Peipen fwg

Oddi ar Wicipedia
Y beipen fwg ar gar, gyda thawelydd i leihau'r sŵn a ddaw ohoni.

Peipen fwg (Saesneg: Exhaust) ydy'r beipen honno sy'n gwacáu nwyon a gynhyrchir fel arfer gan beiriant gyrru e.e. car, beic modur neu hyd yn oed stof i ffwrdd o'r defnyddiwr. Mewn llawer o beipiau mwg, ceir nwyon gwenwynig, chwilboeth. Gall y nwyon deithio drwy un o'r rhain: y pen silindr a'r beipen fwg ei hun, uwchwefrydd (turbocharger), newidydd catalytig, athawelydd lleihau sŵn.

Y cynllun[golygu | golygu cod]

Ceir sawl cynllun, yn ddibynnol ar y peiriant ei hun a'i ddefnydd. Pan fo'r peiriant hwnnw o fewn lle caeedig, ee generadur neu ffwrnes, gall nwyon tocsig lenwi'r ystafell mewn chwinciad. Gall y rhain gynnwys: hydrocarbonau, carbon monocsid a nitrogen ocsidau,[1] a gallant fod yn angheuol, pe na baent yn cael eu gyrru allan o'r ystafell neu'r adeilad. Gan eu bod fel arfer yn boeth iawn mae'n rhaid i'r beipen fwg (neu'r system cyfan) fod yn addas h.y. yn wrthiannol i wres. Mae simne mewn tŷ yn fath o beipen fwg sefydlog, o ran ei waith. O ran y peiriant tanio mewnol, mae'n rhaid i'r system fwg gael ei "diwnio", er mwyn cyrraedd y gofynion statudol. O fewn y gwledydd Ewropeaidd y gofynion yw EURO 5, India BS-4 ayb.

Beiciau modur[golygu | golygu cod]

Tawelydd peipen fwg beic modur 'Monster' gan Ducati

Mae'r beipen fwg (a'r system eanghach) i'w weld yn glir ar foto beic ac mae wedi'i wneud allan o blat crôm fel arfer gan ei fod yn nodwedd ffasiynol. Ymhlith y deunyddiau eraill a ddefnyddir y mae dur, alwminiwm, titaniwm a charbon ffibr.

Mae'r math o beipen a ddefnyddir yn ddibynnol ar y math o beiriant (neu injan) a phwrpas y beic - sioe, antur, cyflymder ayb. Mewn rhai systemau (fel yn y Kawasaki EX250) ceir silinder ddwbwl sy'n gyrru'r nwyon i sawl peipen. Dro arall, gallant gael eu gyrru i un peipen a elwir yn "ddau-mewn-un" (2-1). Mae gan beiriannau mawr 4 sylindr swpyr-sport neu swpy-feic o Japan system fwg ddeublyg e.e. y gyfres ZX Kawasaki, cyfres GSX Suzuki neu gyfres YZF Yamaha. Gellir prynu pecynau ar ôl prynu'r beic, fel pecynau ategol, ffasiynol. Mae'r 4-2-1 a'r 4-1 yn esiamplau o becynau ategol peipiau mwg ond mae sawl gwlad, bellach, wedi dechrau gwahardd y rhain er mwyn rheoli a lleihau halogi'r amgylchedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "What does my catalytic convertor do?". Kwik Fit. Cyrchwyd 2014-04-20.