Nara
Jump to navigation
Jump to search
Ceirw, golygfa gyffredin yn ninas Nara. Yn y cefndir gwelir teml enwog Tōdai-ji.
Dinas yn Japan yw Nara (Japaneg: 奈良市 Nara-shi). Nara yw prifddinas Talaith Nara ac mae wedi ei lleoli yn rhanbarth Kansai ar ynys Honshū, ynys fwyaf Japan.
Mae wyth o demlau a chysegrau Nara, sef Tōdai-ji, Saidai-ji, Kōfuku-ji, Kasuga-jingu, Gangō-ji, Yakushi-ji, Tōshōdai-ji ac adfeilion Palas Heijō, ynghyd a Choedwig Kasugayama yn uno i greu "Henebion Hanesyddol Nara Hynafol", Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Nara oedd prifddinas Japan rhwng 710 a 784, cynod a elwir yn Y Cyfnod Nara.