Neidio i'r cynnwys

Tokyo

Oddi ar Wicipedia
Tokyo
Mathmetropolitan prefecture, capital of Japan, cyrchfan i dwristiaid, metropolis, dinas global, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, dinas fawr, taleithiau Japan, metropolis, canolfan ariannol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlprifddinas, dwyrain Edit this on Wikidata
LL-Q5146 (por)-NMaia-Tóquio.wav, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Tōkyō.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasShinjuku Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,264,798 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Medi 1868 Edit this on Wikidata
AnthemTokyo Metropolitan Song Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYuriko Koike Edit this on Wikidata
Cylchfa amseramser safonol Japan Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMinami-Kantō, Ardal Tokyo Fwyaf Edit this on Wikidata
SirJapan Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,194.05 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
GerllawBae Tokyo Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaChiba, Saitama, Yamanashi, Kanagawa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.6894°N 139.6917°E Edit this on Wikidata
JP-13 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Metropolitan Tokyo Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Metropolitan Tokyo Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Llywodraethwr Tokyo Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYuriko Koike Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas, talaith a dinas fwyaf Japan yw Tōkyō ("Cymorth – Sain" ynganiad Japaneg , 東京, Tokyo neu Tocio yn Gymraeg). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth ynys Honshu, ar lan y Cefnfor Tawel. Daw rhannau helaeth o daleithiau cyfagos Tokyo ynghyd i ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 37,900,000 (2016)[1][2]. Dyma, felly, dinas fwyaf poblog y byd. Er mai ffigwr llai o tua 14,264,798 (2022) miliwn o bobl sy'n byw yn Tokyo ei hun fe ddaw miloedd o bobl yno i weithio neu i astudio yn ystod y dydd.[3] Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd i'r wlad ac mae'r Tenno, Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.

Yn wreiddiol yn bentref pysgota, o'r enw Edo, daeth yn ganolfan wleidyddol amlwg ym 1603, pan ddaeth yn sedd y siogyniaeth[4] Tokugawa. Erbyn canol y 18g, roedd Edo yn un o'r dinasoedd mwyaf poblog yn y byd gyda dros filiwn o bobl.[5] Yn dilyn diwedd y siogyniaeth ym 1868, symudwyd y brifddinas ymerodrol yn Kyoto yma, ac ailenwyd hi'n 'Tokyo' (yn llythrennol: "prifddinas ddwyreiniol").

Cafodd Tokyo ei difrodi gan Ddaeargryn Great Kantō yn 1923, ac eto gan gyrchoedd bomio’r Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan ddechrau yn y 1950au; ailadeiladwyd ac ehangwyd y ddinas yn gyflym, gan fynd ymlaen i arwain adferiad economaidd Japan ar ôl y rhyfel. Ers 1943, mae Llywodraeth Fetropolitan Tokyo wedi gweinyddu 23 ward arbennig y dalaith ('Dinas Tokyo' gynt), amryw drefi gwelyau yn yr ardal orllewinol, a dwy gadwyn o ynysoedd anghysbell.

Tokyo yw'r economi drefol fwyaf yn y byd yn ôl cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP), ac mae'n cael ei chategoreiddio fel dinas Alpha + gan y Rhwydwaith Ymchwil a Dinasoedd y Byd (World Cities Research Network). Rhan o ranbarth diwydiannol sy'n cynnwys dinasoedd Yokohama, Kawasaki, a Chiba, Tokyo yw prif ganolfan busnes a chyllid Japan. Yn 2019, roedd yno 36 o gwmnïau Fortune Global 500.[6] Yn 2020, roedd yn bedwerydd ar y Mynegai Canolfannau Ariannol Byd-eang, y tu ôl i Ddinas Efrog Newydd, Llundain, a Shanghai.[7] Yn Tokyo mae tŵr talaf yn y byd sef y 'Tokyo Skytree' a chyfleuster dargyfeirio dŵr llifogydd tanddaearol mwya'r byd: MAOUDC.[8] Llinell Metro Ginza Tokyo yw'r llinell metro danddaearol hynaf yn Nwyrain Asia (1927).[9]

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Fe ddaw'r enw o gyfuno Tō- (dwyrain) a -kyō (prifddinas) i greu 'Prifddinas Ddwyreiniol'. Roedd prifddinasoedd eraill yn bod cyn Tokyo, er enghraifft Kyoto a Nara yn ardal Kansai.

Yn wreiddiol, gelwid Tokyo yn Edo (江 戸), gair cyfansawdd o kanji o 江 (e, "cildraeth, cilfach") ac 戸 (i, "mynediad, giât, drws").[10] Mae'r enw, y gellir ei gyfieithu fel "aber", yn gyfeiriad, felly, at leoliad yr anheddiad gwreiddiol yng nghymer Afon Sumida a Bae Tokyo. Yn ystod Adferiad Meiji ym 1868, newidiwyd enw'r ddinas i Tokyo.[11]

Gweinyddiaeth

[golygu | golygu cod]
'Ardal adloniant' Shinjuku gyda'r nos

Un o daleithiau Japan yw dinas Tokyo, ond mae strwythr go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3 km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel, rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas wedi ei lleoli yn ardal brysur Shinjuku.

Poblogaeth y ddinas gyfan yw 12,064,101 (2002 a'i faint yw 2186.9 km². Tokyo, Kanagawa, Saitama a Chiba sy'n ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, gyda tua 36 miliwn o bobl yn byw ynddi.

Sefydlwyd Tokyo ym 1457 ond yr enw gwreiddiol oedd Edo (江戸). Ym 1603 daeth yn brif ddinas y siogyniaeth Tokugawa, ond roedd y Tenno yn dal i fod yn Kyoto, gwir brifddinas y wlad. Daeth y Shogunat i ben ym 1868 a gorchmynnodd Meiji Tenno i newid enw y dref i Tokyo a symud y brif ddinas yno.

Yn ystod y cyfnod Edo, mwynhaodd y ddinas gyfnod hir o heddwch o'r enw Pax Tokugawa, ac mewn heddwch o'r fath, mabwysiadodd Edo bolisi o ynysu ei hun o'r byd mawr, ac ni chafwyd unrhyw fygythiad milwrol difrifol i'r ddinas.[12] Fe wnaeth absenoldeb rhyfel ganiatáu i Edo neilltuo mwyafrif ei adnoddau i ailadeiladu (yn dilyn tanau cyson, daeargrynfeydd, a thrychinebau naturiol dinistriol eraill). Fodd bynnag, daeth y cyfnod hir hwn o neilltuaeth i ben gyda dyfodiad y Comodore Americanaidd Matthew C. Perry ym 1853. Gorfododd y Comodore Perry fod porthladdoedd Shimoda a Hakodate yn agor, gan arwain at gynnydd yn y galw am nwyddau tramor newydd a chanlyniad hynny oedd cynnydd difrifol mewn chwyddiant.[12][13]

Ym 1923 tarodd daeargryn mawr yr ardal a lladdwyd tua 100,000 o bobl a dinistrio llawer o adeiladau.[14] Cafodd y dref ei hail-adeiladu ond fe'i dinistrwyd eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl hynny daeth Japan dan reolaeth yr Unol Daleithiau a roedd Tokyo yn bencadlys o dan y Cadfridog Douglas MacArthur.

Ar ôl y rhyfel tyfodd yr economi yn gyflym. Ym 1964 cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yn y ddinas. Ers y 1970au mae llawer o bobl wedi symud i Tokyo o gefn gwlad Japan ac yn ystod bwrlwm economaidd yr 1980au roedd hi'n ddinas fywiog yn llawn siopau, tafarndai, busnesau ac fe adeiladwyd tai ledled y ddinas. Daeth y bwrlwm economaidd i ben yn y 1990au, ond er hynny mae Tokyo yn ganolfan economaidd pwysig i ddwyrain Asia a gweddill y byd.

Ar 20 Mawrth 1995 bu ymosodiad terfysgol gan ddefnyddio nwy nerfau Sarin mewn trên tanddaearol gan Aum Shinrikyo. Cafodd 12 o bobl eu lladd a miloedd yn dioddef canlyniadau'r ymosodiad.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]
  • Amgueddfa Genedlaethol
  • Amgueddfa Shitamachi
  • Creirfa Yasukuni
  • Palas Ymerodrol
  • Pont Enfys
  • Tŵr Tokyo
  • Yūshūkan

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae Tokyo yn cynnwys ardal ar Honshu, ynys fwyaf Japan a nifer o ynysoedd bychain (Ynysoedd Izu ac Ynysoedd Ogasawara) ym Mae Tokyo a'r Cefnfor Tawel, rhai ohonyn mor bell a 1,000 km o'r tir mawr. Y taleithiau cyfagosaf ac sydd hefyd yn rhan o Ardal Tokyo Fwyaf yw Kanagawa, Saitama a Chiba.

Wardiau

[golygu | golygu cod]
Cae Rasus Ceffylau Tokyo, yn Shinagawa

Mae 23 wardiau arbennig yn Tokyo, pob un gyda'i maer a'i chyngor:

Dinasoedd

[golygu | golygu cod]

Mae nifer o ddinasoedd (yn Japan, mae hynny fel arfer yn golygu trefi gyda mwy nag 50,000 o bobl yn bwy ynddynt) yn Tokyo, hefyd:

Ardaloedd, trefi a phentrefi

[golygu | golygu cod]

Trefi a phentrefi ar ynysoedd:

Economeg

[golygu | golygu cod]

Canolbarth economeg Siapan yw Tokyo. Lleoliad pencadlysoedd y mwyafrif o fusnesau fel y wasg, teledu, telethrebiaeth, bancio, yswiriant, ac ati, yw Tokyo ac mae'r mwyafrif o fusnesau tramor yn y dref, hefyd.

Busnesau gyda phencadlys yn Tokyo

[golygu | golygu cod]

Demograffeg

[golygu | golygu cod]

Yn ôl oed (2002):

  • Pobl ifanc (0-14): 1.43 miliwn (12%)
  • Pobl oed gweithio (15-64): 8.5 miliwn (71.4%)
  • Pobl hŷn (65+): 1.98 miliwn (16.6%)

Pobl yn dod o wledydd tramor: 327,000 (2001)

Tyfiad net y boblogaeth: +68,000 (rhwng 2000 a 2001)

Prifysgolion

[golygu | golygu cod]

Prifysgolion enwocaf Tokyo yw:

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-10. Cyrchwyd 2010-08-06.
  3. "The World's Cities in 2018" (PDF). United Nations. Cyrchwyd 5 Mai, 2020. Check date values in: |access-date= (help)
  4. geiriaduracademi.org; adalwyd 5 Ebrill 2021
  5. McClain, James, James; et al. (1994). Edo and Paris: Urban Life and the State in the Early Modern Era. t. 13.
  6. "Global 500". Fortune (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2019.
  7. "The Global Financial Centres Index 28" (PDF). Long Finance. Medi 2020. Cyrchwyd 4 Hydref 2020.
  8. "Metropolitan Area Outer Underground Discharge Channel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Medi 2018. Cyrchwyd 10 Ionawr 2015.
  9. Hornyak, Tim (December 16, 2017). "Heart of gold: The Ginza Line celebrates its 90th birthday". Japan Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2017.
  10. Room, Adrian. Placenames of the World. McFarland & Company (1996), p. 360 Archifwyd 1 Ionawr 2016 yn y Peiriant Wayback. ISBN 0-7864-1814-1.
  11. US Department of State. (1906). A digest of international law as in diplomatic discussions, treaties and other international agreements (John Bassett Moore, gol.), Cyfrol 5, t. 759 Archifwyd 1 Ionawr 2016 yn y Peiriant Wayback; excerpt, "The Mikado, on assuming the exercise of power at Yedo, changed the name of the city to Tokio".
  12. 12.0 12.1 Naitō, Akira (2003). Edo, the City That Became Tokyo: An Illustrated History. tt. 33, 55.
  13. Naitō, Akira (2003). Edo, the City That Became Tokyo: An Illustrated History. tt. 182–183.
  14. Sorensen, Andre (2004). The Making of Urban Japan: Cities and Planning from Edo to the Twenty-First Century. t. 16.