd Ceri hefyd wedi cyfrannu at y gyfrol fuddugol, sef Byd Llawn Hud. Yn 2007, ef oedd awdur geiriau cân fuddugol Cân i Gymru, sef Blwyddyn Mâs, a ganwyd ac a gyfansoddwyd gan Einir Dafydd. Cyrhaeddodd ei gyfol gyntaf o gerddi, Dauwynebog, restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008.[2]
Derbyniodd ysgoloriaeth gan yr Academi yn 2008, i ddechrau gwaith ar ail gyfrol o farddoniaeth.[2]
Gwaith[golygu]
Cerddi a barddoniaeth[golygu]
- Byd Llawn Hud (Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Sonia Edwards, Elinor Wyn Reynolds), Gorffennaf 2004 (Gwasg Gomer)
- Dwli o Ddifri, Hydref 2004 (Gwasg Gomer)
- Dauwynebog, Tachwedd 2007 (Gwasg Gomer)
- Nawr 'Te, Blant, Mehefin 2008 (Gwasg Gomer)
- Nawr 'Te, Blant/Now Then, Children, Chwefror 2009 (Gwasg Gomer)
Gwobrau ac anrhydeddau[golygu]
- 1997 – Prifardd y Gadair, Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 1997 – Gwaddol
- 2003–2004 – Bardd Plant Cymru
- 2009 – Coron, Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 2009 – Yn y Gwaed
Bywyd Personol[golygu]
Mae Ceri Wyn yn briod â Catrin a mae ganddynt ddau fab; Gruffudd ac Ifan.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Llyfr y Flwyddyn. Gwefan y BBC. Adalwyd 12-07-2009
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Rhestr Awduron Cymru: JONES, CERI WYN. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 19 Awst 2011.