Thomas Davies Lloyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Davies Lloyd
Syr Thomas Davies Lloyd AS.jpg
Ganwyd 21 Mai 1820 Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Gorffennaf 1877 Edit this on Wikidata (57 oed)
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, Milwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig Cyntaf (24 Mai[1], 182021 Gorffennaf, 1877) yn filwr, yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Gymreig ac yn Aelod Seneddol Bwrdeistref a Sir Aberteifi.[2]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Adfeilion Plas Bronwydd - geograph.org.uk - 722655

Roedd Lloyd yn fab i Thomas Lloyd, Bronwydd, Uchel Siryf Ceredigion ym 1814, ac Anne merch John Thomas, Llwydcoed, Caerfyrddin.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.

Ym 1844 priododd Henrietta Mary, merch George Reid, Friendship Estates, Jamaica, Llywodraethwr Madras; bu iddynt un mab.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1840 ymunodd a chatrawd y Light Dragoon gan wasanaethu yng Nghanada. Ym 1845, ar farwolaeth ei dad, dychwelodd i Gymru i reoli ei ystâd.[3]

Gyrfa gyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgythriad T D LL ar farc ffîn yng Nghasnewydd-bach

Ar farwolaeth ei dad daeth Lloyd yn 24ain Barwn Mers Cemais, a oedd yn caniatáu iddo gynnal Cwrt Lît a Chwrt Barwn yn ei Fers, er heb lawer o awdurdod erbyn iddo etifeddu'r teitl. Fel Barwn Cemais roedd Lloyd yn gyfrifol am guro'r ffiniau a phenodi Maer Casnewydd-bach. Gwariodd ffortiwn ar adnewyddu Castell Casnewydd-bach fel cader i'w barwniaeth ac ar geisio cael ei godi'n farwn go iawn gyda sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond heb lwyddiant; ond fe'i codwyd yn farwnig ym 1863.[4]

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Aberteifi 1850-1851.[5]

Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Sirol Aberteifi ym 1865 gan wasanaethu hyd at 1868 pan benderfynodd sefyll ar gyfer etholaeth Bwrdeistref Aberteifi. Ym 1874 ymneilltuodd o'r senedd gan ildio ei le i David Davies, Llandinam

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw ym Mhlas Bronwydd, ei gartref, a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Llangynllo. Olynwyd ef yn y Farwnigaeth ac Arglwyddiaeth Cemaes gan ei unig fab, Marteine O M Lloyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. * Mae'r ffynonellau yn gwahaniaethu ar union ddyddiad ei eni; bu tua 19-24 Mai. Mae'r Cambrian News yn honni bod plât ar ei arch yn dweud 24 Mai "FUNERAL OF SIR THOMAS DAVIES LLOYD BART BRONWYDD - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1877-08-03. http://hdl.handle.net/10107/3308507. Adalwyd 2015-12-19.
  2. Y Bywgraffiadur ar lein LLOYD , Syr THOMAS DAVIES (1820 - 1877) [1] adalwyd 19 Rhagfyr 2015
  3. Cylchgronau Cymru ar-lein National Library of Wales journal - Cyf. 23, rh. 4 Gaeaf 1984 Bronwydd and Sir Thomas Lloyd [2] adalwyd 19 Rhagfyr 2015
  4. Leslie Baker-Jones (2005) The Wolf and the Boar : The Lloyds of Bronwydd, Cardiganshire - Lords Marcher of Cemais ISBN10 0955091608
  5. GENUKI Members of Parliament for Cardiganshire, and Cardigan [3] adalwyd 19 Rhagfyr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Thomas Rowland Powell
Aelod Seneddol Ceredigion
18651868
Olynydd:
Evan Mathew Richards
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Lewis Pryse
Aelod Seneddol Aberteifi
18681874
Olynydd:
David Davies