Puteindra
- Mae 'putain' a 'hwran' yn ailgyfeirio yma.
Y weithred o gael cyfathrach rywiol neu wasanaethau rhywiol eraill am arian yw puteindra. Fe'i gelwir yn aml "yr alwedigaeth hynaf yn y byd" am fod gan yr arfer hanes hir iawn. Mae'r sefyllfa gyfreithiol yn amrywio'n fawr o wlad i wlad ac mae wedi newid hefyd o gyfnod i gyfnod; mewn rhai gwledydd mae'n gyfreithlon ond mewn ambell wlad mae'n drosedd ddifrifol. Cysylltir puteindra â merched sy'n cynnig eu gwasanaethau i ddynion yn bennaf, ond ceir puteiniaid gwrywaidd hefyd, naill ai'n hoyw neu fel cwmni i ferched. Gelwir y rhain yn "jigolos".
Ceir sawl enw Cymraeg i ddisgrifio rhywun sy'n puteinio ei hunan. Y mwyaf cyffredin yw putain, hwr a hwran.
O ran lleoliad, ceir puteiniaid sy'n gweithio ar y stryd (puteindra stryd), mewn adeiladau neilltuol (puteindai), neu drwy asiantaethau hebrwng/escort). Mae lleoliadau eraill yn cynnwys tafarnau, clybiau nos a sawnau.
Cymru
[golygu | golygu cod]Hanesyddol
[golygu | golygu cod]Mae testunau Cyfraith Hywel yn cydnabod bodolaeth puteindra yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Ceir cymalau yn y llyfrau cyfraith am statws y butain, gan ddefnyddio'r gair hwnnw; o blith merched a gwragedd, dim ond y butain sydd heb yr hawl i iawndal os caiff ei threisio. Ceir cyfeiriadau hefyd at "ferched perth a llwyn" (cymharer y dywediad "plentyn perth a llwyn" am "blentyn siawns"), ond mae'n aneglur os oedd y merched hynny yn cael eu hystyried yn buteiniaid fel y cyfryw gan fod cariadon yn cwrdd yn y goedwig hefyd - sy'n olygfa ystrydebol yng nghanu serch y cyfnod - er bod awgrym fod rhai ohonynt yn buteiniaid.[1] Mae gan y bardd Prydydd Breuan (fl. canol y 14g) gerdd filain a phersonol iawn ei naws i ferch anhysbys o'r enw Siwan Morgan o Aberteifi. Mae'n gerdd syfrdanol o fras a masweddus sy'n darlunio Siwan fel putain flonegog aflan, dwyllodrus, sydd wedi cael "saith cant cnych" (sef 'saith can cnychiad') neu ragor.[2]
Yn fwy diweddar, roedd ardal Bae Caerdydd (a dinas Caerdydd yn gyffredinol) yn adnabyddus am ei phuteiniaid. Yn y ddeunawfed ganrif, yn ôl Iolo Morganwg, roedd "puteiniaid Caerdydd" yn ddywediad cyffredin ym Mro Morgannwg.[3]
Cyfoes
[golygu | golygu cod]Mewn adroddiad gan BBC Cymru yn 2000, honnir fod tua 30 o buteiniaid ifainc, rhai ohonynt dan oed, yn gweithio ar y stryd mewn un ardal yng nghanol Caerdydd.[4] Yn 2007, cafodd tri pherson eu deddfrydu i garchar am redeg puteindai mewn tai preifat yn Rhuddlan, Penmaenmawr a Bae Colwyn yng ngogledd Cymru. Merched o dde-ddwyrain Asia, yn cynnwys Tsieina, oedd yn gweithio yno, ac roedd y busnes yn cael ei rhedeg gan Gymro, Sais a merch o dras Tsieineaidd.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dafydd Jenkins a Morfydd E. Owen (gol.), The Welsh Law of Women (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980), tt. 35, 91.
- ↑ Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'. Tud. 13, llinell 11.
- ↑ G. J. Williams, Iolo Morganwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1956), tud. 31.
- ↑ BBC Wales "Social workers at 'breaking point'", 15 Mawrth, 2000
- ↑ BBC Wales "Three jailed for running brothel", 12 Hydref, 2007
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
|