Sonia Edwards

Oddi ar Wicipedia
Sonia Edwards
Ganwyd1961 Edit this on Wikidata
Cemaes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdures Gymreig yw Sonia Edwards (ganed Cemaes, Ynys Môn), enillydd Llyfr y Flwyddyn ym 1996, Medal Ryddiaith 1999 a 2017. Bu'n athrawes yn Ysgol Gyfun Llangefni cyn ymddeol yn gynnar i sgwennu'n llawn amser.[1]

Addysg[golygu | golygu cod]

Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Cemaes, Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones a Phrifysgol Bangor.[2]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999 gyda Rhwng Noson Wen a Phlygain ac enillodd eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 gyda Rhannu Ambarél. Daeth Y Goeden Wen yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.

Enillodd y gyfrol Byd Llawn Hud o farddoniaeth (a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Sonia Edwards, Ceri Wyn, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, ac Elinor Wyn Reynolds) Wobr Tir na n-Og yn 2003.[3]

Roedd ei llyfr Merch Noeth ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Hyd at 2017 roedd wedi cyhoeddi 27 o nofelau a chasgliadau o straeon byrion i blant, pobl ifanc ac oedolion.[4]

Personol[golygu | golygu cod]

Mae'n fam i Rhys, sy'n athro ac yn brif leisydd y grŵp Fleur de Lys, ac yn byw yn Llangefni.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Sonia Edwards. Y Lolfa. Adalwyd ar 13 Mehefin 2011.
  2.  Adnabod Awdur: Sonia Edwards. Cyngor Llyfrau Cymru (2009).
  3.  BYWGRAFFIADAU AWDUR: Sonia Edwards. Gomer. Adalwyd ar 13 Mehefin 2011.
  4. Gwefan lleol.cymru; adalwyd 9 Awst 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]