Senedd-dy Owain Glyn Dŵr, Dolgellau
Math | tŷ, tŷ cwrdd y Crynwyr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | y Drenewydd, Y Drenewydd a Llanllwchaearn |
Sir | Y Drenewydd a Llanllwchaearn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 106 metr |
Cyfesurynnau | 52.5159°N 3.3218°W |
Cod post | SY16 2EG |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynhaliodd Owain Glyndŵr sawl cyngor cenedlaethol, neu senedd, yng Nghymru[1]. Bu sawl cyfarfod senedd ym Machynlleth, yng Nghastell Harlech, a bu dau yn nhref Dolgellau mewn adeilad a adweinid yn lleol hyd heddiw yn Senedd-dy Glyn Dŵr, a hynny er i'r adeilad gwreiddiol gael ei symud i'r Drenewydd dros ganrif yn ôl gyda rhannau ohono wedi eu dosbarthu ar draws gwledydd Prydain[2].
Cefndir
[golygu | golygu cod]Roedd Dolgellau yn dref fechan dawel yn ystod y 15g, ond fel canolfan gymharol boblog penderfynodd Owain Glyn Dŵr i ddefnyddio'r dref fel canoblwynt ar adegau i'w wrthryfel[1].
Cred rhai mai Dolgellau oedd hoff dref Glyn Dŵr, er mai prin yw'r dystiolaeth am hynny. Serch hynny mae'n sicr mai Dolgellau oedd un o'r trefi mwyaf cefnogol i'r gwrthryfel gan mai Dolgellau oedd yr ardal gyntaf i roi cefnogaeth iddo a'r ardal olaf i droi'n ôl at frenhiniaeth Lloegr[1].
Pery hanesion gwerin amdano o hyd yn yr ardal, gan gynnwys Ceubren yr Ellyll ac Ogof Glyn Dŵr ger Llwyngwril[3].
Ysywaeth, mae'n bwysig nodi fod rhai haneswyr o safon yn codi amheuon ynglŷn a'r dystiolaeth, gan gynnwys R. R. Davies (1995) a ddywed yn ei lyfr awdurdodol ar Glyn Dŵr “More outrageously bogus were the claims made for Owain’s links with an old mansion in Dolgellau….”[1].
Er hynny, dywed eraill, gan gynnwys yr athro John Davies yn ei lyfr Hanes Cymru, fod llên gwerin yn bwysicach na thystiolaeth ysgrifenedig yn aml[4].
Owain ap Gruffydd Fychan
[golygu | golygu cod]Yn uchelwr a aned oddeutu 1344 roedd Owain Glyn Dŵr yn uchelwr o linach brenhinol a dderbyniodd addysg yn yr 'Inns of Courts', Llundain[2]. Roedd yn byw bywyd uchelwr ac arglwydd Cymreig ac roedd y beirdd yn canu ei glodydd, yn enwedig Iolo Goch a ganodd gywydd enwog i Sycharth, cartref Glyn Dŵr[1].
Bu'n filwr cyflogedig i'r Arglwydd Harri o Gaerhirfryn a bu'n ymladd dros Frenin Lloegr ar sawl achlysur gan ddod yn enwog am ei filwriaeth yn yr Alban, cyn arwain gwrthryfel yng Nghymru yn 1400 yn dilyn ffrae gyda chymydog a chael ei arwisgo'n Dywysog Cymru yn 1404[3].
Arweiniodd Gymru at annibyniaeth gan gynllunio cael eglwys gadeiriol i'r wlad a dwy bifysgol. Penllanw'r gwrthryfel oedd i lysgenhadon Glyn Dŵr anfon llythyrau at Frenin Ffrainc o un wladwriaeth i'r llall. Anfonwyd un o'r llythyrau hyn o Ddolgellau[5].
Ond byrhoedlog fu'r Gymru annibynnol hon a chydag amser ciliodd y Gymry annibynnol gan droi'n ôl at Frenhiniaeth Lloegr. Erbyn 1416 roedd Brenin Lloegr yn cynnig pardwn i Glyn Dŵr a'i fab a wrthodwyd. Erbyn 1420 roedd cynnig pardwn unwaith eto, ond y tro hwn i'r mab yn unig sydd yn awgrym fod Owain Glyn Dŵr, a fyddai erbyn hynny yn henwr oddeutu 76 mlwydd oed, wedi marw. Er hynny, nid oes cofnod o'i farwolaeth[1].
Glyndŵr a Dolgellau
[golygu | golygu cod]Ceir y tystiolaeth gyntaf am gysylltiad gwrthryfel Glyn Dŵr â Dolgellau mewn llythyr gan ei elyn, Henry Percy, neu Hotspur fel y'i gelwid. Dywed y llythyr a anfonwyd ar y 4/6/1401 o Ddinbych ei fod wedi bod yn Nolgellau a bod cefnogaeth yn fwy yno nag y tybid:
“…ynghylch y daith a wnes ar y 30ain dydd y o Fai o’r Aran i Gadair Idris, i Dduw bo’r diolch, a tystiolaethaf i chwi yr hyn a welais yw fod y tu hwnt i’m gallu ynghylch y niwed sydd yma…..”[2].
Dyma dystiolaeth gadarn fod y gwrthryfel yn gryf yn ardal Dolgellau. Mae tebygrwydd fod Glyndwr wedi bod yno ei hun a gwyddys fod rhyfel guerilla ym mynyddoedd Meirionnydd a’i fannau dirgel wrth ei fodd. Dywed cofnodion pellach o'r un flwyddyn (1401) fod Glyndwr wedi aros yn Nolgellau am ychydig ddyddiau
“ynghyd a 120 o wyr mentrus a lladron, a’u harwain yn llawn awydd ymladd i ucheldir Ceredigion.”[2]
Yn Nolgellau roedd carchar Glyn Dŵr cyn iddo oresgyn Castell Harlech, awgrym arall ei fod yn ffyddiog fod Dolgellau yn ardal ddiogel i'w wrthryfel[3].
Gwyddys wedyn, 15 mlynedd yn ddiweddarach, fod Brenin Lloegr wedi defnyddio mab Glyndwr, Maredudd, yn 1416 i gynnig pardwn iddo. Aeth Maredudd at lethrau Cader Idris, ger Dolgellau i basio'r neges i'w dad[1].
Cofnodwyd yn ddiweddarach, yn 1417 fod Owain yng Ngogledd Orllewin Cymru, fod ei fyddin yn rhannu eu hamser rhwng Y Bala a ger Abaty Cymer yn ardal Dolgellau. Dywed yr un cofnod nad oedd y fyddin yn gallu mynd i Eryri yr adeg honno[2].
Felly, awgryma'r dystiolaeth fod Dolgellau wedi bod yn ganolfan ddiogel i'r gwrthryfel o 1401 (os nad ynghynt) hyd at 1417 o leiaf, a hynny tua'r diwedd ar adeg pan nad oedd Eryri yn ddiogel.
Senedd-dy Owain Glyndŵr, Dolgellau
[golygu | golygu cod]Adeilad
[golygu | golygu cod]Enw arall ar yr adeilad oedd Cwrt Plas yn Dre (neu Cwrt Plas-yn-dre)[5]. Fe welir lluniau ohono yn ei wedd artistig pan yn Nolgellau ar y ddalen hon. Ceir tystiolaeth yr adeiladwyd Cwrt Plas yn Dre yn 1385[5]. Fe'i gofnodir fel Senedd-dy am y tro cyntaf yn 1555[5].
Llythyr o Ddolgellau
[golygu | golygu cod]Ar ddechrau'r 15g roedd ffrae o fewn yr Eglwys Gatholig. Roedd dau Bab, sef Pab Rhufain a Phab Avignon. Gan fod Brenin Lloegr yn gefnogol i Bab Rhufain a Brenin Ffrainc yn gefnogol i Bab Avignon penderfynodd Owain Glyn Dŵr y byddai modd sicrhau cefnogaeth Brenin Ffrainc drwy addo ei deyrngarwch i Bab Avignon.[2]
Ar y 10 Mai 1404 cynhaliodd Glyn Dŵr senedd yn Cwrt Plas yn Dre, Dolgellau. O'r senedd hwn anfonwyd llythyr at Siarl VI, Brenin Ffrainc[2]. Diwedda'r llythyr hwn gyda'r geiriau:
"Dyddiwyd yn Dolguelli ar y degfed dydd o Fai..."
Dewisodd Glyn Dŵr yr esgob, Gruffudd Younge, ei ganghellor, a John Hanmer, ei lysgenad, i ddanfon y llythyr ar ei ran. Arwyddodd y llythyr, "Owain trwy ras Duw Tywysog Cymru", gan gyfeirio at Siarl VI fel "Ein cenfder Brenin Ffrainc"[2].
O ystyried y dystiolaeth yn y llythyr hwn, roedd barn yr Athro R. R. Davies (1995) mai ffolineb “outrageously bogus”[1] oedd cysylltiad Glyn Dŵr a Dolgellau yn ddadleuol iawn.
Dirywiad yr Adeilad a'r Her i Bobl Dolgellau
[golygu | golygu cod]Yn 1875 roedd cyflwr yr adeilad, Cwrt Plas yn Dre yn peri gofid i bobl tref Dolgellau ac i'r cyngor gan fod ei wneuthuriad yn dirywio. Paratowyd adroddiad pensaernïol ar yr adeilad gan bensaer o Birmingham, AB Phipsom. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at bwysigrwydd treftadaeth Prydain ac y dylid atgyweirio'r adeilad[5]. Adroddwyd yn Llafar Gwlad gan Alwyn ap Huw:
"Barn y pensaer oedd bod rhannau helaeth o Blas-yn-dre yn perthyn i'r l4eg ganrif, ac felly ei fod yn sefyll yn nyddiau Owain Glyndwr. Nododd, hefyd, bod yr adeilad yn cynnwys nifer o nodweddion o bwys hanesyddol a oedd yn werth eu cadw yn annibynnol a'u cysylltiad â'r tywysog, pethau megis ffrâm, drws a cholyn wedi eu naddu o un darn o goed. Ei amcangyfrif o gostau atgyweirio oedd rhwng £150 a £200, swm pitw am achub adeilad o bwys hyd yn oed yn y dyddiau hynny."[6]
Penderfynodd pobl ardal Dolgellau y dylid codi arian ar gyfer atgyweirio'r hen senedd-dy ac aethpwyd ati yn lleol i greu cronfa at y diben.[5] Y bwriad oedd i ail adfer y senedd-dy a'i droi'n amgueddfa sirol i Sir Feirionnydd[6][7]
Ond fel cyd-ddigwyddiad llwyr roedd ymddiriedolaeth Dr Daniel Williams, dyn o Wrecsam a fu farw yn 1716, am ddilyn cyfarwyddiadau ei ewyllys ac adeiladu ysgol fonedd i ferched yng ngogledd Cymru. Roedd un amod i'r cynnig, sef fod y gymuned leol yn codi £1,000 at y gost. Cynigwyd yr ysgol yn wreiddiol i ardal Caernarfon, ond methwyd codi'r arian.[5]
Aeth Aelod Seneddol rhyddfrydol Meirionnydd, Samuel Holland, ati i geisio dadlau'r achos dros adeiladu'r ysgol yn Nolgellau. Aeth ati ymhellach i ddadlau y dylid defnyddio'r arian oedd yng nghronfa atgyweirio'r senedd-dy i dalu am Ysgol Dr. Williams a cefnogodd cyngor y dref ei gais[5].
Bu cryn ddadlau yn Nolgellau gyda'r bobl leol yn sefydlu pwyllgor i achub Cwrt Plas yn Dre. Pennawd papur newydd Y Dydd oedd "A gaiff ef sefyll neu syrthio?"[5] a phenawd y Cambrian News oedd "The Vandals are Coming". Roedd erthygl Y Dydd yn rhybuddio rhag bod yn fyrbwyll a rhoi'r arian at ysgol Dr. Williams[5].
Esbonia erthygl Alwyn ap Huw yn Llafar Gwlad:
"Wedi derbyn adroddiad Mr Phipson gwnaed penderfyniad rhyfeddol a thrychinebus gan y pwyllgor. Penderfynwyd mai da o beth fyddai prynu ac atgyweirio'r adeilad, ond mai gwell oedd peidio â chynnal cyfarfod cyhoeddus i'r perwyl hynny rhag ofn iddi darfu ar apêl a oedd yn mynd rhagddi yn Nolgellau ar y pryd i godi arian at sefydlu Ysgol Dr Williams, ysgol fonedd i ferched."[6]
Y weithred newidiodd y sefyllfa'n llwyr oedd i Samuel Holland AS, dalu o'i boced ei hun i brynu dwy erw o dir ar gyfer yr ysgol oddi wrth Robert Vaughan, perchennog y Nannau. Penderfynodd y cyngor i roi'r arian yn gyfangwbl at Ysgol Dr. Williams.[5] Adeiladwyd Ysgol Dr. Williams yn Nolgellau a hwn bellach yw'r adeilad sydd yn gartref i gampws Dolgellau o Goleg Meirion Dwyfor.
Symud y Senedd-dy
[golygu | golygu cod]Pennawd y Cambrian News wedi'r penderfyniad oedd "The Vandals have Come" a nodir fod y senedd-dy am gael ei symud – “moved to private park at Newton” [sic].[5]
Yn 1885 prynodd Sir Pryce Pryce-Jones yr adeilad a'r cyfan oedd ynddo a chyda chymorth y pensaer A.B.Phipson aeth ati i symud yr adeilad yn gyfan i'r Drenewydd. Pryce-Jones oedd yr arloeswr gwerthu dillad trwy'r post a pherthynas i Robert Owen y diwygiwr cymdeithasol[6].
Dymchwelwyd yr hen senedd-dy a'i ddanfon gyda'r trên i'r Drenewydd lle'r ailgodwyd ef ar dir Dolerw[6]. Aethpwyd ati i geisio ailgodi'r adeilad ar yr un cynllun ag yr oedd Cwrt Plas yn Dre yn Nolgellau. Ond bu sawl newid iddo.
Cofnododd y pensaer mai neuadd hir Cymreig ydoedd a'i fod yn amlwg o gryn bwysigrwydd rhyw dro. Fe'i gwelir heddiw ger Plas Dolerw yn Drenewydd. Mae ganddo ffrâm bren gyda muriau pen o gerrig. Ar y tu allan i'r adeilad mae grisiau cerrig tebyg iawn i'r rhai a welir yn lluniau Cwrt Plas yn Dre.[5]
Defnyddiwyd yr adeilad fel tŷ cwrdd i'r Crynwyr yn y Drenewydd am flynyddoedd lawer yn ystod yr 20g.
Siop T. H. Roberts
[golygu | golygu cod]Ar safle Cwrt Plas yn Dre yn Nolgellau adeiladwyd adeilad cadarn sgwar a bu gwerthwyr nwyddau haearn yno am dros ganrif, sef teulu T. H. Roberts. Wedi i'r haearnwerthwyr gau agorwyd yr adeilad fel caffi sydd yn boblogaidd gyda phobl leol ac yn atyniadol i ymwelwyr. Enwid y busnes haearnwerthwyr am flynyddoedd yn T. H. Roberts Parliament House Ironmongers[6].
Tystiolaeth Llafar Gwlad a Llên Gwerin
[golygu | golygu cod]Yn Nolgellau fe nodir yn lleol mai senedd-dy Glyndwr yw safle T. H. Roberts heddiw.
Enw swyddogol y fan ar arwyddion yw Llys Owain (Queen's Square yn Saesneg).
Gerllaw, yn nhref Dolgellau, mae Stryd Glyn Dŵr a Parliament Square[6].
Aelwyd y Senedd-dy
[golygu | golygu cod]Dywed adroddiad y pensaer ar Cwrt Plas yn Dre mai "y lle hynotaf yn yr adeilad drwy gynllun yw’r lle tan hynafol.”[5]
Yn Lewes, ger Brighton yn Lloegr, mae plasdy Southover Grange. Mae'n blasdy hanesyddol lle y bu sawl aelod o deulu brenhinol Lloegr yn aros. Adeiladwyd yr adeilad yn 1572 ar gyfer William Newton, stiward Iarll Dorset[8].
Yn Southover Grange, yn 'Newton Room' ceir lle tân derw mawr a chadarn. Arno fe naddwyd y geiriau:
"Y'Old Welsh Parliament House Dolgelly".[8]
Ar yr un lle tân fe geir y naddiad "WN 1572" – sydd mae'n debyg yn cyfeirio at yr adeiladwr William Newton a dyddiad adeiladu'r lle.[8]
Tybed ai cyd-ddigwyddiad yw'r enw Newton Room a'r ffaith i'r papur newydd nodi i Cwrt Plas yn Dre gael ei symud i 'Newton' yn hytrach na 'Newtown'.
Awgrym rhai yw fod Pryce-Jones wedi gwerthu rhannau o'r adeilad wedi iddo brynu Cwrt Plas yn Dre a bod perchnogion Southover Grange wedi prynu'r lle tân. Ceir lluniau yma o'r aelwyd yn Southover Grange gyda chaniatâd y ffotograffydd, Carlotta Luke.
Ymlyniad i'r Gwrthryfel
[golygu | golygu cod]Wedi diwedd gwrthryfel Glyn Dŵr bu i arweinwyr llwythi Cymru gynnal sawl senedd i geisio cynnal trefn a llywodraethu. Cynhaliwyd sawl senedd ym Mwlch yr Oerddrws, nid nepell o Llamfa’r Lladron, gerllaw Dolgellau. Er nad oes dyddiadau pendant ar gyfer y cyfarfodydd hyn, gellir rhoi amcan-ddyddiadau o tua 1420-1450[1][9].
Llai na chanrif yn ddiweddarach (1521) roedd Gwylliaid Cochion Mawddwy yn afreolus o amgylch de Meirionnydd a gogledd Maldwyn. Un o'u gweithredoedd enwog oedd lladd y Barwn Owen yn 1555. Roedd y Barwn yn berchenog ar y Senedd-dy yn Nolgellau (Cwrt Plas yn Dre) a hefyd yn perthyn i Hywel Sele (a laddwyd gan Glyn Dŵr). Er hynny gadawsant i un o deulu’r Nannau ddianc.[9][10]
Awgrym Williams Jones (1976)[10] oedd mai disgynyddion rhydd-ddeiliaid na chawsant eu tiroedd yn ôl wedi gwrthryfel Glyn Dŵr oedd rhai o Wylliaid Cochion Mawddwy. Cytunodd Jones (1997) ag ef,[9] er datgan nad oes unrhyw dystiolaeth mai gwleidyddiaeth gwrthryfel oedd tu ôl i'w hymddygiad, ond efallai fod chwerwder am eu sefyllfa ar y pryd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Alwyn ap Huw Senedd-dy Dolgellau. http://freepages.history.rootsweb.ancestry.com/~alwyn/D/LLG/senedd.htm
- Barber, C. (1998) In Search of Owain Glyndŵr. Blorenge Books. Abergavenny
- Davies, J. (2007) Hanes Cymru. Penguin.
- Davies, R. R. (1995) The Revolt of Owain Glyndŵr. Oxford University Press. Oxford
- Ellis (1936) Dolgellau
- Ellis, T. P. (1928) The Story of Two Parishes Dolgelley & Llanelltyd, Welsh Outlook Press, Pennod XII – Owain Glyndwr
- Fychan, C. (2007) Pwy oedd Rhys Gethin. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Aberystwyth
- Gibbon, A. (2004) The Mystery of Jack of Kent & the Fate of Owain Glyndŵr. Sutton Publishing. Stroud
- Henken, E. R. (1996) National Redeemer – Owain Glyndŵr in Welsh Tradition. University of Wales Press. Caerdydd
- Historic Enlgand (2017) Southover Grange. https://historicengland.org.uk/listing/the-list/list-entry/1192300
- Hodges, G. (1995) Owain Glyndwr & the War of Independence in the Welsh Borders. Logaston Press. Swydd Henffordd
- Jones, G. A. (1962) Owain Glyndŵr. University of Wales Press. Caerdydd
- Jones, J. Gwynfor (1997) Gwylliaid Cochion Mawddwy: Darlith Glyndwr. Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Bangor.
- Roberts, L. J. (1915) Owen Glyndwr. Hughes a'i Fab. Gwrecsam
- Skidmore, I. (1978) Owain Glyndŵr Prince of Wales. Christopher Davies (Publishers). Abertawe
- William-Jones, K. (1976) "A Mawddwy Court Roll, 1415–16", Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, XXIII
Gweler Hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Davies (1995) The Revolt of Owain Glyndŵr. Oxford University Press
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Skidmore, I. (1978) Owain Glyndŵr Prince of Wales. Christopher Davies (Publishers). Abertawe
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Barber, C. (1998) In Search of Owain Glyndŵr. Blorenge Books. Abergavenny
- ↑ Davies, J. (2007) Hanes Cymru. Penguin.
- ↑ 5.00 5.01 5.02 5.03 5.04 5.05 5.06 5.07 5.08 5.09 5.10 5.11 5.12 5.13 Ellis (1936) Dolgellau
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 6.6 ap Huw
- ↑ Owen, Hugh J "Owen Glyn Dŵr's Old Parliament House at Dolgelley", Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, Cyf II tud 81–8; Archifdy Sir Feirionnydd 1953
- ↑ 8.0 8.1 8.2 Historic England (2017)
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Jones, J. G. (1997) Gwylliaid Cochion Mawddwy – Darlith Glyndwr. Cymdeithas Addysg y Gweithwyr.
- ↑ 10.0 10.1 William-Jones, K. (1976) "A Mawddwy Court Roll, 1415–16", Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, XXIII