Rheilffordd Caerfyrddin–Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Caerfyrddin–Aberystwyth
Mathcwmni cludo nwyddau neu bobl Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1860 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.223°N 3.936°W Edit this on Wikidata
Map

Lein gangen y Great Western Railway oedd rheilffordd Caerfyrddin–Aberystwyth a oedd yn cysylltu trefi Caerfyrddin ac Aberystwyth. Roedd hefyd ganddi leiniau cangen i Gastellnewydd Emlyn, Aberaeron, a Llandeilo. Fe agorodd y rheilffordd yn rhannol yn 1867, a chau i deithwyr yn 1965 yn dilyn llifogydd ger Llanilar. Caewyd y lein i nwyddau yn 1973 a chodwyd y cledrau rhwng 1975 ac 1977.

Bellach, mae hefyd yn rheilffordd arfaethedig o orsaf reilffordd Caerfyrddin i orsaf reilffordd Aberystwyth, gyda phum gorsaf newydd yn Llanilar, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, a Phencader, gydag amcan bris o rhwng £505 miliwn a £700 miliwn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth fesul cam o’' de. Adeiladwyd Rheilffordd De Cymru i'r gorllewin o Abertawe yn 1852. Estynnwyd y cledrau i Hwlffordd gan gyrraedd Caerfyrddin yn 1859.

Yn dilyn syniad y contractwr rheilffyrdd Cymreig enwog, David Davies, o gysylltu trefi Caerfyrddin ac Aberteifi, agorwyd rheilffordd i’r gogledd o Gaerfyrddin i Gynwyl Elfed yn 1860. Dair blynedd ynghynt ym mis Awst 1957, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu twnnel Alltwalis a oedd yn 985 llath o hyd. Erbyn mis Mawrth 1864, roedd y rheilffordd wedi ymestyn i Bencader gan gyrraedd Llandysul dri mis yn ddiweddarach. Yn yr un flwyddyn, cysylltwyd Aberystwyth â Lloegr gan Reilffordd y Cambrian.

Ddegawd ynghynt yn 1854, ffurfiwyd y Manchester and Milford Railway Company er mwyn sefydlu cyswllt rheilffordd rhwng Manceinion ac Aberdaugleddau. Roedd dociau Lerpwl yn prysuro’n arw gyda thagfeydd o longau cludo, felly penderfynwyd cysylltu’r ddau le er mwyn manteisio ar y dociau naturiol a thawel Aberdaugleddau a’i chysylltiadau â gogledd America. Profwyd cynllunio’r rheilffordd yn anodd a chymhleth gyda nifer o gynlluniau’n cael eu trafod a’u gollwng. Roedd tirwedd mynyddog canolbarth Cymru yn ei gwneud hi’n anodd iawn i adeiladau rheilffordd gan fod angen i’r tir fod mor wastad â phosibl.

Gyda’r nod o gysylltu Manceinion ag Aberdaugleddau mewn golwg, ymlwybrodd y lein o Bencader i Lanbedr Pont Steffan yn 1866. Cyflogwyd 700 o ddynion gan y contractwyr David Davies a Frederick Beeston i adeiladu lein y M&M, gan gynnwys adeiladu’r twnnel yn Llanfihangel-ar-Arth/Bryn Teifi. Defnyddiwyd oddeutu 150 o gerbydau a cheffylau ar gyfer y gwaith. Yna, cysylltwyd Llanbedr Pont Steffan ag Aberystwyth ymhen 2 flynedd drwy Dregaron, Ystrad-Fflur, Tŷ'n y Graig a Llanilar gan gyrraedd Aberystwyth erbyn mis Awst 1867.

Yn ei anterth, roedd y rheilffordd yn boblogaidd gyda ffermwyr i gludo anifeiliaid, cynhyrchu llaeth a chaws a chludo pheiriannau fferm. Cludwyd anifeiliaid yn gyflym dros bellteroedd mawr i ateb y galw cynyddol. Roedd enw da i’r martiau prysur yn Llanybydder a Llandysul, a buont yn ffynnu gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Galluogodd y rheilffyrdd i bobl deithio o bellter ac i’r anifeiliaid gael eu mewnforio ac allforio i ble bynnag oedd yr angen. Byddai pobl yn cymudo i Aberystwyth neu Gaerfyrddin i siopa. Bu darlithwyr ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn defnyddio’r rheilffordd yn rheolaidd, a denwyd nifer o ysgolheigion o bellter i ddarlithio ar y campws.

Caewyd y rheilffordd fesul darn, gyda cholli’r darn i’r de o Aberystwyth yn gyntaf. Collwyd y gwasanaeth i deithwyr cyn ei amser ym mis Rhagfyr 1964 pan erydiwyd rhan o’r rheilffordd gan lifogydd Afon Ystwyth ger Llanilar. Ni thrwsiwyd y rhan yma, a chyflwynwyd gwasanaethau bws i gysylltu rhan olaf y daith. Gyda’r difrod oherwydd y llifogydd ynghyd â thoriadau Beeching, caewyd y lein gyfan i deithwyr ym 1965, ond parhau wnaeth y gwasanaethau cludiant i’r hufenfa ym Mhont Llanio tan 1970, a’r hufenfeydd yn Felinfach a Chastellnewydd Emlyn yn 1973. Caewyd y lein gyfan yn 1973 a chodwyd y cledrau yn 1975.