Brwydr Cilgerran

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Cilgerran
Mathbrwydr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlywelyn ap Gruffudd, Harri III, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCilgerran Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfnod8 Medi 1258 Edit this on Wikidata

Roedd Brwydr Cilgerran, a ymladdwyd ar 8 Medi 1258, yn un o fuddugoliaethau mwya'r Cymry yn erbyn y Saeson, gan ddilyn yn agos at sodlau buddugoliaethau eraill yng Nghymerau ac yng Nghydweli. Roedd Llywelyn hefyd wedi cipio sawl castell yn ôl i ddwylo'r Cymry, gan gynnwys cestyll a threfi Talacharn, Llansteffan ac Arberth. Disgrifir y frwydr mewn sawl cronicl o'r cyfnod, ceir cronicl llawn iawn (y Chronica Majora gan Mathew Paris) yn ogystal â thestun-B yr Annales Cambriae. Hyd yn ddiweddar, nid oedd trawsysgrifiad modern o'r gweithiau hyn ar gael, felly ni ddaeth pwysigrwydd y frwydr i'r amlwg tan yn ddiweddar (21c).[1]

Yn wahanol i lawer o frwydrau'r cyfnod gwyddom union enwau arweinwyr y ddwy fyddin a'r union leoliad hefyd - i'r gogledd-orllewin o Gastell Cilgerran.

Y cefndir[golygu | golygu cod]

Erbyn Gwanwyn 1257 roedd Gruffudd ap Gwenwynwyn wedi'i drechu a Chymry'r de wedi ymuno gyda Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, rhwng y Tywi a'r Tawe er mwyn chwynu'r Saeson a oedd wedi dechrau ymsefydlu mewn rhannau o Gymru yn ôl i Loegr. Oherwydd fod y Cymry yn ymgasglu dan faner Llywelyn, danfonodd Harri III, brenin Lloegr ei frawd Richard i gynorthwyo Patrick de Chaworth, distain Castell Caerfyrddin, a Norman a oedd yn deyrngar i Harri. Ar 31 Mai gadawodd Stephen Bauzan Gastell Caerfyrddin gyda'r bwriad o ymosod ar y Cymry ger Dinefwr. Gydag ef roedd uchelwr o'r enw Rhys Fychan. Ymosodwyd arnynt gan y Cymry, newidiodd Rhys Fychan ei ochr gan adael y fyddin Normanaidd a chafwyd dwy fuddugoliaeth fawr yn yr hyn a elwir yn Frwydr Coed Llathen ac yna Frwydr Cymerau.

Yn 1258 galwodd Llywelyn holl is-dywysogion ac uchelwyr Cymru ato i dalu teyrnged iddo, casglodd drethi a galwodd ei hun yn "Dywysog Cymru" yn hytrach na "Thywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri".

Y frwydr[golygu | golygu cod]

Erbyn 17 Mehefin 1258 roedd Maredudd ap Rhys wedi troi ei got ac yn deyrngar i Harri III, brenin Lloegr. Roedd Llywelyn ap Gruffudd yn gandryll am hyn, a llosgodd diroedd a meddiant Maredudd ap Rhys yn Nyffryn Tywi ond gyda chymorth Patrick de Chaworth daliodd ei afael mewn ambell gastell.

Trechwyd Maredydd a Patrick ger Cydweli a dinghanodd y Saeson a oedd yn weddill i loches Castell Caerfyrddin. Symudodd byddin y Cymry, dan arweiniad Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn, eu gwersyll o Faenordeifi yn agos at Gastell Cilgerran. Prif gapteiniaid Dafydd oedd Rhys Fychan ap Rhys Mechyll (m. 1271), Maredudd ab Owain (m.1265) ac Owain ap Gruffudd. Ymddengys eu bod yn awyddus i drafod heddwch gyda Patrick de Chaworth a'r rebel Maredudd ap Rhys. Sylweddolodd y ddau fod ganddynt fyddin llawer mwy na Byddin Cymru ac felly penderfynwyd ymosod arnynt gan gasglu eu byddin yn Aberteifi a'u martsio i Gilgerran.

Cyrhaeddodd y fyddin Saesnig Cilgerran ganol dydd ar 8 Medi 1258, yn ôl Annales Cambriae, gyda marchogion mewn arfwisgoedd ar y blaen. Cafwyd brwydr waedlyd iawn, yn ôl un cronicl, ond o dipyn i beth sylweddolwyd fod y Saeson yn cael eu trechu, gyda nifer ohonynt yn rhedeg am eu bywydau i gestyll Cilgerran ac Aberteifi, yn hytrach nag ymladd.

Roedd y Saeson wedi dibynnu ar ddwy ffactor: yr elfen o sypreis a'r ffaith fod eu byddin nhw yn llawer mwy. Ond mae'n amlwg na lwyddodd hynny, a'r Cymry oedd yn fuddugol. Lladdwyd Patrick de Chaworth, distain Castell Caerfyrddin, un o'u milwyr mwyaf profiadol, Syr Walter Malefant a Hugh de Vyun. Daliwyd y bradwr Maredudd ap Rhys ar 28 Mai 1259, rhoddwyd ef o flaen y llys Cymreig, a'i gael yn euog; carcharwyd ef yng Nghastell Cricieth am gyfnod o dair blynedd.

Cryfhaodd y fuddugoliaeth hon bwer Llywelyn II gryn dipyn, yn enwedig yn y cyfnod a oedd yn arwain at arwyddo Cytundeb Trefaldwyn yn 1261, pan gytunodd brenin Lloegr fod Llywelyn yn Dywysog Cymru.

Disgrifiadau[golygu | golygu cod]
Brut y Tywysogyon (fersiwn Y Llyfr Coch)

Y ulwydyn honno yd aeth Dauid ap Gruffud a Maredud ap Ywein a Rys Vychan ap Rys Mechyll y ymdidan a Meredud ap Rys a Phadric Dysaws, synyscal y brenhin yg Kaer Vyrdyn, hyt yn Emlyn. Pann [126] welas Maredud a Phadric y gwyr ereill, torri kygreir a wnaetha.

Brenhinedd y Saesson

Yn y vlwyddyn honno yr aeth Davydd ap Grufydd ap Llywelyn ap Jerwerth a Mredudd a owain a Rys Vychan ap Rys Mechyll I ymddivann a Mredudd ap Rys Gryc a Phadric dwysoc, synysgal y brenin, I Gaer Vyrddin. Pann weles Meredudd ap Rys a Phadric y gwyr, tori arnvnt a orvgant. Yno y llas Padric a llawer o varchogion.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol - a ariennir gan Lywodraeth Cymru; dyddiad - Tachwedd 2013; adalwyd 16 Gorffennaf 2018.
  • Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol; comisiwn gan Lywodraeth Cymru'