Nissan
![]() | |
Math | busnes |
---|---|
Math o fusnes | kabushiki gaisha (math o gwmni) |
Aelod o'r canlynol | Wi-Fi Alliance |
ISIN | JP3672400003 |
Diwydiant | Diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 26 Rhagfyr 1933 |
Sefydlydd | Yoshisuke Aikawa, Den Kenjirō, William R. Gorham |
Aelod o'r canlynol | Wi-Fi Alliance |
Pencadlys | |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | Lori |
Refeniw | 11,951,169,000,000 Yen (2018) |
Incwm gweithredol | 574,760,000,000 Yen (2018) |
Cyfanswm yr asedau | 18,746,901,000,000 Yen (31 Mawrth 2018) |
Perchnogion | Renault (0.434) |
Nifer a gyflogir | 138,910 (2018) |
Rhiant-gwmni | Renault |
Is gwmni/au | Jatco |
Lle ffurfio | Yokohama |
Gwefan |
http://www.nissan-global.com/ ![]() |
Cwmni rhyngwladol sy'n arbenigo mewn gwneud ceir ydy Nissan Motor Corporation (日産自動車株式会社 Nissan Jidōsha Kabushiki-gaisha ), a dalfyrir fel arfer i Nissan ( /ˈniːsɑːn / neu UK /ˈnɪsæn /; Japanese: [nisːaɴ]), sydd a'i bencadlys yn Nishi-ku, Yokohama, Japan.
Ers 1999, mae Nissan wedi bod yn bartner o fewn y Renault–Nissan Alliance, ar y cyd gyda'r cwmni Renault o Ffrainc. Yn 2013 roedd gan Renault 43.4% o'r cyfranddaliadau / bleidlais ac roedd gan Nissan 15% o hawliau dibleidlais yn Renault. Carlos Ghosn yw Prif Weithredwr y ddau gwmni.
Mae Nissan Motor Corporation yn gwerthu ceir o dan yr enwau Nissan, Infiniti, Datsun, a NISMO.
Yn 2012 Nissan oedd y chweched gwneuthurwr ceir mwya'n y byd, ar ôl Toyota, General Motors, Volkswagen Group, Hyundai Motor Group, a Ford.[1] Gyda Renault, y gynghrair Renault–Nissan ydy'r pedwerydd mwyaf. Nissan yw'r cwmni ceir mwyaf yn tsieina, Rwsia a Mecsico.[2]
Nissan, hefyd sy'n gyfrifol am wneud y car trydan Nissan Leaf, sef y car trydan a oedd wedi gwerthu mwyaf hyd at 2014.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlu Datsun yn 1914[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlodd Masujiro Hashimoto y Kwaishinsha Motor Car Works - yn 1911. Yn 1914, cynhyrchwyd y car cyntaf gan y cwmni, a galwyd ef yn DAT.
Acxronym oedd yr enw o enwau tri teulu a oedd wedi buddsoddi yn y cwmni:
- Kenjiro Den (田 健次郎 Den Kenjirō )
- Rokuro Aoyama (青山 禄郎 Aoyama Rokurō )
- Meitaro Takeuchi (竹内 明太郎 Takeuchi Meitarō )
Ail-fedyddiwyd y car yn Kwaishinsha Motorcar Co., Ltd. yn 1918, ac eilwaith yn 1925 i DAT Jidosha & Co., Ltd. (DAT Motorcar Co.).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "World Motor Vehicle Production – OICA correspondents survey – World Ranking of Manufacturers – Year 2012" (PDF). OICA. 2013. Cyrchwyd 15 Medi 2013.
- ↑ "Message from CEO". Nissan. Cyrchwyd 29 January 2014.