William Thomas Rowland Powell
William Thomas Rowland Powell | |
---|---|
Ganwyd | 1815 ![]() Abertawe ![]() |
Bu farw | 1878 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | William Edward Powell ![]() |
Roedd William Thomas Rowland Powell, (3 Awst 1815 - 13 Mai 1878) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Ceredigion rhwng 1859 a 1865[1].
Bywyd Personol[golygu | golygu cod]
Ganwyd Powell yn Abertawe, yn fab i William Edward Powell, Nanteos a Laura Edwyna, merch James Sackville Tufton Phelp o Coston House, Swydd Gaerlŷr ei wraig gyntaf.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster.
Priododd Rosa Edwyna, merch William George Cherry, Buckland, Swydd Henffordd ym 1839. Bu iddynt un mab y bardd, cyfieithydd a "dyn od" George Powell (1842 - 1882) a merch, Harriet. Bu farw Harriet o'r diciâu yn 13 mlwydd oed. Roedd ei briodas yn un anhapus a bu Powell a'i wraig byw ar wahân (er heb ysgaru), yn bennaf gan fod William wedi cael perthnasau all briodasol gydag athrawes breifat ei blant[2]. Bu farw, Laura ei wraig ym 1860.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Wedi ymadael a'r ysgol prynwyd comisiwn i Powell yn 37ain Catrawd y Troedfilwyr. Bu'n gwasanaethu yn India'r Gorllewin cyn ymadael a'r fyddin, gyda rheng Capten, ym 1854. Wedi ymddeol o'r fyddin reolaidd fe wasanaethodd fel Cadlywydd ar Filisia Ceredigion.
Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]
Penderfynodd Ernest Vaughan, 4ydd Iarll Lisburne, AS Ceidwadol Ceredigion i sefyll i lawr o San Steffan ar adeg etholiad cyffredinol 1859 oherwydd afiechyd. Dewiswyd Powell i sefyll yn ei le. Llwyddodd i gadw'r sedd ar ran y Ceidwadwyr. Ychydig wedi ei ethol torrodd iechyd Powell hefyd. Roedd ganddo afiechyd a oedd yn achosi parlys o'i ganol i lawr a bu'n rhaid iddo ddefnyddio Cadair Caerfaddon (cadair olwyn) i symud o gwmpas. Oherwydd ei salwch, prin fu ei gyfraniad seneddol a phenderfynodd beidio ceisio amddiffyn ei sedd yn etholiad 1865.
Achos Lewis v Powell[golygu | golygu cod]
Ym mis Chwefror 1864 bu nifer o bobl yn aros yn Nanteos i fwynhau campau cefn gwlad megis hela. Yn eu mysg roedd dynes o'r enw Margaretta Lewis. Gwnaed sylw hwyliog yn y gymdeithas am y traddodiad bod gan fenyw'r hawl i ofyn llaw dyn mewn priodas yn ystod blwyddyn naid [3]. Roedd 1864 yn flwyddyn naid a gofynnodd Lewis i Powell ei phriodi hi ac fe gydsyniodd. Wedi gwneud yr addewid fe wahoddodd Powell Miss Lewis i'w cartref yn Llundain a bu dyweddïad rhyngddynt. Yn y cyfnod nid y gwasanaeth yn yr eglwys oedd ystyr priodas, y briodas oedd y weithred o wneud dau gorff yn un trwy gyfathrach rywiol. Roedd Powell wedi ei barlysu yn llwyr mewn un goes ac yn rhannol yn y llall. Wedi clywed am y trefniant cynghorodd meddyg Powell iddo ei fod yn annhebygol y byddai'n gallu cyflawni'r weithred priodasol a phe bai’n trio, gallasai'r cynnwrf ei ladd. Ar gyngor ei deulu a'i gyfeillion penderfynodd torri'r dyweddïad. Aeth Miss Lewis ag ef i'r llys gan ofyn £50,000 o iawndal am dorri cytundeb (tua £4.5 miliwn ar werth cyfatebol yn 2018)[4]. Penderfynwyd bod Powell wedi torri'r cytundeb, ond gan nad oedd gobaith cael wir briodas o'r cytundeb dyfarnwyd dim ond £2,000 i Miss Lewis. Swm sylweddol (£180,000 cyfredol[4]) ond llawer llai na'i hawliad [5].
Marwolaeth[golygu | golygu cod]
Bu farw Powell yn y Crystal Palace Hotel, Norwood, ger Llundain o'r parlys bu'n ei boeni am flynyddoedd cynt ym 1878 yn 62 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell teulu Nanteos yn Eglwys Llanbadarn [6].
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Y Bywgraffiadur POWELL, (TEULU) Nanteos adalwyd 02/04/2018
- ↑ Nanteos online adalwyd 02/04/2018
- ↑ "POWELLvLEWIS - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1865-02-18. Cyrchwyd 2018-04-02.
- ↑ 4.0 4.1 "Measuring Worth". Measuring Worth. Cyrchwyd 01/04/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "LEWISVERSUSPOWELL - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1865-02-18. Cyrchwyd 2018-04-02.
- ↑ "11ITHELATECOLONELPOWELL - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1878-05-18. Cyrchwyd 2018-04-02.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Iarll Lisburne |
Aelod Seneddol Ceredigion 1859 – 1865 |
Olynydd: Thomas Davies Lloyd |