Syr Edward Carne

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Syr Edward Carne
Ganwyd 1500 Edit this on Wikidata
Bu farw 1561 Edit this on Wikidata (61 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd, diplomydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1554-55 Parliament Edit this on Wikidata
Priordy Ewenni, a brynnwyd gan Carne.

Ysgolor o'r cyfnod Dadeni Cymreig, diplomat ac Aelod Seneddol yn Llundain[1] oedd Syr Edward Carne[1](c.1500 - 19 Ionawr 1561). Roedd yn fab i Howel Carne, Pontfaen, Sir Forgannwg, a'i wraig Cicily, merch William Kemys, Casnewydd.

Roedd yn un o ddisgynyddion Thomas Le Carne, sef ail fab Ithyn, Brenin Gwent. Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, Lloegr, a derbyniodd Fagloriaeth mewn Cyfraith Ddinesig yn 1519, a Doethuriaeth mewn Cyfraith Ddinesig yn 1524; arweiniodd hyn at swydd pennaeth yn Greek Hall.

Erbyn y flwyddyn 1530 roedd yn llysgennad yn Rhufain yn cynrychioli y brenin Harri VIII (gan nad oedd y brenin am ymddangos yno ei hunan) gerbron y Pab. Yno yr oedd ei gyngaws am 'ysgariad' i gael ei drin. Gwrthodwyd ei gynnig gan y Pab yn 1534, a dychwelodd Edward i Loegr i weithio ar ran y brenin mewn materion yr ad-daliadau tuag Eglwys Rhufain. Cafodd swydd hefyd fel un o'r comisiynwyr a fyddent yn difodi'r mynachdai hynafol, ond aeth ati i brynnu abaty Ewenni yn gartref iddo'i hun.

Teithiodd eto ar genhadaeth dramor pan oedd y brenin Harri yn ceisio gwraig arall, ac aeth i Frwsel (1538-9) a Cleves, yr Almaen (1539) ac i Ffrainc (1540) gan ddatgan y newid polisi ers cwymp Thomas Cromwell, ac yna dychwelyd i'r Iseldiroedd (1541) lle bu'n llysgennad trigiannol. Canlyniad hyn oll oedd cael gwobr gan y brenin, sef ei wneud yn ganghellor Salisbury a derbyn bywoliaeth yng Nghymru. Cafodd newydd da arall yn sgil maddeueb gan y pab Clement VII a fyddai mewn grym yng nghyswllt Capel y Groes Sanctaidd yn y Bontfaen. Gwnaeth yr ymherodr Charles V ef yn farchog. Pan basiwyd ail Ddeddf Uno Lloegr a Chymru[2] yn 1542 (pasiwyd y 1af yn 1536), fe'i apwyntiwyd i fod yn siryf cyntaf Morgannwg yn yr un flwyddyn. Cymerodd ran yn y cyrch ar Boulogne yn 1544 cyn parhau gyda'i ddyletswyddau fel llysgennad yn yr Iseldiroedd.

Map Cymru Humphrey Llwyd (1574)
Map Cymru a Lloegr, 1660-1892

Yn ystod teyrnasiad Edward VI bu'n cynghori'r Senedd ar faterion amgen i'w wasanaeth i Gyngor Cymru a'r Gororau[3] (c.1551), sef trafodaethau diplomyddol.

O dan deyrnasiad Mari Tudur cafodd barhau'n siryf Morgannwg, sef ei ail dymor yn 1554, ac fel cynrychiolydd Sir Forgannwg, ef oedd yr aelod seneddol cyntaf o Gymru y rhoddwyd mesur seneddol iddo i'w ystyried. Unwaith eto bu'n aelod o gomisiwn, sef yr un a ddyfarnodd nad oedd Cromwell wedi gweithredu'n anghyfreithlon pan gymerodd esgobaeth Bonner oddi wrtho. Fel yr unig lysgennad tramor annibynnol yn ystod teyrnasiad Mari, aeth ar neges dros yr ymherodr (1553), a hefyd i Rufain. Yno, cyn i'r frenhines farw, gwnaeth gais i gael dychwelyd i Brydain, a gwnaed trefniadau i gael Thomas Goldwell, Esgob Llanelwy, i gymryd ei le, ond yn anffodus bu Mari farw. Galwyd arno i ddychwelyd yn Chwefror 1559, ac yntau'n parhau i gadarnhau agweddau cyfeillgar Rhufain a Sbaen tuag at Loegr, ond rhybuddiodd yn erbyn Ffrainc. Ni chafodd ddychwelyd i Brydain oherwydd i'r pab wrthod rhoi trwydded teithio iddo, ond yn hytrach fe'i penodwyd yn rheolwr Ysbyty Saesneg Sant Tomos yn Rhufain. Cyn y bu yntau farw, roedd wedi colli ffafr yr awdurdodau, a phenodwyd Thomas Goldwell yn rheolwr yr Ysbyty yn ei le.

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gosodwyd cofeb iddo yn yr ysbyty gan ei gyfeillion: Geoffrey Vaughan a Thomas Freeman[4], ac er i hwnnw gael ei ddifwyno yn 1849 pan feddiannwyd Rhufain gan y Ffrancod, fe'i hadferwyd trwy gymorth John Montgomery Treharne, canghellor Llandaf. Mae union eiriad y sylwadau'n awgrymu nad oedd caethiwo Edward Carne i aros yn Rhufain wedi bod yn gyfangwbl yn erbyn ei ewyllys. Golygai hynny y gallai barhau'n deyrngar i Rufain heb golli ei hawl i'w ystadau yn Ne Cymru. Etifeddwyd y rhai hynny gan ei fab Thomas Carne, ac yn debyg i'w dad, bu yntau'n Aelod Seneddol dros Sir Forgannwg, ac yn siryf deirgwaith, er nad oedd o'r gred Brotestanaidd. Cafodd Edward Carne bedair merch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cymry Enwog Cyfnod y Tuduriaid, R. T. Williams (1915)
  2. Description of Wales: The Number of the Hundreds, Castells, Parish, Churches and Ffayres... in All The Shyres of Wales, George Owen of Henllys (1602)
  3. The Court of the President and Council of Wales and the Marches, from 1478-1575, David Lewis (1897)
  4. Gw. y geiriad yn Arch. Camb. II, iv, 131; Strype, Annals, I, i, 51; Clark, Limbus, 374-8