Tinwen y garn
Gwedd
| Tinwen y garn | |
|---|---|
| Ceiliog yn Llydaw | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Muscicapidae |
| Genws: | Oenanthe |
| Rhywogaeth: | O. oenanthe |
| Enw deuenwol | |
| Oenanthe oenanthe (Linnaeus, 1758) | |
Aderyn bychan o deulu'r Muscicapidae yw Tinwen y garn (ll. tinwennod; enw Lladin:Oenanthe oenanthe); yn flaenorol ystyrid ei fod yn aelod o deulu'r bronfreithod, y Turdidae. Mae'n rywogaeth cyffredin iawn yn Ewrop a rhannau o Asia. Mae'n 14½–16 cm o hyd, fymryn yn fwy na Robin Goch. Daw'r enw o'r darn gwyn uwchben y gynffon, rhywbeth sy'n amlwg iawn wrth i'r aderyn hedfan i ffwrdd.

Mae Tinwen y garn yn aderyn mudol, yn symud tua'r de i Affrica yn y gaeaf. Ar dir agored y mae'n nythu, yn enwedig lle mae cerrig neu greigiau. Yng Nghymru, mae'n aderyn nodweddiadol o'r ucheldiroedd; er enghraifft mae'n nythu bron hyd at gopaon mynyddoedd uchaf Eryri.
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Un peth a fu’n nodwedd o wanwyn 2013 oedd y fflyd o dinwennod y garn a gyrhaeddodd gogledd Cymru ddiwedd Mawrth ac a arhosodd yn y caeau gydol Ebrill a hyd yn oed hanner cyntaf Mai (cyn un ai ymsefydlu yma a pharu neu symud yn eu blaenau.)[1]
Aelodau eraill o'r un teulu
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
| label | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Adeinfyr torwyn | Sholicola major | |
| Bronlas | Luscinia svecica | |
| Q55115630 | Dessonornis anomalus | |
| Q28837044 | Dessonornis archeri | |
| Dessonornis macclounii | Dessonornis macclounii | |
| Dessonornis mbuluensis | Dessonornis mbuluensis | |
| Eos | Luscinia megarhynchos | |
| Eos fraith | Luscinia luscinia | |
| Luscinia brunnea | Luscinia brunnea | |
| Luscinia calliope | Luscinia calliope | |
| Robin-grec torwyn | Dessonornis humeralis | |
| Robin-grec y Penrhyn | Dessonornis caffer | |
| White-bellied Blue Robin | Sholicola albiventris | |
| Stiphrornis dahomeyensis | Stiphrornis dahomeyensis | |
| Stiphrornis inexpectatus | Stiphrornis inexpectatus |
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.









