Sem Benelli

Oddi ar Wicipedia
Sem Benelli
Ganwyd10 Awst 1877 Edit this on Wikidata
Prato Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1949 Edit this on Wikidata
Zoagli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Alma mater
  • Convitto Nazionale Cicognini Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, libretydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa cena delle beffe Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol yr Eidal, Plaid Ffasgaidd Genedlaethol Edit this on Wikidata

Roedd Sem Benelli (10 Awst, 1877 - 18 Rhagfyr, 1949) yn fardd, ysgrifennwr a dramodydd Eidalaidd oedd hefyd yn, awdur testunau ar gyfer y theatr a sgriptiau sinema. Roedd hefyd yn awdur libreto opera.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Benelli yn Filettole yn blentyn i Raffaello Benelli, crefftwyr tlawd, a Giovacchina (née Borri) ei wraig. Mynychodd ysgol y Tadau Piarist yn Fflorens ond bu’n rhaid iddo dorri ar draws ei astudiaethau oherwydd marwolaeth gynamserol ei dad.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl profiad byr fel newyddiadurwr, trodd at lenyddiaeth fel un hunan dysgedig. Ym 1908, ysgrifennodd ei gomedi gyntaf, La Tìgnola.[2] Cafodd llwyddiant mawr y flwyddyn ganlynol gyda'i ddrama La cena delle beffe yn y Teatro Arigentina yn Rhufain. Ym 1910 cafodd llwyddiant pellach gyda'i ddrama trasiedi L'amore dei tre re, a defnyddiodd ar gyfer libreto opera i Italo Montemezzi a lwyfannwyd ym 1913.[3] Ym 1911 cyhoeddodd Il mantellaccio e Rosmunda, ac ym 1913 La Gorgona trowyd y ddwy ddrama hyn yn sgriptiau ar gyfer ffilmiau o'r un enw a ymddangosodd yn y sinemâu ym 1915 a 1942. Ym 1915 cyhoeddodd Le nozze dei centauri. Ym 1913 cyfansoddodd gerdd symffonig er anrhydedd Giuseppe Verdi wedi'i gosod i gerddoriaeth gan Francesco Cilea a'i pherfformio yn Theatr Carlo Felice yn Genova, dinas yr oedd gan Verdi cysylltiad agos a hi.

Cymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei glwyfo a'i addurno â medal arian ddwywaith. Ar noson 31 Hydref 1918 roedd yn rhan o'r criw a gludodd Raffaele Paolucci a Raffaele Rossetti i borthladd Pola. Ar doriad y wawr suddodd y ddau Raffaele y Viribus Unitis un o longau pwysicaf ymerodraeth Awstria. Benelli oedd y milwr Eidalaidd cyntaf i gyhoeddi rhyddhau'r porthladd o ganlyniad i'r suddo.

Ar ôl y rhyfel cafodd La cena delle beffe llwyddiant mawr ar Broadway, Efrog Newydd ym 1919 o dan y teitl The Jest, gyda Lionel a John Barrymore yn serennu ac ym Mharis gyda Sarah Bernhardt yn serennu.[4]

Ym 1924 addasodd ei ddrama gynnar yn libreto i opera gan Umberto Giordano o dan yr un teitl La cena delle beffe. [5]

Rhwng y ddau ryfel byd trodd ei law at gomedi gan gyhoeddi Adamo ed Eva (1933), Madre Regina ed Eroi (1934) a Caterina Sforza, (1938).

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Castello Sem Benelli

Ar ôl gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei ethol yn ddirprwy Fflorens i Senedd yr Eidal ar y rhestr Ryddfrydol ym 1919.[6] Ar gais Mussolini, fe aeth ar y rhestr genedlaethol ar gyfer deddfwrfa XXVII (1924-29). Yn fuan wedyn torrodd ei gysylltiad â'r Ffasgwyr ar ôl i'r gwleidydd sosialaidd Giacomo Matteotti gael ei lofruddio.[7] Ym 1925 roedd ymhlith llofnodwyr y Maniffesto o ddeallusion gwrth ffasgaidd, a luniwyd gan Benedetto Croce. Ym 1933 rhoddodd y weinyddiaeth waharddiad ar bob cwmni dramatig amatur rhag perfformio gweithiau Benelli, ar amheuaeth eu bod yn wrth ffasgaidd ac "yn groes i feini prawf addysgol a moesol" ffasgaeth.

Er gwaethaf ei wrthwynebiad i Mussolini gwirfoddolodd i fod yn rhan o gyrch yr Eidal ar Ethiopia rhwng 1935 a 1936 gan ysgrifennu llyfr am ei brofiadau Io in Affrica (1936).[8] Er hynny nid oedd Mussolini yn fodlon maddau iddo. Rhoddwyd caniatâd iddo ail afael ar ei ysgrifennu cafodd ei ddrama L'elefante (1937) ei sensro'n drom a danfonodd yr heddlu tyrfaoedd i darfu ar noson agoriadol ei gomedi Orchidea (1938).

Ceisiodd Benelli ymadael a'r Eidal ond diarddelwyd ei drwydded deithio i'w rhwystro rhag gwneud. Ond o weld y perygl o gynnydd yn wrthwynebiad Ffasgwyr yr Eidal a gwrthwynebiad llymach yr Almaenwyr oedd a dylanwad cynyddol dros lywodraeth yr Eidal penderfynodd ffoi yn anghyfreithiol. Gyda chymorth gwrthsafwyr Milan llwyddodd cyrraedd y Swistir ym 1944, lle arhosodd yn alltud hyd gwymp Mussolini.[9]

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu Sem Benelli a'i wraig Stefania yn rhieni i'r newyddiadurwr, actor a dramodydd Eidaleg Sennuccio Benelli.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bedd Sem Benelli

Ym 1914 adeiladodd Benelli castell ar arfordir môr Liguria yn ardal Zoagli, yn y Riviera. Ar ôl ddychwelyd i'r Eidal ar ôl cwymp y gyfundrefn Ffasgaidd ymddeolodd yno. Bu farw yn ei gastell yn 72 mlwydd oed.[1] Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghlasordy San Domenico, Prato

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "BENELLI, Sem in "Dizionario Biografico"". www.treccani.it (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2020-09-29.
  2. "Benelli, Sem", The Companion to Theatre and Performance (Oxford University Press), 2010-01-01, doi:10.1093/acref/9780199574193.001.0001/acref-9780199574193-e-388, ISBN 978-0-19-957419-3, https://www.oxfordreference.com/view/10.1093/acref/9780199574193.001.0001/acref-9780199574193-e-388, adalwyd 2020-09-29
  3. "Italo Montemezzi | Italian composer". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-29.
  4. Lorch, Jennifer (2002), "Benelli, Sem", The Oxford Companion to Italian Literature (Oxford University Press), doi:10.1093/acref/9780198183327.001.0001/acref-9780198183327-e-355, ISBN 978-0-19-818332-7, https://www.oxfordreference.com/view/10.1093/acref/9780198183327.001.0001/acref-9780198183327-e-355, adalwyd 2020-09-29
  5. Gran Enciclopèdia de la Música Clàsica, cyf. IV, tud. 1478. IBSN 84-7291-226-4
  6. "Benèlli, Sem nell'Enciclopedia Treccani". www.treccani.it (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2020-09-29.
  7. Antonio G. Casanova, Matteotti. Una vita per il socialismo, Bombiani, Milan, 1974, t. 90
  8. "Benelli, Sem". TheFreeDictionary.com. Cyrchwyd 2020-09-29.
  9. Marrone, Gaetana; Encyclopedia of Italian Literary Studies: A-J tud 171-173 . Taylor & Francis, 2007