Toyota

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Toyota
Math o fusnes
kabushiki gaisha (math o gwmni)
ISIN JP3633400001
Diwydiant Diwydiant ceir
Sefydlwyd 28 Awst 1937
Sefydlydd Kiichiro Toyoda
Pencadlys

Toyota

Cynnyrch car
Refeniw 28,403,118,000,000 Yen (2016)
Incwm gweithredol
2,853,971,000,000 Yen (2016)
Cyfanswm yr asedau 47,427,597,000,000 Yen (31 Mawrth 2016)
Perchnogion Diwydiannau Toyota (6.63%), Cwmni Yswiriant Bywyd Nippon (3.68%)
Nifer a gyflogir
348,877 (31 Mawrth 2016)
Is gwmni/au
Moduron Hino
Gwefan http://www.toyota-global.com/ Edit this on Wikidata

Cwmni cerbydau o Japan yw Cwmni Motor Corporation (トヨタ自動車株式会社 Toyota Jidōsha KK?) gyda'i bencadlys yn Toyota, Aichi, Japan. Yn 2012 Toyota oedd y cwmni mwyaf drwy'r byd yn y sector cynhyrchu, gyda Volkswagen AG a General Motors yn dynn wrth ei sodlau.[1] Ym Mawrth 2014, roedd 338,875 o weithwyr yn fydeang[2] ac erbyn Chwefror 2016 Toyota oedd 13eg cwmni mwyaf yn y byd, ym mhov sector.

Yng Ngorffennaf 2012 cynhyrchwyd y 200-miliynfed cerbyd.[3] Toyota, hefyd, oedd y cwmni cynhyrchu ceir cyntaf i gynhyrchu mwy na 10 miliwn o gerbydau'r flwyddyn; gwnaeth hynny am y tro cyntaf yn 2012.[1] ac yna yn 2013.[4][5][6]

Mae Toyota'n gwerthu mwy o geir heibrid nag unrhyw gwmni arall. Roedd cyfanswm gwerthiant ceir Toyota a Lexus gyda'i gilydd yn Ionawr 2017 yn 10 miliwn, carreg filltir bwysig ym myd cerbydau trydan. Ei brif fodel, o ran cerbydau heibrid yw'r Prius, gyda dros 6 miliwn o unedau wedi'u gwerthu' fydeang, hyd at Ionawr 2017.

Ffurfiwyd Toyota yn 1937 gan Kiichiro Toyoda fel fforch o un o gwmniau ei dad, sef 'Diwydiannau Toyota' a oedd eisioes wedi ynhyrchu'r Toyota AA.

Ceir 5 brand: Hino, Lexus, Ranz, a Daihatsu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]