Clwb Rygbi Llwynypia
![]() Willie Llewellyn chwaraewr Llwynypia a enillodd 20 cap i Gymru | |
Enghraifft o'r canlynol | tîm rygbi'r undeb ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1891 ![]() |
Lleoliad | Llwynypia ![]() |
Roedd Clwb Rygbi Llwynypia yn Glwb rygbi'r undeb wedi'i leoli ym mhentref Llwynypia yn y Rhondda. Darparodd y tîm sawl chwaraewr rhyngwladol ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, yn fwyaf arbennig Willie Llewellyn, a ddewiswyd nid yn unig i gynrychioli Cymru wrth chwarae yn y clwb, ond a chwaraeodd yn ddiweddarach i Ynysoedd Prydain ar eu taith yn 1904 o Awstralia a Seland Newydd.
Hanes[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd Clwb Rygbi Llwynypia ym 1891,[1] un o sawl tîm yn y Rhondda i ddod i'r amlwg gyda diwydiannu'r cymoedd, pan arweiniodd mwyngloddio'r meysydd glo at fewnlifiad torfol o bobl yn chwilio am waith. Mae'n bosib bod clwb Llwynypia wedi ei sefydlu cyn 1891 gan fod tystiolaeth bod tîm o'r pentref yn chwarae yn gynnar yn yr 1880au. Y sôn gyntaf am gêm yw un rhwng Ystrad a thîm ar y cyd o Donypandy a Llwynypia a chwaraewyd ar 30 Tachwedd 1882.[2] Mae'r sôn nesaf am gêm rhwng Llwynypia ac Aberpennar, a chwaraewyd ar 01 Chwefror 1883.[3] Yn gynnar yn y 1890au, cynrychiolwyd Llwynypia, ynghyd â chlybiau lleol eraill, megis Treorci, Glynrhedynog a Phenygraig yn yr Undeb Rygbi newydd oedd newydd ei ffurfio yng Nghymru.[4] Erbyn 1895 dechreuodd y detholwyr o Gymru ail-werthuso anghenion y pac Cymreig, a dechrau chwilio am arddull chwaraewr mwy corfforol. Byddai'r chwaraewyr hyn yn gallu neidio a sgrymio, ond byddent hefyd yn gallu derbyn a dosbarthu chwarae garw.[5] Cafwyd hyd i'r chwaraewr blaen yma yng nghlybiau'r cymoedd, glowyr cryf a fyddai'n cael eu galw'n 'blaenwyr y Rhondda'. Cynrychiolwyd y brîd newydd o flaenwyr gyntaf ym 1896 gan Sam Ramsey o Dreorci a Dai Evans o Benygraig. Ym 1897 daeth Dick Hellings y chwaraewr cyntaf o Glwb Rygbi Llwynypia i gynrychioli ei wlad. Yn y gêm ganlynol, yn erbyn Iwerddon, ymunodd ail gynrychiolydd y clwb, William Alexander, a thîm Cymru.
Dyma oedd blynyddoedd gogoniant Llwynypia, yn ystod tymor 1895-96, gyda chefnogaeth Hellings ac Alexander, cawsant lwyddiant mawr, gan drechu sawl gwrthwynebydd haen uchaf.[6] Y tymor olynol fe wnaethant orffen heb eu trechu, camp a gyflawnir fel arfer gan dimau dosbarth cyntaf fel Casnewydd a Chaerdydd. Wrth i'r clwb ennill dylanwad, dechreuodd y tîm ddenu talent o glybiau eraill; a oedd yn cynnwys y chwaraewr o Lanelli oedd wedi ei gapio deirgwaith, Jack Evans.[7] Disgrifiwyd cefnau Llwynypia fel rhai 'cyflym oedd wedi eu hyfforddi'n dda', a nodweddwyd gan yr ymddangosiad yn gynnar yn y 1900au gan Willie Llewellyn, bachgen 17 oed allan o Goleg Crist, Aberhonddu. Ym 1901 darparodd Llwynypia dri chwaraewr i dîm Cymru a wynebodd Iwerddon fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad.
Ym 1904, dechreuodd Llwynypia, oedd bellach yn cael ei ystyried yn glwb haen uchaf,[8] dioddef o'i lwyddiant ei hun pan newidiodd nifer o'i chwaraewyr, naill ai i glybiau proffesiynol, neu i rai mwy 'poblogaidd'. Dirywiodd y gefnogaeth i'r clwb a daeth clwb Llwynypia i ben am gyfnod ym 1905. Adferwyd y clwb ym 1907 ond roedd yn ei chael hi'n anodd ennill cefnogaeth a chwaraewr o ansawdd megis y rai oedd ganddi ar ddechrau'r 1900au.[9] Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelodd Cymoedd Rhondda ddirywiad enfawr yn y galw am lo, creodd hyn dirywiad economaidd a deimlwyd ledled de Cymru. Gydag ychydig o incwm i wario, gostyngodd torfeydd, a arweiniodd at fethiant ariannol i lawer o glybiau'r cymoedd. Roedd Llwynypia yn un clwb o'r fath ac fe'i diddymwyd ar ddechrau'r 1930au.[10]
Cyn-chwaraewyr nodedig[golygu | golygu cod]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/1/14/CRLlwynypia1905.jpg/250px-CRLlwynypia1905.jpg)
Cymru William Alexander (7 cap)
Cymru George Dobson (1 cap)
Cymru Tom Dobson (4 cap)
Cymru Jack Evans (3 cap)
Cymru William Evans (4 cap)
Cymru Dick Hellings (9 cap)
Cymru Bob Jones (1 cap)
Cymru Mark Lewis (1 cap)
Cymru Willie Llewellyn (20 cap)
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Morgan, Prys (1988). Glamorgan County History, Volume VI, Glamorgan Society 1780 to 1980. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Smith (1980), tud 11.
- ↑ "FOOTBALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1882-12-02. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ The Pontypridd Chronicle and Workman's News; 10 Mawrth 1883; Llwynypia adalwyd 23 Chwefror 2021
- ↑ Smith (1980), tud 53.
- ↑ Griffiths (1987), 4:8.
- ↑ Smith (1980), tud 105.
- ↑ Smith (1980), tud 92.
- ↑ Smith (1980), tud 139.
- ↑ Smith (1980), tud 181.
- ↑ Morgan (1988), tud394.