Castleton, Swydd Derby
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref High Peak |
Poblogaeth | 544 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Peak District National Park |
Sir | Swydd Derby (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Edale, Peak Forest, Bradwell, Swydd Derby, Hope |
Cyfesurynnau | 53.344°N 1.775°W |
Cod SYG | E04002842 |
Cod post | S33 |
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Castleton.
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Derby, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Castleton.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref High Peak.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 642.[2]
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Castell Peveril
- Eglwys Sant Edmwnd
- Gwesty'r Castell
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Charles Roe (1715–1781), diwydiannwr
- Debbie Rush (g. 1966), actores
Asedau daearegol
[golygu | golygu cod]Ym mhentref Castleton, yn Ardal y Copaon yn Swydd Derby, fe welwch amryw o siopau gemwaith yn gwerthu’r Blue John. Mae i’r mwyn yma rhyw wawr glas a melyn o'i gwmpas ac enw’r Ffrancwyr amdano yw Bleu Jaune yn golygu glas melyn, ac fe aeth hwn yn Blue John, math o felspar. Calsiwm fflworid yw'r Blue John 'ma, (CaF2) a chredir mai haen o olew wedi mynd rhwng y crisialau sydd wedi rhoi'r lliw arbennig iddo. Mae'n fwyn bregus iawn ac mae hi'n anodd cael darnau da ohono - yn ôl y mwynwr dim ond chwarter o beth maen nhw yn ei gloddio sydd yn ddefnyddiol. Darganfuwyd un ffordd o allu gweithio arno drwy ei socian mewn resin, a thrwy hyn allu gwneud llestr ohono. Roedd powlen tua 2 fodfedd ar draws yn gwerthu am £300.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Awst 2020
- ↑ City Population; adalwyd 12 Awst 2020
- ↑ Ifor Williams ym Mwletin Llên Natur 24