Neidio i'r cynnwys

Y Saith Gysgadur

Oddi ar Wicipedia

Mae'r Saith Gysgadur (neu'r Saith Cysgadur) yn enw traddodiadol ar gasgliad o saith o anifeiliaid y credid eu bod yn gaeafgysgu.

Gan amlaf, mae'r saith heddiw yn cynnwys y canlynol:[1]

Mewn gwirionedd, er eu bod yn treulio cyfnodau o'r gaeaf mewn cyflwr o gysgadrwydd, nid yw'r mochyn daear na'r wiwer yn gaeafgysgu.

Mae'r ymadrodd 'y saith gysgadur' i'w glywed ar lafar am y sawl a ystyrir yn or-hoff o'i wely, e.e. ' "Wel, y saith gysgadur, wyt ti wedi codi?" ' yn nofel Daniel Owen, Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (1885).[2]

Chwedl Saith Gysgadur Effeseus

[golygu | golygu cod]

Mae'n anodd gwybod beth yw'r cyswllt rhwng y rhestr o saith anifail, y defnydd llafar o'r ymadrodd a Chwedl y Saith Gysgadur (Groeg: ἑπτὰ κοιμώμενοι, rhufeinedig: hepta koimōmenoi; Lladin: Septem dormientes), a elwir hefyd yn Chwedl Saith Gysgadur Effeseus, ac yn Islam yn Aṣḥāb al-Kahf, sef Cymdeithion yr Ogof. Mae fersiwn Cristnogol y chwedl y sôn am saith bachgen ifanc sy'n cuddio mewn ogof y tu allan i ddinas Effesus (heddiw Selçuk, yn Nhwrci) oddeutu 250OC i ddianc rhag erledigaeth y Rhufeiniaid yn erbyn y Cristnogion, cyn ailymddangos ymhen blynyddoedd lawer. Mae fersiwn y Qur'an i'w gael yn Swra 18 (18:9–26). Roedd y chwedl hon yn gyfarwydd ledled Ewrop, gan gynnwys Cymru, yn yr Oesoedd Canol. Dywed Geiriadur Prifysgol Cymru am yr ymadrodd 'y saith gysgadur', 'lit. the seven sleepers, possibly the number may have been suggested by the Seven Sleepers of Ephesus said to have hidden in a cave during the Dacian persecution and to have slept there for several hundred years'.[1]

Edward Jones, Bardd y Brenin (1752–1824)

[golygu | golygu cod]

Ystyriai Edward Jones fod y saith gysgadur yn rhan o wybodaeth gyfrin y derwyddon. Mae'n eu rhestru fel a ganlyn:[3]

Ellis Owen (1789–1868), Cefn y Meysydd

[golygu | golygu cod]

Dywed Ellis Owen yn Cell Meudwy (1877) nad yw'n gwybod pa anilfeilaid sydd i'w cynnwys ymhlith y saith gysgadur, ond mae'n cynnig y rhestr hon:[4]

Mae rhestr Ellis Owen yn adlewyrchu'r hen gred mai gaeafgysgu yn hytrach na mudo a wnâi adar na welir mohonynt yn ystod y gaeaf.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Geiriadur Prifysgol Cymru".
  2. Owen, Daniel (1885). Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel. Wyddgrug. t. 389.
  3. Jones, Edward (1802). The Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards, vol. II: The Bardic Museum. London: The Author. t. 53.
  4. Owen, Ellis (1877). Cell Meudwy, sef Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ellis Owen, F. A. S. Cefnymeusydd. Tremadog: R. I. Jones. t. 71.