Tesla (cwmni ceir)
| Enghraifft o: | corfforaeth, menter, busnes |
|---|---|
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Rhan o | Natur-Aktien-Index, S&P 500, NASDAQ-100, Dow Jones Global Titans 50, S&P 100 |
| Dechrau/Sefydlu | 1 Gorffennaf 2003 |
| Perchennog | Elon Musk, Baillie Gifford, Capital Ventures International, Capital Group Companies, Larry Ellison |
| Prif weithredwr | Elon Musk |
| Sylfaenydd | Martin Eberhard, Marc Tarpenning |
| Aelod o'r canlynol | LOT Network |
| Gweithwyr | 140,473 |
| Isgwmni/au | SolarCity, Tesla Automation |
| Ffurf gyfreithiol | For-Profit Corporation |
| Incwm | 4,355,000,000 $ (UDA) |
| Asedau | 62,131,000,000 $ (UDA) |
| Pencadlys | Austin |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Gwefan | https://www.tesla.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0dr90d |
| Quora | Tesla-motors-company, teslamotors-1, tesla-inc |

Cwmni ceir cyhoeddus yng Nghaliffornia sy'n cynhyrchu cerbydau trydan a dyfeisiadau storio ynni (megis Powerwall) yw Tesla (enw gwreiddiol: Tesla Motors, Inc.). Mae'r cwmni'n masnachu ar farchnad stoc NASDAQ dan y symbol TSLA. Sefydlwyd y cwmni yn 2003 yn San Carlos, Califfornia gan Elon Musk, Martin Eberhard, Marc Tarpenning, JB Straubel ac Ian Wright a phrynwyd hen ffatri Toyota a General Motors yn San Francisco yn 2010. Erbyn haf 2012 roedd y Model S ar werth. Dechreuodd y cwmni wneud elw yn 2013.[1]
Y sbortscar Tesla Roadster oedd y car cyntaf (2010); hwn oedd y car cyflym trydan-llawn cyntaf yn y byd, yn cael ei bweru gan y batri lithiwm-ion.[2] Yna daeth Model S, a oedd hefyd yn drydan-llawn, gyda Model X yn ei ddilyn wrth ei sodlau.[3] Gwerthwyd dros 100,000 o unedau yn fyd-eang o'r Model S erbyn Rhagfyr 2015, tair mlynedd a hanner wedi iddo gael ei lansio.[4] Yr adeg hon, dyma'r ail gar plug-in a werthwyd mwyaf ohono ledled y byd, yn dilyn y Nissan Leaf.[4] Mae Tesla hefyd yn gwerthu cyfarpar gwefru batris ar gyfer y cartref a'r swyddfa, ac wedi gosod rhwydwaith o orsafoedd gwefru ar draws Gogledd America, Ewrop ac Asia.[5] Mae nhw'n cynnig gorsafoedd gwefru am ddim i siopau, tai bwyta ayb ar gyfer cerbydau eu cwsmeriaid.[6] Yn 2015 lansiwyd y Model X, gyda'i ddrysau nodweddiadol falcon wing.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]
Enwyd Tesla Motors ar ôl peiriannydd trydanol a ffisegydd Nikola Tesla (Никола Тесла; 1856 – 1943) dyfeisydd a pheiriannydd o Serbia.[7] Cyfrannodd yn helaeth i ddatblygiadau'n ymwneud â systemau cerrynt trydanol (AC).
Trosolwg
[golygu | golygu cod]Y cerbyd cyntaf i ddefnyddio batri lithiwm-ion oedd y Tesla Roadster, a'r cerbyd trydan cyntaf i fedru gyrru dros 200 milltir (320 km) ar un gwefriad.[8] Erbyn 2016 roedd Tesla wedi buddsoddi $5 biliwn mewn ffatri enfawr (y Gigafactory yn Nevada) a fydd yn dod a gostyngiad o 30% yn oriau/kw o fewn ychydig flynyddoedd. Maent hefyd yn datblygu technoleg y Batri lithiwm-ion gyda Panasonic yn bartner iddynt. Mae'r pecynnau batri Powerwall a Powerpack yn rhan o'r cynlluniau hyn.
Rhwng 2008 a Mawrth 2012 roedd Tesla gwedi gwerthu 2,250 Roadster mewn 31 gwlad. Lansiwyd Model S ar 26 Mawrth 2009 ac yn Awst 2011, stopiodd y cwmni gymeryd archebion am y Roadster, yn Unol Daleithiau America.
Yn Rhagfyr 2012 roedd y cwmni'n cyflogi bron i 3,000 o weithwyr llawn amser,[9] ac erbyn Ionawr 2014 cynyddodd y ffigwr hwn i 6,000.[10]
Hyd at 2016 roedd Tesla wedi braenaru'r tir yn eu defnydd o aliminiwm yn eu ceir, sydd 30% yn ysgafnach na phe defnyddid dur. Yn 2016, fodd bynnag, er mwyn cadw'r gost mor isel a phosib, cyhoeddwyd y byddai rhyw gymaint o ddur yn y ceir yn ogystal ag aliminiwm. Y car nesaf i ddod o felin y cwmni yw'r Model 3 - yn 2017 am bris o tua £27,000.
Modelau
[golygu | golygu cod]- Roadster; Ionawr 2010
- Tesla Roadster Sport 2.5; Mawrth 2011
- Tesla Model S; 2013
- Tesla Model S; 2014
- Tesla Model X; Medi 2015
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tesla Motors (2013-05-08). "Tesla Motors, Inc. – First Quarter 2013 Shareholder Letter" (PDF). Tesla Motors. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-23. Cyrchwyd 2013-05-08.
- ↑ "The World's Only Electric Sports Car: 2010 Tesla Roadster". Sportscarmonitor.com. 2010-04-11. Cyrchwyd 2011-11-20.[dolen farw]
- ↑ "Model S - Tesla Motors". teslamotors.com. Cyrchwyd 2015-04-12.
- 1 2 Cobb, Jeff (2016-01-12). "Tesla Model S Was World's Best-Selling Plug-in Car in 2015". HybridCars.com. Cyrchwyd 2016-01-23.
- ↑ "Supercharger". Tesla Motors. Cyrchwyd 2016-03-04.
- ↑ "Destination Charging". Tesla Motors. Cyrchwyd 2016-03-04.
- ↑ Burgan, Michael (2009). Nikola Tesla: Inventor, Electrical Engineer. Mankato, Minnesota: Capstone. t. 9. ISBN 978-0-7565-4086-9.CS1 maint: ref=harv (link)
- ↑ "Tesla Motors Moving Quickly to Commercialization of an Electric Car". GreenCar Magazine. 2009-07-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 2009-08-01.
- ↑ "2012 Form 10-K, Tesla Motors, Inc". U.S. Securities and Exchange Commission. 2013-03-07. Cyrchwyd 2013-04-04.
- ↑ Tesla Motors (2014-01-15). "Tesla Motors Investor Presentation" (PDF). Tesla Motors. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-09-13. Cyrchwyd 2014-01-15.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Tesla Motors Gwefan Swyddogol