Willie Llewellyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William 'Willie' Llewellyn
Llewellyn, ym 1905 fel capten gêm yn erbyn Lloegr
Enw llawn William Morris Llewellyn
Dyddiad geni (1878-01-01)1 Ionawr 1878[1]
Man geni Tonypandy,[1]
Dyddiad marw Rhagfyr 1973 (aged 1969–1970)
Lle marw Pontyclun[1] Wales
Taldra 5' 7+1/2
Pwysau 11 st
Ysgol U. Coleg Crist, Aberhonddu
Prifysgol Pharmaceutical College, Bloomsbury
Perthnasau nodedig Tom Williams (ewythr)
Gwaith fferyllydd
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle asgellwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
???
1895-1900
1900–1906
1902–1905
1906–???
Ystrad Rhondda
Llwynypia
Cymry Llundain
Casnewydd
Penygraig
Caerdydd
Sir Forgannwg
Surrey
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1899–1905
1904
Cymru Cymru
Y Llewod
20
4
(48)
(12)

Roedd William Morris "Willie" Llewellyn (1 Ionawr 1878 - 12 Mawrth 1973) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru. Bu'n gapten ar Gymru ym 1905 a Chymru Llundain ym 1902. Roedd yn aelod o dîm buddugol Cymru a gurodd y Crysau Duon ym 1905. Aeth ar daith gyda Thîm Ynysoedd Prydain i Awstralasia ym 1904. Bu'n rhan o garfan Gymreig a enillodd tair Coron Driphlyg. Chwaraeodd rygbi clwb i lawer o dimau, yn bennaf i Lwynypia a Chasnewydd .

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Llewellyn yn Nhonypandy, yn blentyn i Howell Llewellyn, ceidwad gwesty a Catherine ei wraig. Roedd y chwaraewr rygbi rhyngwladol Tom Williams yn ewythr iddo. Williams oedd y gŵr a awgrymodd canu Hen Wlad Fy Nhadau fel ymateb i'r Haka ar ddechrau gêm y Crysau Duon ym 1905. Y tro cyntaf yn y byd i anthen genedlaethol cael ei ganu mewn gornest chwaraeon. Addysgwyd Llewellyn yng Ngholeg Crist, Aberhonddu; lle fu'n gapten tîm rygbi'r coleg,[2] a Choleg Fferyllol, Bloomsbury, Llundain.

Ym 1907 priododd Llewellyn ag Annie Thomas, merch Dan Thomas Llwynypia.[3] Bu iddynt fab a merch.

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Llewellyn ei ddyddiau rygbi clwb yn Ystrad Rhondda cyn symud i Lwynypia. Er ei fod yn glwb ail haen nad oedd yn ffasiynol, roedd Llwynypia eisoes wedi darparu dau chwaraewr rhyngwladol i Gymru, Dick Hellings a Billy Alexander, ac ymunodd Llewellyn â'u rhengoedd pan gafodd ei gapio ym 1899. Yn 1900 symudodd i Lundain i astudio yn y Coleg Fferyllol yn Bloomsbury ac ymunodd â thîm di-raen Cymry Llundain.[4] Mae dyfodiad Llewellyn yn cael ei ystyried yn drobwynt i'r clwb; fe’i gwnaed yn gapten ar unwaith a throdd y tîm o ochr oedd yn colli'n aml i dîm i'w ofni gan ei gwrthwynebwyr.[5] Ar ôl dychwelyd i Gymru, ymunodd Llewellyn â chlwb dosbarth cyntaf, Casnewydd, y byddai'n aros gyda nhw trwy bedwar tymor. Ar ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol dychwelodd Llewellyn i rygbi clwb ail ddosbarth a'r Rhondda pan ymunodd â Phenygraig .

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Carfan Cymru 1905, Llewellyn, rhes ganol, trydydd o'r chwith

Gwnaeth Llewellyn ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym 1899, ochr yn ochr â mawrion Cymru, Billy Bancroft a Gwyn Nicholls. Cafodd Llewellyn gêm gyntaf rhagorol, gyda Lloegr yn cael ei churo’n llwyr wedi i Llewellyn sgorio pedwar cais.[6] Sgoriodd Llewellyn eto yn ei ail gêm, a oedd yn erbyn yr Alban.

Roedd Llewellyn yn rhan o'r carfanau a enillodd y Goron Driphlyg ym 1900, 1902 a 1905, ond ei wir foment o ogoniant oedd fel rhan o dîm Cymru a gurodd y Crysau Duon ym 1905. Roedd rhai yn feirniadol o'r penderfyniad i ddewis Llewellyn ar gyfer yr ornest gan ei fod wedi rhoi'r gorau i chwarae rygbi dosbarth cyntaf gyda Chasnewydd er mwyn chware i dîm ail reng, Penygraig. Roedd eraill yn credu ei fod o’n rhy hen, yn 27 mlwydd oed i redeg yr asgell.[7] Efallai bod y ffaith ei fod wedi baglu gyda'r bel o fewn pellter i'r llinell gais wedi profi rhywfaint o'r feirniadaeth yn gywir, ond ni wnaeth effeithio ar y canlyniad terfynol. Ei gyfraniad mwyaf nodweddiadol i'r gêm oedd trwy farcio a rhwystro Billy Wallace un o sêr amlycaf y Crysau Duon.

Y Llewod Prydeinig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1904 dewiswyd Llewellyn i fynd ar daith i Awstralasia ochr yn ochr â’i gyd asgellwr o Gymru, Teddy Morgan [8] dan gapteiniaeth Bedell-Sivright . Byddai Llewellyn yn chwarae mewn pedwar prawf, gan sgorio pedwar cais yn y tri phrawf cyntaf yn erbyn Awstralia.

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymru [9]

Y Llewod

Gyrfa diweddarach a marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Tua 1905 agorodd Llewellyn fferyllfa yn ei dref enedigol Tonypandy. Adroddir bod y terfysgwyr yn ystod Terfysg Tonypandy 1910 wedi gadael fferyllfa Llewellyn yn ddianaf oherwydd ei enwogrwydd ar y cae rygbi,[10] er bod un o haneswyr amlycaf y terfysg wedi bwrw amheuaeth ar y stori.[11]

Pan fu farw Llewellyn ym 1973 ym Mhont-y-clun yn 95 oed, ef oedd yr olaf o dîm Cymru 1905 a gurodd y Crysau Duon. Yn 2019 gosodwyd plac glas er cof am Llewellyn ar fur llyfrgell Tonypandy.[12] Fe’i cofir fel dyn cymedrol a oedd yn gapten rhagorol dros glwb a gwlad ac a oedd yn un o’r chwaraewyr asgell fwyaf dinistriol yn hanes rygbi Cymru.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Grant, Philip J (2018). Willie Llewelyn, The Road to Victory over the 1905 All Blacks. Ceredigion: Gwasg Gomer. ISBN 978-0-9567271-1-4.
  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Pen-y-bont: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Willie Morris Llewellyn". www.blackandambers.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 4 Chwefror 2021.
  2. "BIOGRAPHICALSKETCHESOFTHEPLAYERS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1899-03-04. Cyrchwyd 2021-02-04.
  3. "LOCALWEDDINGSI - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1907-05-04. Cyrchwyd 2021-02-04.
  4. "FOOTBALL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-01-20. Cyrchwyd 2021-02-04.
  5. 5.0 5.1 Thomas (1979), tud23
  6. Thomas (1979), tud22
  7. Thomas (1979), tud 24
  8. Smith (1980), tud 148.
  9. Smith (1980), tud 468.
  10. Gwyddoniadur Cymru, yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 568. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  11. "Rhondda marks 100th anniversary of Tonypandy Riots". BBC News. 2010-11-07. Cyrchwyd 2021-02-04.
  12. "Blue Plaque Honours Rugby Legend". www.rctcbc.gov.uk. Cyrchwyd 2021-02-04.