Y Llen Fambŵ

Oddi ar Wicipedia
Y Llen Fambŵ
Y Llen Fambŵ yn 1959, gyda gwledydd y Byd Cyntaf yn las, yr Ail Fyd yn goch, a'r Trydydd Byd yn llwyd. Dangosir ffiniau cyfredol cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd er gwybodaeth.
Enghraifft o'r canlynolpolitical border Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enw trosiadol ar y rhaniad gwleidyddol yn Nwyrain a De Ddwyrain Asia yn ystod y Rhyfel Oer yw'r Llen Fambŵ. Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf yng nghylchgrawn Time ar 7 Tachwedd 1949,[1] trwy gydweddiad â'r Llen Haearn, i ddisgrifio'r cyfyngiadau a orfodwyd gan lywodraeth gomiwnyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina ar fudiad rhydd syniadau ac unigolion ar draws ffiniau'r wlad. Y tu ôl i'r Llen Fambŵ hefyd oedd Gogledd Corea a Gogledd Fietnam. Yn ogystal â'i gororau â thair gwladwriaeth gomiwnyddol arall—yr Undeb Sofietaidd, Gogledd Corea, a Gogledd Fietnam—mi oedd Tsieina yn ffinio â phedair gwlad oedd yn gynghreiriaid Unol Daleithiau America, sef Laos (hyd at lywodraeth y Pathet Lao yn 1975), Byrma, Bhwtan, a Phacistan, a thair o wledydd y Mudiad Amhleidiol (India, Nepal, ac Affganistan). Ffiniodd Gogledd Fietnam hefyd â Laos yn ogystal â De Fietnam, a Gogledd Corea yn rhannu goror â De Corea. Ym moroedd Dwyrain Asia lleolwyd rhagor o gynghreiriaid yr Unol Daleithiau: Japan, Gweriniaeth Tsieina (Taiwan), a'r Philipinau. Mi oedd Gwlad Thai, rhyw 100 km o ffiniau Tsieina, hefyd wedi ymochri â'r Unol Daleithiau.

Defnyddiwyd y term amlaf yn y 1950au, adeg Rhyfel Corea (1950–53) a rhannu Fietnam yn ddwy (1954), a phryd oedd y Tsieineaid a'r Sofietiaid yn gynghreiriaid clos. Wrth i ddiwygiadau Nikita Khrushchev i ddad-Stalineiddio'r Undeb Sofietaidd mynd rhagddi, chwyddodd yr anghytundebau ideolegol rhwng llywodraethau Moscfa a Beijing. Gwrthodwyd y syniad o "gydfodolaeth heddychlon" â'r byd cyfalafol gan Mao Zedong, a bu ymhollti rhwng cysylltiadau Tsieina a'r Undeb Sofietaidd yn y cyfnod 1956–66. Datblygodd y sefyllfa ddaearwleidyddol yn Asia felly o drefn ddeubegwn yn drefn driphegwn: y Tsieineaid, y Sofietiaid, a'r Americanwyr yn cystadlu am feysydd dylanwad. Datblygodd broses o nesâd rhwng Tsieina a'r Unol Daleithiau yn y 1970au, a symboleiddiwyd gan ddiplomyddiaeth ping-pong a thaith yr Arlywydd Nixon i Tsieina yn 1972. Erbyn y 1980au, nid oedd y Llen Fambŵ yn bodoli bellach yn ôl ambell sylwebydd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "China: Behind the Bamboo Curtain", Time (7 Tachwedd 1949). Adalwyd ar 24 Mai 2019.
  2. (Saesneg) Jerry Vondas, "Bamboo Curtain Full of Holes, Pitt Profs Say After China Visits", Pittsburgh Press (17 Hydref 1980). Adalwyd ar 24 Mai 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Priscilla Roberts (gol.), Behind the Bamboo Curtain: China, Vietnam, and the Cold War (Stanford, Califfornia: Stanford University Press, 2006).