William Boyd Dawkins

Oddi ar Wicipedia
William Boyd Dawkins
Ganwyd26 Rhagfyr 1838 Edit this on Wikidata
Y Trallwng Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ionawr 1929 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdaearegwr, anthropolegydd, academydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
llofnod
William Boyd Dawkins

Roedd Syr William Boyd Dawkins (26 Rhagfyr 183715 Ionawr 1929) yn ddaearegwr ag yn archaeolegydd Prydeinig. Roedd yn aelod o'r Geological Survey of Great Britain, yn guradur Amgueddfa Manceinion, ag yn athro coleg yng Ngholeg Owen, Manceinion.[1] Mae wedi ei nodi ar gyfer ei waith ar ymchwil i ffosiliaid a hynafiaeth dyn. Roed yn rhan o sawl prosiect gwahanol gan gynnwys y twnnel o dan yr Afon Humber, cais ar dwnnel o dan Môr Udd a twnnel profi glo o dan Caint.

Ganwyd Dawkins yn ficerdy Tal-y-bont, Maldwyn yn Sir Drefaldwyn ar y 26ai o Ragfyr 1837. Fe ddenodd sylw ers iddo droi'n 5 oed wrth iddo gasglu ffosiliaid o'r glofeydd a'r tomeni ysbail. Yn fuan ar ôl hynny, symudodd ei deulu i Fleetwood yn Swydd Gaerhirfryn, yno mynychodd ysgol Rossall. Unwaith eto, fe ddenodd sylw gan ychwanegu ffosiliaid o'r clog-gleiau lleol i'w gasgliad cynt. Ar ôl iddo adael ysgol, mynychodd Coleg yr Iesu, Rhydychen a graddiodd gyda ail yn Clasuron a cyntaf yn Gwyddoniaethau Naturiol.

Wedi ymadael a Phrifysgol Rhydychen ym 1962, ymunodd a'r Geological Survey of Great Britain lle treuliodd saith mlynedd yn gweithio ar ardaloedd Caint a dyffryn Afon Tafwys. Ym 1869, fe'i etholwyd yn aelod o'r Gymdeithas Ddaearegwyr a'i apwyntiwyd yn guradur Amgueddfa Manceinion, safle a gadwodd hyd at 1890. Ym 1870, derbyniodd apwyntiad pellach fel darlithydd yng Ngholeg Owens, Manceinion. Yn y pen draw, daeth yn athro coleg Daeareg cyntaf ym 1874.

Daeth Dawkins ynghlwm a Chymdeithas Daeareg a Mwyngloddio Manceinion ac roedd yn lywydd ar y gymdeithas ar dair achlysur: 1874-75, 1876-77 a 1886-87. Roedd hefyd yn lywydd ar Gymdeithas Hynafiaethol Swydd Gaerhifyn a Swydd Gaerlleon o 1885 hyd at 1887 ag eto o 1900 hyd at 1902. Fe'i etholwyd yn Gymar o'r Gymdeithas Frenhinol ym 1867 a gweithredodd fel llywydd o Drychiad Anthropolegol yr Uniad Prydeinig ym 1888. Roedd yn Lywydd ar Gymdeithas Hynafiaethau Cymru ym 1911-12 ag yn ystod blynyddoedd Y Rhyfel Byd Cyntaf o 1913 hyd at 1919. Cafodd Dawkins ei wneud yn Farchog am ei waith gyda daeareg yn Anrhydeddau'r Penblwydd ym 1919. Bu farw ym 1929, yn 91 oed.

Adluniad o udfil yr ogof, Heinrichschohle

Archaeoleg[golygu | golygu cod]

Cyflawnodd Dawkins sawl gwahaniaeth ym maes archaeoleg. Ym 1859 fe symudodd i Gwlad yr Haf i astudio'r clasuron gyda'r ficer o Wookey. Pan glywodd am ddarganfyddiad esgyrn gan gweithwyr lleol, arweiniodd cloddiadau yn ardal ffau yr udfil yn Ogofâu Wookey Hole. Cloddiodd hefyd Dwll Aveline, gan ehangu'r agoriad a'i enwi ar ôl ei gynghorwr William Talbot Aveline. Arweiniodd ei waith at ddarganfyddiad o'r tystiolaeth cyntaf o ddefnydd yr Ogofau ym Mryniau Mendip gan ddynion Palaeolithig.

Treuliodd tipyn o amser yn ymchwilio yn Swydd Derby, yn enwedig yn Creswell Crags a Windy Knoll ger Castleton, Swydd Derby. Yn Windy Knoll (NGR SK126830), profodd bodolaeth anifeiliaid ecsotig oedd yn byw yn Lloegr cyn Oes yr Iâ. Gyda Rooke Pennington a J. Tym, darganfyddodd ergyrn Beison, udfil yr ogof, arth yr ogof a cath mawr, o bosib, perthynas i'r teigr dant sabr. Roedd esgyrn y beison yn fwy diweddar, wedi ei ddyddio tua 37 300bp (OxA – 4579). Mae llawer o'r darganfyddiadau wedi eu lleoli yn Amgueddfeydd yn Buxton, Swydd Derby a Manceinion.

Ym 1882, wrth ddilyn ymlaen o'i waith gyda'r Geological Survey, apwyntiwyd Dawkins fel y tirfesurydd swyddogol gan Bwyllgor Twnnel y Sianel. Gwnaeth arolwg daeareg o arfordir Lloegr a Ffrainc ar hyd ardaloedd DoverCalais, ond roedd gorfod rhoi'r gorau i'r prosiect oherwydd diffyg arian.

Ym 1886, cysylltodd Cwmni Rheilffyrdd y De Orllewin a Dawkins i gofyn iddo os oedd ei waith gyda twnnel y sianel wedi dangos os oedd yna unrhyw lo o dan Caint. Byddai darganfyddiad glo o dan Caint wedi fod yn fudd ariannol mawr i'r cwmni. Gyda Henry Willett a'r daearegwr Ffrengig Pigou, cyflwynodd Dawkins bapur ym 1887 yn profi fod yna lo o dan dyddodion Cretasaidd Caint.

Dyngarwch[golygu | golygu cod]

Amgueddfa Manceinion

Roedd Dawkins yn frwydrwr ar gyfer hawliau gweithwyr, yn enwedig rheini oedd yn y diwydiant mwyngloddio glo. Rhoddodd pwysau ar bobl i geisio cael system addysg gwell i'r mwyngloddwyr, yn debyg i un oedd yn yr Almaen. Rhoddodd swm annatguddiedig o arian i'r achos yma.

Ymysg ei roddion oedd un i Amgueddfa Manceinion. Roedd yr amguedffa eisiau ehangu a dechreuasant apel. Cododd yr apel £1015 2s 9d, o hynny, rhoddodd Dawkins £500. Yn hwyrach yn ei fywyd, brwydrodd er mwyn i bobl, oedd gyda tai oedd wedi eu effeithio gan ymsuddiad o'r mwyngloddiau halen ger NorthwichSwydd Gaer, derbyn iawndal.

Ar ei farwolaeth ym 1929, cyflwynodd ei weddw, Lady Boyd Dawkins, ei lyfrgell o ryw 400 ddarnau o waith i dref Buxton, Swydd Derby. Mae'r llyfrau hyn, yn ogystal ag eitemau personol eraill megis penddelw efydd, ffotograffiau a'i medalau Lyella a Prestwich, wedi eu ymgartrefu yn Amgueddfa Buxton a'r Galeri Gelf yn Ystafell a Chyfeiriadaeth at Boyd Dawkins.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Dawkins nifer o lyfrau a papurau, ond y rhai mwyaf adnabyddus yw:

  • 1866–1939, 1962: British Pleistocene Mammalia. 6 vols. London: Printed for the Palaeontographical Society (co-author with W. Ayshford Sanford, S. H. Reynolds)[2]
  • 1874: Cave Hunting. London: Macmillan
  • 1875: "The mammalia found at Windy Knoll", Quarterly Journal of the Geological Society 31:246–55
  • 1877: "The exploration of the ossiferous deposits at Windy Knoll, Castleton, Derbyshire", Quarterly Journal of the Royal Society of London 33:724–29 (with R. Pennington)
  • 1877: Dawkins, W. B.; et al. "British Pleistocene Mammalia". Copac. Cyrchwyd 21 September 2009., Quarterly Journal of the Geological Society 33:589–612
  • 1879: "Further discoveries in the Creswell Crags", Quarterly Journal of the Geological Society 35:724–35 (with J. M. Mello)
  • 1880: Early Man in Britain and His Place in the Tertiary Period. London: Macmillan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "DAWKINS, William Boyd". Who's Who 59: 456. 1907. https://books.google.com/books?id=yEcuAAAAYAAJ&pg=PA456.
  2. Dawkins, W. B.; et al. "British Pleistocene Mammalia". Copac. Cyrchwyd 21 September 2009.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Tweedale, Geoffrey & Procter, Timothy "Catalogue of the Papers of Professor Sir William Boyd Dawkins in the John Rylands University Library of Manchester", in: Bulletin of the John Rylands University Library of Manchester; 74:2 (1992), 3–36
  • Tweedale, Geoffrey & Procter, Timothy (c. 1990) New Documentary Evidence on the Career of Sir William Boyd Dawkins FRS (1837–1929). Manchester: John Rylands Research Institute Scientific Archives Project
  • Wood, Kenneth (1987) Rich Seams: The history of the Manchester Geological and Mining Society. Bolton: Manchester Geological and Mining Society
  • Various papers, University of Manchester, John Rylands Library, Deansgate, Manchester
  • Various archive papers of the Manchester Geological and Mining Society

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]