Dick Hellings

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dick Hellings
Hellings mewn crys Cymru
Enw llawn Richard George Hellings
Dyddiad geni (1874-12-01)1 Rhagfyr 1874
Man geni Tiverton, Dyfnaint
Dyddiad marw 9 Chwefror 1938(1938-02-09) (63 oed)
Lle marw Tretomos, Tonyrefail
Taldra 184.15 cm
Gwaith Taniwr, Glofa Coed-elái
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Rheng flaen
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
Llwynypia
Caerdydd
Sir Forgannwg
Dyfnaint
Caerwysg
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1897–1901  Cymru 9 (3)
Gyrfa fel hyfforddwr
Blynydd. Clybiau / timau
1911 Coed-elái
Gyrfa rygbi'r undeb

Roedd Richard George Hellings (1 Rhagfyr 1874 - 9 Chwefror 1938) [1] yn flaenwr rygbi'r undeb a chwaraeodd rygbi rhyngwladol i Gymru a rygbi clwb i Llwynypia. Roedd Hellings yn nodedig am ei gryfder a adeiladwyd o flynyddoedd yn llwytho glo fel glöwr yn Y Rhondda.[2] Yn ddiweddarach chwaraeodd Hellings rygbi i Gaerdydd, Caerwysg a Dyfnaint.[3][4]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Hellings yn Wodberry, ger Topsham, Dyfnaint [5] yn blentyn i John Thomas Hellings, ac Emma (née Burgess) ei wraig. Pan oedd Dick tua 2 fis oed symudodd y teulu i'r Rhath Caerdydd lle fu ei dad yn gweithio fel mwyndoddwr mewn gwaith copr.[6] Derbyniodd Dick ei addysg elfennol yn y Rhath. Ym 1899 priododd â Margaret Davies, merch John Davies, glöwr yn y Rhondda, bu iddynt deg o blant. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd Hellings yn ennill ei fywoliaeth fel Taniwr, yng nglofa Coed-elái, Y Rhondda.[7]

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi symyd i'r Rhondda am waith munodd Hellings â thîm rygbi Llwynypia, ac fel aelod o dîm llwynypia bu'n cynrychioli Cymru yn rhyngwladol.[2] Ar ddiwedd y 1890au roedd pac carfan genedlaethol Cymru yn dechrau heneiddio ac yn methu chware cystal â'u gwrthwynebwyr. Penderfynodd y dewiswyr i chwilio am opsiynau y tu allan i glybiau megis Casnewydd a Chaerdydd. Ar y cyfan, pobl broffesiynol oedd yn gwneud ymarfer corff yn eu hamser hamdden oedd chwaraewyr y clybiau mawr. Penderfynodd y dewiswyr rhoi cyfle i chwaraewyr o rai o glybiau'r ardaloedd diwydiannol. Chwaraewyr oedd yn magu cryfder ac yn cael eu gwneud yn galed o'u gwaith beunyddiol yn y pyllau glo a'r gweithfeydd metal. Llysenwyd y chwaraewyr hyn yn "Flaenwyr Rhondda" [8] (er bod nifer ohonynt yn dod o ardaloedd diwydiannol tu allan i'r Rhondda megis Pont-y-pŵl, Abertawe a Llanelli). Dyn y diwydiannau trymion oedd y glöwr Hellings ac ym 1897 dewiswyd ef i wynebu Lloegr fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1897 ynghyd â chyd-chwaraewyr o'r Rhondda, Jack Rhapps a Dai Evans. O dan gapteiniaeth y chwaraewr chwedlonol o Gymru, Arthur Gould llwyddodd Cymru i guro Lloegr o gôl a dau gais i ddim.

Ail-ddewiswyd Hellings ar gyfer dwy gêm Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1898, y tro hwn o dan gapteiniaeth Billy Bancroft. Enillodd Cymru'r gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon, ond collodd i Loegr yn Blackheath. Methodd Hellings gêm agoriadol Pencampwriaeth 1889 lle sgoriodd ei gyd-chwaraewr o Lwynypia, Willie Llewellyn bedwar cais ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad. Chwaraeodd Hellings yn y ddwy gêm olaf. Ym Mhencampwriaeth 1900 enillodd Cymru'r Goron Driphlyg am yr eildro trwy ennill y tair gêm. Chwaraeodd Hellings mewn dwy o’r buddugoliaethau, ond ei ornest fwy nodedig oedd y gêm agoriadol yn erbyn Lloegr. Yn cael chwarae yn Kingsholm, chwaraeodd Lloegr 13 o gapiau newydd, record a oedd yn sefyll tan 1947. Sgoriodd Hellings ei unig gais rhyngwladol yn ystod y gêm, camp oedd yn fwy cofiadwy gan fod Hellings wedi torri ei fraich yn y gêm cyn sgorio.[9]

Daeth dwy gêm olaf Hellings i Gymru ym mhencampwriaeth 1901. Roedd gobeithion y byddai Cymru’n cadw’r Goron Driphlyg, ond er eu bod wedi curo Lloegr yn y gêm gyntaf, roedd y dewiswyr yn teimlo’r bod blaenwyr, oedd yn cael eu harwain gan Hellings, heb gydlyniant yn y rheng flaen.[10][11] Pan gollodd Cymru'r gêm nesaf i'r Alban,[12] gollyngwyd Hellings a ni chafodd cynrychioli Cymru eto.

Hellings oedd y chwaraewr rygbi cyntaf i gael ei gapio i ddau dîm sirol, bu'n chware i dîm Sir Forgannwg a thîm Sirol Dyfnaint. Bu'n aelod o dîm Dyfnaint yn nhymor 1899-1900 pan enillodd y tîm y bencampwriaeth sirol am y tro cyntaf.[13]

Ym 1903 bu Hellings o flaen llys yr heddlu yn Ystrad am chware'r gêm cardiau "banker" am arian ar faes rygbi Llwynypia. Yr heddwas oedd yn ei erlyn oedd ei gyd chwaraewr i Lwynypia a Chymru P.C. Bob Jones.[14]

Ar ôl rhoi'r gorau i chware rygbi, bu Hellings yn un o sefydlwyr a hyfforddwr cyntaf clwb newydd Coed-elái.[15]

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ddiwedd yr haf 1937 bu'n rhaid i Hellings rho'r gorau i'w waith yn y pwll glo oherwydd afiechyd. Bu farw yn ei gartref yn Stryd Meyler, Tonyrefail 9 Chwefror 1938. Bu farw diwrnod ar ôl cynhebrwng, Joe ei frawd a'i gyd chwaraewr yn nhîm Llwynypia.[6] Ar ôl wasanaeth yng nghapel Methodistiaid St Siôr Tonyrefail, rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent y dref.[16]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrecsam: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dick Hellings player profile Scrum.com
  2. 2.0 2.1 Smith (1980), tud. 108.
  3. "FOOTBALL GOSSIP - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-03-02. Cyrchwyd 2021-03-03.
  4. Jenkins (1991), tud. 71.
  5. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad y Rhath, Caerdydd 1881. Cyfeirnod RG11/5288; Ffolio: 21; Tud: 36
  6. 6.0 6.1 Western Mail 10 Chwefror 1938 "Obituary Famous Welsh Rugby Forward"
  7. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1911, Tretomos, y Rhondda. Cyfeirnod: RG14/32298; Rhif: 185
  8. "RHONDDA RUGGER RETROGRESSION - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-09-11. Cyrchwyd 2021-03-03.
  9. Smith (1980), tud. 142.
  10. "FOOTBALL - The Cambrian". T. Jenkins. 1901-01-11. Cyrchwyd 2021-03-03.
  11. Griffiths (1987), tud. 4:10.
  12. "SCOTLAND V WALES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-02-11. Cyrchwyd 2021-03-03.
  13. Exeter and Plymouth Gazette 18 Chwefror 1938 Mr Dick Hellings Passes
  14. "INTERNATIONALS IN COURT - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1903-08-15. Cyrchwyd 2021-03-03.
  15. "New Team for Coed Ely - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-09-29. Cyrchwyd 2021-03-03.
  16. Western Mail 14 Chwefror 1938 - Dick Hellings Buried