Tesla Model S

Oddi ar Wicipedia
Tesla Model S
Trosolwg
GwneuthurwrTesla Motors
Enw arallEnw cynhyrchu: WhiteStar[1][2][3]
Cynhyrchu2012–presennol
Sawl blwyddyn2012–presennol
GosodUnol Daleithiau'r America: Fremont, California, California (Ffatri Tesla)
Ewrop: Tilburg, yr Iseldiroedd
CynllunyddFranz von Holzhausen
Corff a siasi
DosbarthCar-llawn, moethus
Math o gorff5-drws
Trefn
  • Modur yn y cefn, gyriant cefn
  • Dau fodur trydan, gyriant 4-olwyn (model D)
PerthnasolTesla Model X
Pwer
Modur trydanAllgynnyrch cyfan y cefn a'r blaen: hyd at 762 bhp (568 kW), 687 tr·pwys (931 N·m), modur teirgwedd AC
Trosglwyddiadgêr 1-cyflymder (9.73:1)
Batri60, 70, 85 or 90 kWh lithiwm-ion[4]
Dim ond ar drydan
  • 70 kWh (250 MJ)
    240 mi (390 km) (EPA)
  • 85 kWh (310 MJ)
    265 mi (426 km) (EPA)
    310 mi (500 km) (NEDC[5])
Gorsaf bweru
  • ailwefrydd 11 kW 85–265 V am 1ϕ 40 A neu 3ϕ 16 A
  • opsiwn ychwanegol: Gwefrydd deuol 22 kW am 1ϕ 80 A neu 3ϕ 32 A[6] on IEC Type 2 inlet[7]
  • Swpyr-gwefrydd 120 kW DC ailwefru mewnol, addasydd ar gyfer socedi AC arferol y cartref (110–240 V)
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase)2,959 mm (116.5 in)
Hyd4,976 mm (195.9 in)
Lled1,963 mm (77.3 in)
Uchder1,435 mm (56.5 in)
Pwysau pafin
  • 1,961 kg (4,323 lb) (60)[8]
  • 2,085 kg (4,597 lb) (60D)[9]
  • 2,090 kg (4,608 lb) (70D)[10]
  • 2,108 kg (4,647 lb) (85)
  • 2,188 kg (4,824 lb) (85D)[9]
  • 2,239 kg (4,936 lb) (P85D)[9]
Chronology
Rhagflaenydddim
Olynyddheb ei gyhoeddi

Car salŵn cwbwl-drydan yw Tesla Model S gyda'i bum drws liftback, ac a gynhyrchwyd yn gyntaf ym Mehefin 2012 gan Tesla Motors.[11] Sgoriodd y sgor uchaf o 5.0 yn rhestr y National Highway Traffic Safety Administration (NHTSA) o ran diogelwch. Fe'i dilynwyd yn 2015 gan y Tesla Model X, sy'n yrriant 4-olwyn gyda dau fodur trydan. Erbyn 2016 roedd y gyfres yn cynnwys modelau 60 (tua £59,280), 600, 75, 750, 900 a'r P1000 (tua £123,280). Nid oes ganddo injan petroliwm (heibrid), ac erbyn 2017 roedd gan y Model S hefyd ddwy fodur a marchnerth o 789 bhp; gallai deithio 0-62 mewn 2.5 eiliad, ar ei orau - sy'n gynt nag ambell supercar - a 5.5 gan y model 60, y rhataf.

Yn 2012, gyda bateri 85 Kw/awr (kWh) (310 MJ) roedd yn medru teithio am bellter o 265 milltir (426 km), pellach nag unrhyw gar cwbwl-drydan arall ar y pryd.[12][13][14] Roedd yn defnyddio tanwydd ar raddfa o 237.5 watt-awr y kilometr (38 kWh/100 mi neu 24 kWh/100 km) sy'n rhoi 89 milltir y galwyn (cyfwerth petrol (2.64 L/100 km neu 107 mpg-imp).[12][15] Erbyn 2017 gallai deithio 300 milltir heb ei ailwefru.

Daeth Model S yn gar a gipiodd frig y siartiau gwerthiant cyn pen dim, a hynny ym mhob gwlad lle'i gwerthwyd. Bu ar y brig yn Norwy ddwywaith, ym Medi ac eto yn Rhagfyr 2013.[16][17][18] Bu ar frig y ceir a werthwyd yn Denmarc hefyd, yn 2015. Yn 2015 gwerthwyd mwy o'r Tesla Model S nag unrhyw gar trydan arall, drwy'r byd.[19] Erbyn Rhagfyr 2015 roedd y gwerthiant byeang dros 100,000 uned.[20]

Rhwng Haf 2016 a Mawrth 2017, rhoddodd y cylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear 9 marc allan o 10 i'r Tesla Model S; prin iawn oedd y ceir a gafodd cymaint o farciau, a dim un yn uwch na hynny. Derbyniodd y Tesla Model X 8 allan o 10.[21] Broliwyd ei gyflymiad, y tu fewn ac ansawdd y reid.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lam, Brian (2007-02-19). "Tesla Whitestar Electric Sedan: 4 Doors, Half the Price of the Roadster". Gizmodo.com. Cyrchwyd 2012-05-06.
  2. Johnson, Merritt (2008-02-04). "Tesla Whitestar to be offered as both an EV and a REV". CNET News. Cyrchwyd 2012-05-06.
  3. Abuelsamid, Samuel (2008-06-12). "Super-secret photo of Tesla Whitestar leaks out of San Carlos". Autoblog Green. Cyrchwyd 2013-10-08.
  4. Frank Markus (2012-06-22). "2012 Tesla Model S First Drive". Motor Trend. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-24. Cyrchwyd 2012-06-22.
  5. New European Driving Cycle
  6. "Model S Specs and Standard features". Tesla Motors. Cyrchwyd 2013-08-08.
  7. "Model S Optionen und Preis" (yn German). Germany: Tesla Motors. Cyrchwyd 2013-08-08. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. Sabatini, Jeff (November 2014). "2014 Tesla Model S 60 Full Test – Review". Car and Driver. Cyrchwyd 2015-05-07.
  9. 9.0 9.1 9.2 Cantle, Chriss (2014-10-09). "Tesla Model S P85D: Dual motors, AWD, 691 hp, 3.2 to 60". Road & Track. Cyrchwyd 2015-05-12.
  10. Sherman, Don (May 2015). "2015 Tesla Model S 70D". Car and Driver. Cyrchwyd 2015-05-12.
  11. John Boudreau (2012-06-22). "In a Silicon Valley milestone, Tesla Motors begins delivering Model S electric cars". San Jose Mercury News. Cyrchwyd 2012-06-22.
  12. 12.0 12.1 "EPA rating for 85 kWh Tesla Model S: 89 MPGe, 265-mile range". Green Car Congress. 2012-06-21. Cyrchwyd 2012-06-21.
  13. Voelcker, John (2012-06-20). "2012 Tesla Model S: EPA Range of 265 Miles, 89 MPGe Efficiency". Green Car Reports. Cyrchwyd 2012-06-21.
  14. Blanco, Sebastian (2012-06-20). "Tesla Model S officially rated at 89 MPGe with 265-mile range". Autoblog Green. Cyrchwyd 2012-06-21.
  15. Adran yr Amgylchedd ac Adran Ynni'r Unol Daleithiau (2012-06-21). "Compare side-by-side: 2012 Tesla Model S". Fueleconomy.gov. Cyrchwyd 2012-06-21.
  16. Gasnier, Mat (2013-10-02). "Norway September 2013: Tesla Model S in pole position!". Best Selling Cars Blog. Cyrchwyd 2013-10-02.
  17. Voelcker, John (2013-10-01). "Tesla Model S Was Best-Selling Car in Norway For Medi". Green Car Reports. Cyrchwyd 2013-10-02.
  18. Mark Kane (2014-01-04). "Tesla Model S Again No. 1 in Overall Sales in Norway in December!". InsideEVs.com. Cyrchwyd 2014-01-04.
  19. Christensen, Thomas Bo (2016-01-04). "Tesla blev Danmarks mest solgte bil i december". Energi Watch (yn Danish). Cyrchwyd 2016-01-07. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  20. Jeff Cobb (2015-12-15). "Tesla Model S Crossed 100,000 Sales Milestone This Month". HybridCars.com. Cyrchwyd 2015-12-16.
  21. Gweler Top Gear: New Car Buyers Gide; tud. 278.