William Rees (Gwilym Hiraethog)
William Rees | |
---|---|
Ffugenw | Gwilym Hiraethog |
Ganwyd | 8 Tachwedd 1802 Llansannan |
Bu farw | 8 Tachwedd 1883 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl |
Gwobr/au | Medal y Cymmrodorion |
Llenor a gweinidog o Gymru oedd William Rees (8 Tachwedd 1802 – 8 Tachwedd 1883), neu Gwilym Hiraethog fel y'i adnabyddir.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn Chwibren Isaf, fferm wrth droed Mynydd Hiraethog ym mhlwyf Llansannan, yn yr hen Sir Ddinbych (Conwy heddiw). Er bod ei fam yn dod o dras uchel roedd ei deulu yn dlawd ac erbyn iddo briodi yn 22 mlwydd oed roedd yn was fferm. Dyna fu ei alwedigaeth tan iddo gael ei alw i weinidogaethu gyda'r Annibynwyr ym Mostyn yn 1831. Fe ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1875 a byw hyd at ei farwolaeth yng Nghaer.
Er iddo gael ei fagu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd fe ymunodd â'r Annibynwyr wedi iddynt gychwyn achos yn Llansannan yn 1828. Fe'i galwyd i Lôn Swan, Dinbych yn 1837, yna ymlaen i'r Tabernacl, Lerpwl (1843), yna i Salem yn yr un dref (1853) a diweddu ei yrfa fel gweinidog yn Grove Street, Lerpwl wedi iddo symud yno yn 1867. Bu'n pregethu yno nes iddo ymddeol ym 1875. Roedd ei frawd, Henry hefyd ymysg pregethwyr mwyaf blaengar y cyfnod.
Gwnaeth enw iddo'i hun fel pregethwr poblogaidd ac ynghyd â'i ddawn fel llenor, golygydd, gwleidydd a darlithydd fe'i enwyd gan Gwynfor Evans fel "...ffigur amlycaf trydydd chwarter y ganrif ddiwethaf pan oedd pregethwyr yn arwyr Cymru." Dywedir mai cyfraniad mwyaf Hiraethog i Gymru oedd sefydlu'r Amserau yn 1843. Yr Amserau oedd y newyddiadur Cymraeg cyntaf i lwyddo. Roedd Hiraethog ymysg cwmni da o Anghydffurfwyr radicalaidd, pobl megis Samuel Roberts Llanbrynmair, David Rees Llanelli a Ieuan Gwynedd – dywedir mai Hiraethog oedd y pennaf yn eu plith. Mynnai Hiraethog a'i gwmni o Annibynwyr radical daro'n erbyn y traddodiad pietistaidd a gadwai Gristnogion allan o'r byd politicaidd. Cydweithiai yn agos hefyd â Robert Everett, un o brif ymgyrchwyr y Cymry yn America yn erbyn caethwasiaeth.
Dywed Gwynfor Evans, er nad oedd annibyniaeth i Gymru yn rhan o'i weledigaeth, y gwelwyd "...cenedlaetholdeb gwleidyddol yn dechrau egnïo ynddo" (Seiri Cenedl, Llandysul, 1986, 205).
Bardd ac emynydd
[golygu | golygu cod]Roedd Hiraethog yn fardd ac emynydd o fri. Dywedodd Pennar Davies mai ef oedd awdur emyn mwyaf yr iaith Gymraeg:
- Dyma gariad fel y moroedd,
- Tosturiaethau fel y lli:
- T'wysog bywyd pur yn marw,
- Marw i brynu'n bywyd ni:
- Pwy all beidio â chofio amdano?
- Pwy all beidio â thraethu'i glod?
- Dyma gariad nad a'n angof
- Tra fo nefoedd wen yn bod.
- Ar Galfaria yr ymrwygodd
- Holl ffynhonnau'r dyfnder mawr:
- Torrodd holl argaeau'r nefoedd
- Oedd yn gyfain hyd yn awr:
- Gras a chariad megis dilyw
- Yn ymdywallt yma 'nghyd,
- A chyfiawnder pur a heddwch
- Yn cusanu euog fyd.
Awdur rhyddiaith
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd drosiad neu gyfaddasiad gwreiddiol iawn, mewn gwisg Gymreig, o Uncle Tom's Cabin gan Harriet Beecher Stowe dan y teitl Aelwyd F'Ewythr Robert, cyfrol ddeniadol a oedd yn un o werthwyr gorau ei dydd. Ysgrifennodd yn ogystal y nofel Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, sy'n rhoddi darlun difyr a chofiadwy o fywyd cefn gwlad y cyfnod. Cyfrannodd nifer o eitemau i'r wasg boblogaidd, yn arbennig yn Yr Amserau.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau Hiraethog
[golygu | golygu cod]- Emmanuel (1861). Cerdd.
- Gweithiau Barddonol Gwilym Hiraethog (1855)
- Llythyrau 'Rhen Ffarmwr (1878). Rhyddiaith.
- Aelwyd F'Ewythr Robert (1852). Nofel.
- Helyntion Bywyd Hen Deiliwr (1877). Nofel.
- Y Dydd Hwnnw. Drama.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- R. T. Jenkins, Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (William Lewis:Caerdydd, ail argraffiad 1954), 782