Nissan Leaf

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Nissan LEAF)
Nissan Leaf
Nissan Leaf (USA)
Trosolwg
GwneuthurwrNissan
Enw arallVenucia e30 (Tsieina)
Cynhyrchu2010–presennol
GosodJapan: Oppama, Tochigi, Yokohama
Unol Daleithiau: Smyrna, Tennessee
Deyrnas Unedig: Dinas Sunderland (Nissan Motor Manufacturing UK)
Corff a siasi
DosbarthCar bychan
Math o gorffhatchback 5-drws
TrefnInjan a gyriant yn y ffrynt
LlwyfanLlwyfan EV Nissan
Pwer
Modur trydan80 kW (110 hp), 280 N⋅m (210 ft⋅lb) peiriant cydamserol (synchronous motor)[1]
TrosglwyddiadSingle speed constant ratio (7.94:1)[2]
BatriBatri lithium ion 24 kW·h
Pelltermodel 2011/12
117 km (73 mi) Asiantaeth Amgylchedd Unol Daleithiau America
175 cilometr Cylch Gyrru Newydd Ewrop
model 2013
121 km (75 mi) EPA[3]
200 km (120 mi) NEDC[4]
Gorsaf bweru3.3 kW a 6.6 kW (opsiynol) 240 V AC[5] ar fewnfa o SAE J1772-2009, uch. 44 kW 480 V DC ar fewnfa CHAdeMO,[6] addaswr ar gyfer socedi AC (110-240 V)
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase)2,700 mm (106.3 in) [7]
Hyd4,445 mm (175.0 in)[7]
Lled1,770 mm (69.7 in)[7]
Uchder1,550 mm (61.0 in)[7]
Pwysau pafinmodelau 2011/12
1,521 kg (3,354 lb)[8]
2013 model
1,493 kg (3,291 lb)[9]

Car trydan bychan, hatchback ydy'r Nissan Leaf (neu "LEAF", sy'n acronym o: Leading, Environmentally friendly, Affordable, Family car)[1][10] a gynhyrchir gan Nissan. Cafodd ei gyflwyno i Japan ac Unol Daleithiau America yn Rhagfyr 2010. Lansiwyd model newydd ar 2 Hydref 2017, ac enillodd Wobr WhatCar? am y car trydan gorau, 2018 ar unwaith.[11]

Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y Nissan Leaf 7 marc allan o 10.[12] Fe'i beirniadwyd am ei bris uchel, yr angen am estyniad trydan i'w ailwefru ac am ei brinder milltiroedd. O'i blaid dywedwyd ei fod yn gar-teulu da ac mai hwn oedd y car trydan-yn-unig cyntaf i fod yn gwbwl argyhoeddiedig.

Cychwynwyd danfon y ceir i gwsmeriaid yn UDA a Japan yn Rhagfyr 2010, gyda Chanada a gwledydd Ewrop yn dynn wrth eu sodlau yn 2011, ac erbyn Gorffennaf 2014 roedd 35 o wledydd yn gwerthu'r Nissan Leaf. Dyma'r car trydan ar gyfer y teulu sydd wedi gwerthu mwyaf, gyda dros 130,000 wedi'u gwerthu erbyn Awst 2014. Erbyn Gorffennaf 2014 y gwledydd oedd wedi gwerthu'r nifer fwyaf o'r car oedd: UDA (58,000), Japan (42,000) ac Ewrop (25,000). O blith gwledydd Ewrop, Norwy sy'n arwain gyda 10,000 o unedau wedi'u gwerthu. 5,000 oedd wedi'u gwerthu yng ngwledydd Prydain. Mae'n cael ei adeiladu yng ngwledydd Prydain a mannau eraill.

Hanes ei ddatblygu[golygu | golygu cod]

Lleoliad y batri

Dadorchuddiwyd car batri cyntaf Nissan (y Nissan Altra) yn y Los Angeles International Auto Show ar 29 Rhagfyr 1997.[13] Fe'i cynhyrchwyd rhwng 1998 a 2002, a dim ond tua 200 o'r cerbydau a gafodd eu creu, a hynny fel cerbyd masnachol.[14][15] Ar yr un pryd datblygodd y cwmni gerbyd arall sef y 'Nissan Hypermini', a gwerthwyd nifer fechan - yn bennaf i lywodraethau a chwmniau masnachol Japan rhwng 1999 a 2001.[16] Profwyd swp bychan ohonynt hefyd yng Nghaliffornia rhwng 2001 a 2005.[17]

Lansiwyd y prototeip 'EV-11' yn 2009, car a oedd yn seiliedig ar y 'Nissan Tiida' (a alwyd hefyd yn 'Versa' yng Ngogledd America) ond disodlwyd y peiriant petrol arferol gyda batri lithium-ion 24 kW·h a modur 80 kW (110 hp)/280 N⋅m (210 lb⋅ft). Roedd ganddo bellter o 175 kilometre (109 mi) yn ôl Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr UD a system fforio neu nafigeiddio a oedd yn dibynnu ar ffôn llaw.[18] Arddangoswyd y car yma ar 26 Gorffennaf 2009.[18] Yr wythnos ddilynol, dadorchuddiwyd car tebyg iawn a fwriadwyd ar gyfer ei fas-gynhyrchu, sef y Nissan Leaf.[19][20]

Pellter a llygredd[golygu | golygu cod]

Mae Asiantaeth Amgylchedd Unol Daleithiau America (U.S. Environmental Protection Agency (EPA)) yn nodi pellter swyddogol o 171 km (107 mill) ar gyfer model 2016, sy'n gyfwerth â 124 milltir y galwyn (1.9 L/100 km) mewn dinas a 101 MPGe (2.3 L/100 km) ar y briffordd.[3][21] Yn ôl Cylch Gyrru Newydd Ewrop, mae ganddo bellter o 200 km (120 mi).[4] Yn ail chwarter 2012, rhoddwyd prawf manwl ar y Leaf gan gylchgrawn o'r Ffindir, sef y Tekniikan Maailma, mewn tymheredd o −15 °C (5 °F), a theithiodd y car 59 kilometre (37 mi) ar un llond batri, a hynny gyda'r gwresogydd ymlaen.[22]

Fel car trydan, nid yw'r Leaf yn cynhyrchu unrhyw lygredd uniongyrchol (h.y. o'i beipen fwg), nac unrhyw allyriad o nwyon tŷ gwydr uniongyrchol, ac felly mae'n lleihau dibynedd ar betrol a disl.[23][24] Mae'r car wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys 'Gwobr y Car Gwyrdd' yn 2010, 'Car Ewropeaidd y Flwyddyn' yn 2011 , 'Gwobr Car y Byd' yn 2011 a 'Gwobr Car Gorau Japan' am y flwyddyn 2011-12.

Yr Ail Genhedlaeth[golygu | golygu cod]

Nissan Leaf (ZE1)
Trosolwg
GwneuthurwrNissan
Cynhyrchu2017–present
GosodJapan: Oppama a Yokosuka, Kanagawa
UDA: Smyrna, Tennessee
Gwledydd Prydain: Sunderland
Corff a siasi
Dosbarthcar cryno
Math o gorffhatchback 5-drws
TrefnModur / peiriant blaen, gyrriant blaen
Pwer
Modur trydanmodur cydamserol 110 kW (148 hp), 320 N⋅m (240 ft⋅lb)[25]
TrosglwyddiadUn cyflymder, cymhareb cyson
BatriMY 2018
40 kWh batri lithiwm-ion [26]
PellterMY 2018
243 km (151 milltir) EPA[26]
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase)2700mm
Hyd4490mm
Lled1788mm
Uchder1530mm
Pwysau pafin1580-1640kg

Lansiwyd model newydd ar 2 Hydref 2017, ac enillodd Wobr WhatCar? am y car trydan gorau, 2018 ar unwaith.[11][27] Mae'r cerbyd hwn yn cynnwys batri 40KW/awr a gall deithio am bellter o 151 milltir ar un llenwad.[26] Mae gan y peiriant wrthrym o 236 a hp o 147.[25] Caiff ei wefru drwy blyg arferol 6.6 kW neu un cyflym, 50 kW CHAdeMO a gall ddanfon pwer yn ôl i'r Grid Cenedlaethol, gan gynhyrchu incwm i'w berchennog.[28] Ceir Propilot driver assistance system ar y math drytaf, sy'n cadw'r car o fewn ei lôn.[29]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Nissan. "The new car: features and specifications". Nissan USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-13. Cyrchwyd 2011-12-13.
  2. "2012 Nissan LEAF: Specifications". Cars.com. Cyrchwyd 2012-06-26.
  3. 3.0 3.1 John Voelcker (2013-02-21). "2013 Nissan Leaf gets 75-mile range (actually 84) in new EPA test". Green Car Reports. Cyrchwyd 2013-02-26.
  4. 4.0 4.1 Philippe Crowe (2013-02-27). "European-Specific Nissan Leaf To Be Unveiled In Geneva". HybridCars.com. Cyrchwyd 2013-02-27.
  5. "Charging at home". USA: Nissan. Cyrchwyd 2013-08-07. [...] is easy with a 240-volt home charging dock [...] with the 6.6 kW onboard charger
  6. "Nissan DC Quick Charger". USA: Nissan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-25. Cyrchwyd 2013-08-07. 480 volts, 44 kW maximum [...] charging fully depleted Nissan LEAF (24kWh capacity) to 80% in 30 minutes [editor note: more than 40 kW will only be used on a fully depleted battery, normal charging power is around 20 kW]
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 "2011 Nissan Leaf Features & Specs". Edmunds.com. Cyrchwyd 2011-01-01.
  8. "2011 Nissan Leaf Road Test". Edmunds.com. Cyrchwyd 2011-01-01.
  9. http://www.edmunds.com/nissan/leaf/2013/features-specs.html?style=&sub=
  10. "Nissan delivers first Leaf in San Francisco". The Independent. 2010-12-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2011-05-31.
  11. 11.0 11.1 nissan.co.uk; adalwyd 10 Mawrth 2018.
  12. Gweler Top Gear: New Car Buyers Gide; tud. 278.
  13. "All-New Nissan Altra EV: A Friendly, High-Tech Electric Vehicle for Everyday Life". The Auto Channel. 1997-12-29. Cyrchwyd 2010-12-23.
  14. "Nissan Altra Electric Retrieved from Vacaville". After Gutenberg. 2006-07-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-23. Cyrchwyd 2010-12-23.
  15. "California Commuter". EV World. 2001-01-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-17. Cyrchwyd 2010-12-23.
  16. Nissan (2000-01-13). "Start of Joint Field Demonstration Project Using Nissan's Hypermini". Nissan Press Release. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-27. Cyrchwyd 2011-10-29.
  17. Roberta Brayer and James Francfort (2006-01). "Nissan Hypermini Urban Electric Vehicle Testing" (PDF). U.S. Department of Energy. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-10-15. Cyrchwyd 2011-10-29. Check date values in: |date= (help)
  18. 18.0 18.1 Abuelsamid, Sam (2009-07-27). "Nissan shows off new Versa-based electric vehicle prototype". Autoblog.com. Cyrchwyd 2010-12-11.
  19. Paukert, Chris (2009-08-01). "2010 Nissan Leaf electric car: In person, in depth – and U.S. bound". Autoblog.com. Cyrchwyd 2010-12-11.
  20. "Nissan unveils "LEAF" - the world's first electric car designed for affordability and real-world requirements" (Press release). Nissan. 2009-08-02. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2012-02-10. https://www.webcitation.org/65LJtz8ff?url=http://www.nissan-global.com/EN/NEWS/2009/_STORY/090802-02-e.html. Adalwyd 2010-05-13.
  21. John Voelcker (2013-02-08). "2013 Nissan Leaf: Efficiency Up 15 Percent To 115 MPGe From 99 MPGe". Green Car Reports. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-12. Cyrchwyd 2013-02-11.
  22. Jussa Nieminen (2012). "Nissan Leaf Test Drive". Tekniikan Maailma 2012 (10): 122–127. http://tekniikanmaailma.fi/arkisto/lehtiarkisto?HaeNumero2=true&number=10&year=2012.
  23. "Electric cars: A sparky new motor". The Economist. 2010-10-07. Cyrchwyd 2010-12-21.
  24. Vlasic, Bill (2010-10-07). "First Buyers of Nissan Leaf Get a Trunkful of Perks". The New York Times. Cyrchwyd 2010-12-21.
  25. 25.0 25.1 "2018 Nissan Leaf Versions & Specs". Nissan USA. Cyrchwyd 2018-02-23.
  26. 26.0 26.1 26.2 "2018 Nissan Leaf". Fueleconomy.gov. U. S. Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy. 2015-01-06. Cyrchwyd 2018-01-28.
  27. "Nissan will recall 1.2 million cars in Japan amid safety inspection scandal". The Japan Times. 2017-10-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-07. Cyrchwyd 2017-10-07.
  28. Dow, Jameson (2017-12-08). "The Electrek review – 2018 Nissan Leaf fills the space between entry-level EVs and Tesla Model 3/Bolt". Electrek (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-12-08.
  29. "Build Your 2018 Nissan Leaf". US: Nissan. Cyrchwyd 2017-10-07.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: