Llanfarthin
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
pentref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
| |
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig (awdurdod unedol) |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.9171°N 3.0128°W ![]() |
Cod SYG |
E04011362, E04008432 ![]() |
Cod OS |
SJ322362 ![]() |
![]() | |
Mae Llanfarthin (Saesneg: St Martins) yn bentre a phlwyf sifil yn Swydd Amwythig ar ffin Lloegr, gydag Afon Ceiriog ac Afon Dyfrdwy yn ffurfio’r ffin.
Roedd eglwys y plwyf yn gysegredig i Sant Martin o Tours, Ffrainc.
Roedd hen blwyf Llanfarthin yn cynnwys y trefgorddau Ifton, Wiggington, Bronygarth a Weston Rhyn. Ond yn 1870 aeth Weston Rhyn a Bronygarth i'r plwyf newydd Weston Rhyn.
Tan y 1960au, roedd Llanfarthin yn dref lofaol gyda'r pentrefwyr yn gweithio mewn pyllau glo lleol fel Ifton, Preesgwyn, Trehowell a Quinta neu ym Mharc Du a Bryncunallt (dros y ffin yn Y Waun). Caewyd pwll glo olaf yr ardal, Iffton, yn 1968.
Mae Camlas Undeb Swydd Amwythig yn mynd trwy'r pentre.