Pulaski, Tennessee
![]() | |
Math | dinas yn yr Unol Daleithiau ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Casimir Pulaski ![]() |
Poblogaeth | 7,870 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 18.703556 km² ![]() |
Talaith | Tennessee |
Uwch y môr | 213 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 35.1958°N 87.0344°W ![]() |
![]() | |
Tref yn Giles County, yn nhalaith Tennessee, Unol Daleithiau America yw Pulaski, Tennessee. Cafodd ei henwi ar ôl Casimir Pulaski, ac fe'i sefydlwyd ym 1809.
Poblogaeth ac arwynebedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae ganddi arwynebedd o 18.703556 cilometr sgwâr ac ar ei huchaf mae'n 213 metr yn uwch na lefel y môr. Yn ôl cyfrifiad y wlad, poblogaeth y dref yw: 7,870; mewn cymhariaeth, yn 2016 roedd poblogaeth Caerdydd yn 361,462 a Rhyl tua 26,000.[1]
o fewn Giles County |
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd cyffiniau Pulaski yn safle nifer o ysgarmesoedd yn ystod Ymgyrch Franklin-Nashville. Meddiannodd milwyr yr undeb y dalaith o 1862. Ym 1863, crogwyd y negesydd Cydffederal, Sam Davis, yn Pulaski gan Fyddin yr Undeb ar amheuaeth o ysbïo.
Ddiwedd 1865, yn ystod dyddiau cynnar y Cyfnod Ailadeiladu, y ddinas oedd safle sefydlu'r Ku Klux Klan (KKK) cyntaf gan chwe chyn-filwr Tennessee o'r Fyddin Cydffederal. Sefydlodd John C. Lester, John B. Kennedy, James R. Crowe, Frank O. McCord, Richard R. Reed, a J. Calvin Jones y KKK yn Pulaski ar Ragfyr 25, 1865, gan greu rheolau ar gyfer cymdeithas gyfrinachol i bobl croenwyn. [2]
Roedd y gwrthryfelwyr gwyn yn benderfynol o gynnal goruchafiaeth pobl gwyn eu croen ac ymladd yn gyfrinachol yn erbyn cynnydd gwleidyddol cyn gaethion â'r bobl wen oedd yn cydymdeimlo a hwy. Trefnwyd pennod o'r KKK yn gyflym mewn rhannau eraill o'r wladwriaeth a'r De. Byddai aelodau KKK yn aml yn ymosod ar eu dioddefwyr yn ystod y nos, er mwyn cynyddu braw eu bygythiadau ac ymosodiadau. Digwyddodd digwyddiadau eraill o drais hiliol yn erbyn pobl dduon hefyd. Terfysg hiliol oedd terfysg Pulaski a gychwynnwyd gan gwynion yn erbyn pobl dduon, a ddigwyddodd yn Pulaski yng ngaeaf 1868.
Sefydlwyd Coleg Methodistaidd Martin yn Pulaski ym 1870.
Pobl nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir nifer o bobl nodedig a anwyd yn Pulaski, gan gynnwys:
Rhestr Wicidata:
enw | delwedd | galwedigaeth | man geni | Bl geni | Bl marw |
---|---|---|---|---|---|
Samuel St. George Rogers | gwleidydd cyfreithiwr barnwr |
Pulaski, Tennessee | 1832 | 1880 | |
Rivers H. Buford | barnwr | Pulaski, Tennessee | 1878 | 1959 | |
Wilson Collins | chwaraewr pêl fas chwaraewr pêl-droed Americanaidd |
Pulaski, Tennessee | 1889 | 1941 | |
Walter Beech | entrepreneur hedfanwr |
Pulaski, Tennessee | 1891 | 1950 | |
Hunter Lane | chwaraewr pêl fas | Pulaski, Tennessee | 1900 | 1994 | |
Ross Bass | gwleidydd | Pulaski, Tennessee | 1918 | 1993 | |
Lindsey Nelson | cyflwynydd chwaraeon | Pulaski, Tennessee | 1919 | 1995 | |
Julia Smith Gibbons | cyfreithiwr barnwr |
Pulaski, Tennessee | 1950 | ||
Tyler Smith | chwaraewyr pêl-fasged | Pulaski, Tennessee | 1986 | ||
Bo Wallace | chwaraewr pêl-droed Americanaidd | Pulaski, Tennessee | 1992 |
|
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ statswales.gov.wales; adalwyd 25 Mawrth 2020.
- ↑ Fleming, Walter J., Ku Klux Klan: Its Origins, Growth and Disbandment, tudalen. 27, 1905, Neale Publishing