Rhestr glofeydd gogledd-ddwyrain Cymru
Gwedd
Dyma Restr o lofeydd gogledd-ddwyrain Cymru.
Estynnai maes glo gogledd-ddwyrain Cymru o Groesoswallt yn y de, i Brestatyn yn y gogledd, yn cynnwys rhan o Swydd Amwythig, yr hen Sir Ddinbych a'r hen Sir y Fflint.
Plwyfi Y Waun, Rhiwabon a Wrecsam oedd canolfannau mwyngloddio pwysicaf y maes glo yn yr hen Sir Ddinbych.
Rhestr yn nhrefn yr wyddor
[golygu | golygu cod]Enw | Lle | Agorwyd | Caeodd | Nodyn |
---|---|---|---|---|
Aberderfyn | Ponciau, Rhiwabon | |||
Acrefair | Acrefair, Rhiwabon | |||
Afoneitha | Penycae, Rhiwabon | yn ymyl y ffordd rhwng Rhos a Wynn Hall | ||
Allt y Gwter | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Bers neu Glanrafon | Rhostyllen, Esclus | 1870 | 1986 | y glofa olaf yn y ardal. |
Boncddu | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Pyllau y Brandy | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Brychdyn, Hen | Brychdyn, Wrecsam | c1850 | 1878 | |
Brychdyn, Newydd | Caego, Brychdyn, Wrecsam | 1883 | 1910 | |
Brymbo | Brymbo, Wrecsam | |||
Bryncunallt | Y Waun | c1870 | ||
Brynmali | Brychdyn, Wrecsam | c1770 | 1935 | |
Bryn y Felin | Penycae, Rhiwabon | i'r de y cwm Afon Eitha | ||
Bryn yr Owen | Pentre Bychan, Esclus | tua 1715 | ger fferm Bryn yr Owen | |
Caeglo | Acrefair, Rhiwabon | ger orsaf Acrefair (GWR) | ||
Cae Penty | Brymbo, Wrecsam | |||
Cambrian | Rhiwabon | |||
Cefn | Cefn Mawr, Rhiwabon | ger Fferm Dolydd rhwng orsaf Cefn (GWR) a'r pentre | ||
Cefnybedd | Cefn-y-bedd, Wrecsam | 1913 | 1934 | yn Sir y Fflint |
Chirk Bank | Llanfarthin | yn Swydd Amwythig | ||
Clawdd Offa | Glanrafon, Wrecsam | 1943 | ||
Cristionydd | Penycae, Rhiwabon | |||
Delph | Acrefair, Rhiwabon | |||
Dolydd neu Bro Llangollen | Cefn Mawr, Rhiwabon | |||
Erwlwyd | Llwyneinion, Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Flannog | Ifton, Llanfarthin | 1869 | yn Swydd Amwythig, ger fferm Flannog | |
Fron | Tanyfron, Wrecsam | c.1806 | 1930 | |
Fronheulog | Penycae, Rhiwabon | |||
Ffosygo | Moss, Wrecsam | c.1849 | 1917 | |
Ffrith neu Glacoed | Brymbo, Wrecsam | 1922 | ||
Ffrwd | Moss, Wrecsam | 1904 | ||
Ffwrnais y Ponciau | Ponciau, Rhiwabon | |||
Gardden Hall neu Pyllau Morton | Rhiwabon | |||
Gardden Lodge | Rhiwabon | 1846 | ||
Gatewen | Moss, Wrecsam | 1877 | 1932 | |
Gresffordd | Gresffordd, Wrecsam | 1907 | 1974 | |
Groes | Penycae, Rhiwabon | rhwng Groes a Chopras | ||
Grosvenor neu Coedpoeth | Coedpoeth, Wrecsam | |||
Gwersyllt | Gwersyllt, Wrecsam | 1862 | 1925 | |
Hafod neu Gloddfa Newydd Rhiwabon | Hafod y Bwch, Rhiwabon | 1863 | 1968 | |
Half Square | Llwyneinion, Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Holland | Brymbo, Wrecsam | 1941 | ||
Ifton | Ifton, Llanfarthin | 1913 | 1968 | yn Swydd Amwythig |
Legacy | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | 1870-75 | ||
Lodge | Brymbo, Wrecsam | |||
Lôn Du | Brychdyn, Wrecsam | 1897 | 1957 | |
Llai Hall | Cefn-y-bedd, Wrecsam | 1877 | 1955 | |
Llai Main | Llai, Wrecsam | 1914 | 1966 | |
Llannerchrugog | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Llwyneinion | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Moreton Hall | Llanfarthin | yn Swydd Amwythig | ||
Mill | Pentre Cristionydd, Penycae, Rhiwabon | |||
Minera | Y Mwynglawdd, Wrecsam | |||
Mountain Level | Penycae, Rhiwabon | |||
New British | Acrefair, Rhiwabon | |||
Old Furnace Rock | Rhiwabon | c.1901 | ||
Pant | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Parc Du | Y Waun | c.1653 | c.1856 | y glofa henaf yn yr ardal |
Pencoed | Brymbo, Wrecsam | |||
Penhoddw | Rhiwabon | |||
Penrhos | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Pentrebychan | Pentre Bychan, Esclus | |||
Pentrefawr (Y Pentre) | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | ryhwle yn yr ardal Rhos, Pant neu Pentre Cristionydd? | ||
Pentrefron neu Pentrefram | Talwrn, Coedpoeth, Wrecsam | 1819 | ||
Pentre Dwr | Rhiwabon | |||
Pentre Saeson | Brymbo, Wrecsam | 1871 | ||
Pen y Bryn | Acrefair, Rhiwabon | |||
Penycae | Penycae, Rhiwabon | |||
Plasbennion | Plasbennion, Rhiwabon | |||
Plas Isa | Penycae, Rhiwabon | |||
Plas Kynaston neu Pwll Waterloo | Cefn Mawr, Rhiwabon | 1865 | 1897 | ger orsaf Cefn (GWR) |
Plas Maen | Cymau, Wrecsam | 1864 | ||
Plas Madog neu Y Bee Pit | Plasbennion, Rhiwabon | 1846 | ||
Plas Mostyn | Brymbo, Wrecsam | 1801 | ||
Plas Power | Glanrafon, Wrecsam | 1877 | 1938 | |
Preesgwyn | Preesgwyn, Llanfarthin | yn Swydd Amwythig | ||
Pwll Cadi | Lodge, Brymbo, Wrecsam | 1867 | ger orsaf Brymbo (GWR) | |
Pwll Pitar | Brymbo, Wrecsam | |||
Quinta | Quinta, Llanfarthin | yn Swydd Amwythig | ||
Smelt | Brymbo, Wrecsam | 1968 | ||
Southsea | Glanrafon, Wrecsam | |||
Square | Rhosllannerchrugog, Rhiwabon | |||
Stryt Isa | Penycae, Rhiwabon | |||
Sycamore | Acrefair, Rhiwabon | |||
Talwrn | Coedpoeth, Wrecsam | |||
Trefynant | Acrefair, Rhiwabon | |||
Vauxhall neu Kenyon | Rhiwabon | 1857 | 1928 | ger Tafarn y Morton |
Westminster | Moss, Wrecsam | c.1847 | 1925 | |
Wrecsam & Gwaunyterfyn | Rhosddu, Wrecsam | 1868 | 1924 | |
Wynn Hall | Plas Wynn, Rhiwabon | yn cynnwys Pwll y Ffowndri a Phwll y Graig | ||
Wynnstay | Rhiwabon | 1856 | 1927 |
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Collieries of Denbighshire, G. G Lerry, 1946 a 1968
- The North Wales Coalfield - a collection of pictures, Ithel Kelly, 1990
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Glofa'r Bers
- Pwll Glo Gresffordd Archifwyd 2012-03-03 yn y Peiriant Wayback