Tudur Dylan Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tudur Dylan Jones
Tudur Dylan Jones.jpg
Tudur Dylan Jones ym mis Mawrth 2010
Ganwyd (1965-06-30) 30 Mehefin 1965 (49 oed)
Caerfyrddin, Cymru
Galwedigaeth Bardd, athro

Prifardd ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007 yw Tudur Dylan Jones ai adnabyddir fel arfer fel Tudur Dylan (ganed 30 Mehefin 1965). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995, pan oedd ei dad, y Prifardd John Gwilym, yn archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Ef yw meuryn Ymryson y Beirdd a gynhelir yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Fe'i ganed yng Nghaerfyrddin, ond fe'i maged ym Mangor, lle mynychodd Ysgol Tryfan. Ym Mangor yr aeth i'r Brifysgol hefyd. Athro ysgol yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli yw Tudur Dylan wrth ei alwedigaeth. Bellach mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i wraig a dwy ferch fach.

Ef oedd Bardd Plant Cymru 20042005.

Llyfryddiaeth[golygu]

Dolenni allanol[golygu]


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.