Batri lithiwm-ion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Batri lithiwm-ion mewn Nissan Leaf
Batri ar gyfer Ffôn clyfar Nokia 3310

Math arbennig o fatri y gellir ei aildrydanu ydy batri lithiwm-ion (a enwir hefyd yn Li-ion battery neu LIB). Ynddo, mae'r ionau'n symud o'r electrod negatif i'r electrod positif wrth ddadlwytho'i bwer ac wrth iddo gael ei drydanu. Mae'r ionau hyn yn medru mynd a dod o fewn yr haenau, yn wahanol iawn i'r lithiwm a ddefnyddir mewn batris na ellir eu haildrydanu. Mae'r electrolyt, sy'n caniatáu symudiadau ionig, a'r ddau electrod yn gyfansoddion cyson, yn ddigyfnewid.

Mae'r batri Lithiwm-ion yn eithaf cyffredin mewn electoneg yn y cartref. Dyma un o'r mathau mwyaf poblogaidd ar gyfer offer y gellir eu cludo gan nad ydynt yn colli eu gwefr yn hawdd, pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Cânt hefyd eu defnyddio mewn ceir trydan fel y Nissan Leaf.[1] Mae Lithiwm-ion yn prysur ddisodli'r hen fath cyffredin, sef y batri asid, a ddefnyddid mewn cerbydau golff, y lori laeth, ffonau clyfar ayb. A thrwy ddefnyddio'r math newydd hwn, nid oes raid addasu'r cerbyd (na'r offer trydanol) mewn unrhyw fodd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Batri lithiwm-ion, Amgueddfa Autovision, Altlussheim, Germany

Awgrymwyd y syniad o ddefnyddio lithiwm ar ei ben ei hun, fel batr, gan M Stanley Whittingham, darlithydd ym Mhrifysgol Birmingham, tra roedd yn gweithio i gwmni Exxon yn y 1970au.[2] Defnyddiodd Whittingham y metal titanium(IV) swlffid a lithiwm fel electrodau. Ond roedd perygl o'u defnyddio, gan fod lithiwm yn elfen hynod o adweithiol. Mewn amgylchedd o ddydd i ddydd, mae'n llosgi yn yr aer, oherwydd presenoldeb ocsigen a hydrogen.[3] O ganlyniad, symudodd ffocws yr ymchwil oddi wrth lithiwm metalig i lithiwm ar ei ben ei hun.

Datblygiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o'r datblygiadau mwyaf o ran effeithiolrwydd y batri yw hwnnw a ddaeth o ffatri enfawr Tesla (mewn partneriaeth gyda Panasonic), sef y Gigafactory yn Nevada, ffatri 3,200 o erwau a gostiodd y cwmni $5 biliwn. Agorwyd y ffatri'n swyddogol yng Ngorffennaf 2016 er mwyn cynhyrchu batris 30% yn is eu pris na chynt. Datblygwyd y ffatri hefyd ar gyfer cyflenwi batris i'r car Model X a hefyd ar gyfer y pecynau storio trydan cartref (celloedd solar): Powerwall.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Powerwall - uned i'w osod ar wal y garej i wefru car trydan ayb
  • Cell danwydd - dyfais sy'n trawsnewid yr egni cemegol o danwydd i drydan; dyfeisiwyd gan y Cymro, William Robert Grove o Abertawe.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ballon, Massie Santos (14 Hydref 2008). "Electrovaya, Tata Motors to make electric Indica". cleantech.com. Cleantech Group. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-05-09. Cyrchwyd 11 June 2010.
  2. "XXIV.—On chemical analysis by spectrum-observations". Quarterly Journal of the Chemical Society of London 13 (3): 270. 1861. doi:10.1039/QJ8611300270.
  3. Gweler y cylchgrawn Car; Medi 2016l; Rhif 650; tud 63.