Samuel Holland
| Samuel Holland | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Hydref 1803 Lerpwl |
| Bu farw | 27 Rhagfyr 1892 |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Siryf Sir Feirionnydd |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ryddfrydol |
| Tad | Samuel Holland |
| Mam | Catherine Menzies |
| Priod | Ann Robins |
Gwleidydd Rhyddfrydol oedd Samuel Holland (17 Hydref 1803 - 27 Rhagfyr 1892) a oedd yn Aelod Seneddol Sir Feirionnydd rhwng 1870 a 1885.
Dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd 17 Hydref 1803 yn Lerpwl yn fab i Samuel a Katherine (née Menzies) Holland, a'i fedyddio yng Nghapel Presbreteraidd Paradise Street Lerpwl ar 26 Ionawr 1804. Roedd ei dad wedi buddsoddi yn helaeth yn y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru.
Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preswyl yn Lloegr a'r Almaen, pan yn 18 oed fe'i danfonwyd i oruchwylio mewn chwarel lechi newydd ei dad yn Rhiwbryfdir Ffestiniog a bu fyw ym Meirionnydd am weddill ei oes.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd dair gwaith. Ei ail wraig oedd Anne Rose a briododd ym 1850 yn Allesley, Gorllewin Canolbarth Lloegr (ac a arferai fod yn Swydd Warwick), bu hi farw ym 1877 [1]
Priododd Caroline Jane Burt, merch y Parch J. T. Burt, Broadmoor yn Sandringham ym 1878 [2] bu hi farw yng Nghaerdeon ger Dolgellau ym 1924.
Aelod Seneddol
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Meirionnydd am 14 mlynedd gan ennill dau etholiad yn gyffyrddus efo dros 60% o'r bleidlais a chael ei ethol yn ddiwrthwynebiad unwaith.
Cyfraniad y tu allan i'r senedd
[golygu | golygu cod]Cofir am Samuel Holland yn bennaf fel un o arloeswyr y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog. Bu yn un o'r prif gymhellwyr i adeiladu Rheilffordd Ffestiniog i gysylltu'r gweithfeydd llechi yn Ffestiniog a phorthladd Porthmadog [3]
Fe fu hefyd yn un o brif gefnogwyr sefydlu Ysgol Dr Williams, ysgol bonedd i ferched yn Nolgellau gan brynu a thalu am y tir yr adeiladwyd yr ysgol arno fel rhodd i'r ymddiriedolwyr.[4]
Fe fu'n Ustus Heddwch ac yn is-gwnstabl Castell Harlech ac yn Siryf Sir Feirionydd ym 1862
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Rhagfyr 27 1892 yn 99 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Aberystwyth Observer 31 Mawrth 1877 "Family Notices" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3041042/ART65
- ↑ Cambrian News and Merionethshire Standard 25 Hydref 1878 "Local and District" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3309082/ART59
- ↑ History - Ffestiniog Railway / Part 1 - A Railway Is Born http://www.festrail.co.uk/fr_history_1.htm
- ↑ Y Dydd Rhag 30 1892 "Samuel Holland Ysw" http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3162826/ART25
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: David Williams |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1870 – 1885 |
Olynydd: Henry Robertson |