Aston Martin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aston Martin Lagonda Limited
Math o fusnes
Cwmni preifat
Diwydiant Cynhyrchu ceir
Sefydlwyd Llundain, 1913 (1913)
Sefydlydd
  • Lionel Martin
  • Robert Bamford
Pencadlys Gaydon, Swydd Warwick, Lloegr
Pobl allweddol
Cynnyrch Ceir
Cyllid £474.3 miliwn (2010)[2]
£7.6 miliwn (2010)[2]
Perchennog/ion Prestige Motor Holdings (39%)
Asmar (19%)
Primewagon (Jersey) Ltd (19%)
Adeem Investments (11%)
Daimler (5%)
DAR Capital (5%)
Sthewaz Automotive (2%)
Eraill (10%)
Gweithwyr
1,250 (2010)[3]
Is-gwmni/au
  • Aston Martin Racing (50%)
  • Lagonda (100%)
astonmartin.com

Gwneuthurwr ceir moethus o wledydd Prydain ydy Aston Martin Lagonda Limited a sefydlwyd yn 1913 gan Lionel Martin a Robert Bamford. Er fod y cwmni'n cynhyrchu ceir ers dros can mlynedd, dim ond 70,000 o geir a gynhyrchwyd. Yn 2013 gwnaeth y cwmni golled o £25.4m. Un o'i modelau mwyaf cyfoes yw'r DB11.

Daeth y cwmni'n adnabyddus am geir moethus mawr yn y 1950au a'r 1960au yn dilyn ffilmio Goldfinger yn 1964 a chysylltiad James Bond gyda'r DB5.

Aston Martin Virage coupé (2011–2012)

Yn ariannol bu'r cwmni mewn trafferthion ariannol am flynyddoedd, ac aeth yr hwch drwy'r siop yn y 1970au; ond cafwyd dyddiau da hefyd, yn enwedig pan roedd David Brown yn berchennog (rhwng 1947 a 2007).

Ym Mawrth 2007, prynnwyd 92% o'r cwmni Aston Martin gan gonsortiwm o fuddsoddwyr, dan arweiniad David Richards, am £479 miliwn, gyda Ford yn dal eu gafael mewn gwerth £40 miliwn o'r cwmni.[4] Daeth David Richards yn gadeirydd. Yn Rhagfyr 2012 arwyddodd y cwmni Eidalaidd Investindustrial[5] gytundeb i brynnu 37.5% o Aston Martin, gan fuddsoddi £150 miliwn.[6][7]

Aston Martin DBR9 (2007)

Sain Tathan[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Chwefror 2016 cyhoeddodd Aston Martin eu bwriad i greu ffatri cynhyrchu ceir yn Sain Tathan, ym Mro Morgannwg a fyddai'n cyflogi oddeutu mil o swyddi.[8] Dywedodd Prif Weithredwr Aston Martin Andy Palmer mewn cyfarfod i'r wasg yng Nghaerdydd fod hwn yn "ddiwrnod anrhaethol fawr i Gymru". Disgwylir y bydd y ceir yn dechrau rowlio allan o'r ffatri yn 2020. Ar y dechrau, petrol fydd y tanwydd, yna heibrid cyn troi'n gyfangwbwl yn gar trydan. Dadorchuddiwyd y car a fydd yn cael ei greu yn Sain Tathan, y DBX yn Sioe Gerbydau Geneva yn 2015 ac yna y flwyddyn dilynol cyflwynwyd yr Aston Martin cyntaf i gynnwys technoleg Mercedes, sef y DB11; bydd yn ddau gar yma'n costio oddeutu £160,000 y car.

Bydd y cwmni'n defnyddio hangar a fwriadwyd ar gyfer trwsio awyrennau rhyfel ac a foderneiddiwyd yn 2006 ar gost o £113m gyda'r enw Red Dragon Super Hanger, ond bu'n wag ers hynny.

Ceir James Bond[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddiwyd nifer o geir Aston Martin fel ceir y cymeriad James Bond. Defnyddiwyd y DB5 yn fwy na'r un arall ac yn 2015 crewyd can arbennig ar ei gyfer - y DB10, a gwerthwyd un o'r rhain, ar ôl y ffilmio am £2.5 miliwn.

  • Goldfinger - DB5
  • Thunderball - DB5
  • On Her Majesty's Secret Service - DBS
  • The Living Daylights - V8 Vantage a Volante
  • GoldenEye - DB5
  • Tomorrow Never Dies - DB5
  • The World Is Not Enough - DB5
  • Die Another Day - V12 a Vanquish
  • Casino Royale - DB5, Aston Martin DBS a V12
  • Quantum of Solace - DBS a V12
  • Skyfall - DB5
  • Spectre - DB10 a DB5

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]