Nissan Leaf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nissan Leaf
2011 Nissan Leaf SL -- 10-28-2011.jpg
Nissan Leaf (USA)
Trosolwg
Gwneuthurwr Nissan
Enw arall Venucia e30 (Tsieina)
Cynhyrchu 2010–presennol
Gosod Japan: Oppama, Tochigi, Yokohama
Unol Daleithiau: Smyrna, Tennessee
Deyrnas Unedig: Dinas Sunderland (Nissan Motor Manufacturing UK)
Corff a siasi
Dosbarth Car bychan
Math o gorff hatchback 5-drws
Trefn Injan a gyriant yn y ffrynt
Llwyfan Llwyfan EV Nissan
Pwer
Modur trydan 80 kW (110 hp), 280 N·m (210 ft·lb) peiriant cydamserol (synchronous motor)[1]
Trosglwyddiad Single speed constant ratio (7.94:1)[2]
Batri Batri lithium ion 24 kW·h
Pellter model 2011/12
117 km (73 mi) Asiantaeth Amgylchedd Unol Daleithiau America
175 cilometr Cylch Gyrru Newydd Ewrop
model 2013
121 km (75 mi) EPA[3]
200 km (120 mi) NEDC[4]
Gorsaf bweru 3.3 kW a 6.6 kW (opsiynol) 240 V AC[5] ar fewnfa o SAE J1772-2009, uch. 44 kW 480 V DC ar fewnfa CHAdeMO,[6] addaswr ar gyfer socedi AC (110-240 V)
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase) 2,700 mm (106.3 in) [7]
Hyd 4,445 mm (175.0 in)[7]
Lled 1,770 mm (69.7 in)[7]
Uchder 1,550 mm (61.0 in)[7]
Pwysau pafin modelau 2011/12
1,521 kg (3,354 lb)[8]
2013 model
1,493 kg (3,291 lb)[9]

Car trydan bychan, hatchback ydy'r Nissan Leaf (neu "LEAF", sy'n acronym o: Leading, Environmentally friendly, Affordable, Family car)[1][10] a gynhyrchir gan Nissan. Cafodd ei gyflwyno i Japan ac Unol Daleithiau America yn Rhagfyr 2010. Lansiwyd model newydd ar 2 Hydref 2017, ac enillodd Wobr WhatCar? am y car trydan gorau, 2018 ar unwaith.[11]

Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y Nissan Leaf 7 marc allan o 10.[12] Fe'i beirniadwyd am ei bris uchel, yr angen am estyniad trydan i'w ailwefru ac am ei brinder milltiroedd. O'i blaid dywedwyd ei fod yn gar-teulu da ac mai hwn oedd y car trydan-yn-unig cyntaf i fod yn gwbwl argyhoeddiedig.

Cychwynwyd danfon y ceir i gwsmeriaid yn UDA a Japan yn Rhagfyr 2010, gyda Chanada a gwledydd Ewrop yn dynn wrth eu sodlau yn 2011, ac erbyn Gorffennaf 2014 roedd 35 o wledydd yn gwerthu'r Nissan Leaf. Dyma'r car trydan ar gyfer y teulu sydd wedi gwerthu mwyaf, gyda dros 130,000 wedi'u gwerthu erbyn Awst 2014. Erbyn Gorffennaf 2014 y gwledydd oedd wedi gwerthu'r nifer fwyaf o'r car oedd: UDA (58,000), Japan (42,000) ac Ewrop (25,000). O blith gwledydd Ewrop, Norwy sy'n arwain gyda 10,000 o unedau wedi'u gwerthu. 5,000 oedd wedi'u gwerthu yng ngwledydd Prydain. Mae'n cael ei adeiladu yng ngwledydd Prydain a mannau eraill.

Hanes ei ddatblygu[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleoliad y batri

Dadorchuddiwyd car batri cyntaf Nissan (y Nissan Altra) yn y Los Angeles International Auto Show ar 29 Rhagfyr 1997.[13] Fe'i cynhyrchwyd rhwng 1998 a 2002, a dim ond tua 200 o'r cerbydau a gafodd eu creu, a hynny fel cerbyd masnachol.[14][15] Ar yr un pryd datblygodd y cwmni gerbyd arall sef y 'Nissan Hypermini', a gwerthwyd nifer fechan - yn bennaf i lywodraethau a chwmniau masnachol Japan rhwng 1999 a 2001.[16] Profwyd swp bychan ohonynt hefyd yng Nghaliffornia rhwng 2001 a 2005.[17]

Lansiwyd y prototeip 'EV-11' yn 2009, car a oedd yn seiliedig ar y 'Nissan Tiida' (a alwyd hefyd yn 'Versa' yng Ngogledd America) ond disodlwyd y peiriant petrol arferol gyda batri lithium-ion 24 kW·h a modur 80 kW (110 hp)/280 N·m (210 lb·ft). Roedd ganddo bellter o 175 kilometr (109 mi) yn ôl Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr UD a system fforio neu nafigeiddio a oedd yn dibynnu ar ffôn llaw.[18] Arddangoswyd y car yma ar 26 Gorffennaf 2009.[18] Yr wythnos ddilynol, dadorchuddiwyd car tebyg iawn a fwriadwyd ar gyfer ei fas-gynhyrchu, sef y Nissan Leaf.[19][20]

Pellter a llygredd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Asiantaeth Amgylchedd Unol Daleithiau America (U.S. Environmental Protection Agency (EPA)) yn nodi pellter swyddogol o 171 km (107 mill) ar gyfer model 2016, sy'n gyfwerth â 124 milltir y galwyn (1.9 L/100 km) mewn dinas a 101 MPGe (2.3 L/100 km) ar y briffordd.[3][21] Yn ôl Cylch Gyrru Newydd Ewrop, mae ganddo bellter o 200 km (120 mi).[4] Yn ail chwarter 2012, rhoddwyd prawf manwl ar y Leaf gan gylchgrawn o'r Ffindir, sef y Tekniikan Maailma, mewn tymheredd o −15 °C (5 °F), a theithiodd y car 59 kilometr (37 mi) ar un llond batri, a hynny gyda'r gwresogydd ymlaen.[22]

Fel car trydan, nid yw'r Leaf yn cynhyrchu unrhyw lygredd uniongyrchol (h.y. o'i beipen fwg), nac unrhyw allyriad o nwyon tŷ gwydr uniongyrchol, ac felly mae'n lleihau dibynedd ar betrol a disl.[23][24] Mae'r car wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys 'Gwobr y Car Gwyrdd' yn 2010, 'Car Ewropeaidd y Flwyddyn' yn 2011 , 'Gwobr Car y Byd' yn 2011 a 'Gwobr Car Gorau Japan' am y flwyddyn 2011-12.

Yr Ail Genhedlaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nissan Leaf (ZE1)
2018 Nissan Leaf Tekna Front.jpg
Trosolwg
Gwneuthurwr Nissan
Cynhyrchu 2017–present
Gosod Japan: Oppama a Yokosuka, Kanagawa
UDA: Smyrna, Tennessee
Gwledydd Prydain: Sunderland
Corff a siasi
Dosbarth car cryno
Math o gorff hatchback 5-drws
Trefn Modur / peiriant blaen, gyrriant blaen
Pwer
Modur trydan modur cydamserol 110 kW (148 hp), 320 N·m (240 ft·lb)[25]
Trosglwyddiad Un cyflymder, cymhareb cyson
Batri MY 2018
40 kWh batri lithiwm-ion [26]
Pellter MY 2018
243 km (151 milltir) EPA[26]
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase) 2700mm
Hyd 4490mm
Lled 1788mm
Uchder 1530mm
Pwysau pafin 1580-1640kg

Lansiwyd model newydd ar 2 Hydref 2017, ac enillodd Wobr WhatCar? am y car trydan gorau, 2018 ar unwaith.[27][28] Mae'r cerbyd hwn yn cynnwys batri 40KW/awr a gall deithio am bellter o 151 milltir ar un llenwad.[26] Mae gan y peiriant wrthrym o 236 a hp o 147.[25] Caiff ei wefru drwy blyg arferol 6.6 kW neu un cyflym, 50 kW CHAdeMO a gall ddanfon pwer yn ôl i'r Grid Cenedlaethol, gan gynhyrchu incwm i'w berchennog.[29] Ceir Propilot driver assistance system ar y math drytaf, sy'n cadw'r car o fewn ei lôn.[30]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Nissan. "The new car: features and specifications". Nissan USA. http://www.nissanusa.com/leaf-electric-car/index#/leaf-electric-car/specs-features/index. Adalwyd 2011-12-13.
  2. "2012 Nissan LEAF: Specifications". Cars.com. http://www.cars.com/nissan/leaf/2012/specifications/. Adalwyd 2012-06-26.
  3. 3.0 3.1 John Voelcker (2013-02-21). "2013 Nissan Leaf gets 75-mile range (actually 84) in new EPA test". Green Car Reports. http://green.autoblog.com/2013/02/21/2013-nissan-leaf-revealed-gets-75-mile-range-actually-84-in-n. Adalwyd 2013-02-26.
  4. 4.0 4.1 Philippe Crowe (2013-02-27). "European-Specific Nissan Leaf To Be Unveiled In Geneva". HybridCars.com. http://www.hybridcars.com/european-specific-nissan-leaf-to-be-unveiled-in-geneva/. Adalwyd 2013-02-27.
  5. "Charging at home". USA: Nissan. http://www.nissanusa.com/electric-cars/leaf/charging-range/charging/. Adalwyd 2013-08-07. "[...] is easy with a 240-volt home charging dock [...] with the 6.6 kW onboard charger"
  6. "Nissan DC Quick Charger". USA: Nissan. http://www.nissanqc.com/products. Adalwyd 2013-08-07. "480 volts, 44 kW maximum [...] charging fully depleted Nissan LEAF (24kWh capacity) to 80% in 30 minutes [editor note: more than 40 kW will only be used on a fully depleted battery, normal charging power is around 20 kW]"
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 "2011 Nissan Leaf Features & Specs". Edmunds.com. http://www.edmunds.com/nissan/leaf/2011/features-specs.html?style=101300950. Adalwyd 2011-01-01.
  8. "2011 Nissan Leaf Road Test". Edmunds.com. http://www.edmunds.com/nissan/leaf/2011/road-test2.html. Adalwyd 2011-01-01.
  9. http://www.edmunds.com/nissan/leaf/2013/features-specs.html?style=&sub=
  10. "Nissan delivers first Leaf in San Francisco". The Independent. 2010-12-14. http://www.independent.co.uk/life-style/motoring/nissan-delivers-first-leaf-in-san-francisco-2160208.html. Adalwyd 2011-05-31.
  11. nissan.co.uk; adalwyd 10 Mawrth 2018.
  12. Gweler Top Gear: New Car Buyers Gide; tud. 278.
  13. "All-New Nissan Altra EV: A Friendly, High-Tech Electric Vehicle for Everyday Life". The Auto Channel. 1997-12-29. http://www.theautochannel.com/news/press/date/19971229/press008845.html. Adalwyd 2010-12-23.
  14. "Nissan Altra Electric Retrieved from Vacaville". After Gutenberg. 2006-07-02. http://jcwinnie.biz/wordpress/?p=1702. Adalwyd 2010-12-23.
  15. "California Commuter". EV World. 2001-01-31. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2007-11-17. http://web.archive.org/web/20071117214154/http://www.evworld.com/archives/testdrives/altra.html. Adalwyd 2010-12-23.
  16. Nissan (2000-01-13). "Start of Joint Field Demonstration Project Using Nissan's Hypermini". Nissan Press Release. http://www.nissan-global.com/GCC/Japan/NEWS/20000113_0e.html. Adalwyd 2011-10-29.
  17. Roberta Brayer and James Francfort (2006-01). "Nissan Hypermini Urban Electric Vehicle Testing". U.S. Department of Energy. http://avt.inl.gov/pdf/uev/nissan_hypermini.pdf. Adalwyd 2011-10-29.
  18. 18.0 18.1 Abuelsamid, Sam (2009-07-27). "Nissan shows off new Versa-based electric vehicle prototype". Autoblog.com. http://www.autoblog.com/2009/07/27/nissan-shows-off-new-versa-based-electric-vehicle-prototype/. Adalwyd 2010-12-11.
  19. Paukert, Chris (2009-08-01). "2010 Nissan Leaf electric car: In person, in depth – and U.S. bound". Autoblog.com. http://www.autoblog.com/2009/08/01/2010-nissan-leaf-electric-car-in-person-in-depth-and-u-s-b/. Adalwyd 2010-12-11.
  20. "Nissan unveils "LEAF" - the world's first electric car designed for affordability and real-world requirements" (Press release). Nissan. 2009-08-02. http://www.nissan-global.com/EN/NEWS/2009/_STORY/090802-02-e.html. Adalwyd 2010-05-13.
  21. John Voelcker (2013-02-08). "2013 Nissan Leaf: Efficiency Up 15 Percent To 115 MPGe From 99 MPGe". Green Car Reports. http://www.greencarreports.com/news/1082205_2013-nissan-leaf-efficiency-up-15-percent-to-115-mpge-from-99-mpge. Adalwyd 2013-02-11.
  22. Jussa Nieminen (2012). "Nissan Leaf Test Drive". Tekniikan Maailma 2012 (10): 122–127. http://tekniikanmaailma.fi/arkisto/lehtiarkisto?HaeNumero2=true&number=10&year=2012.
  23. "Electric cars: A sparky new motor". The Economist. 2010-10-07. http://www.economist.com/node/17202405?story_id=17202405. Adalwyd 2010-12-21.
  24. Vlasic, Bill (2010-10-07). "First Buyers of Nissan Leaf Get a Trunkful of Perks". The New York Times. http://www.nytimes.com/2010/10/08/business/08electric.html?ref=electricvehicles. Adalwyd 2010-12-21.
  25. 25.0 25.1 "2018 Nissan Leaf Versions & Specs". https://www.nissanusa.com/electric-cars/leaf/versions-specs/. Adalwyd 2018-02-23.
  26. 26.0 26.1 26.2 "2018 Nissan Leaf". U. S. Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy. 2015-01-06. https://www.fueleconomy.gov/feg/Find.do?action=sbs&id=39860. Adalwyd 2018-01-28.
  27. nissan.co.uk; adalwyd 10 Mawrth 2018.
  28. "Nissan will recall 1.2 million cars in Japan amid safety inspection scandal". The Japan Times. 2017-10-02. https://www.japantimes.co.jp/news/2017/10/02/business/corporate-business/nissans-new-leaf-ev-will-see-delayed-delivery-owing-improper-safety-inspection.
  29. Dow, Jameson (2017-12-08). "The Electrek review – 2018 Nissan Leaf fills the space between entry-level EVs and Tesla Model 3/Bolt" (yn en-US). https://electrek.co/2017/12/08/electrek-review-next-gen-nissan-leaf/.
  30. "Build Your 2018 Nissan Leaf". US: Nissan. https://www.nissanusa.com/electric-cars/2018-leaf/configure/.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: