Neidio i'r cynnwys

Prifysgol Cenedlaethol An-Najah

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Cenedlaethol An-Najah
Enghraifft o:prifysgol Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddHassan Hammad Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolAgence universitaire de la Francophonie, International Association of Universities Edit this on Wikidata
Isgwmni/auAn-Najah National University, Tulkarm Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthNablus, Tulkarm Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.najah.edu/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/09tyg_ edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Prifysgol gyhoeddus, anllywodraetho yw Prifysgol Genedlaethol An-Najah ( Arabeg: جامعة النجاح الوطنية‎) sydd wed'i lleoli yn Nablus, yng ngogledd y Lan Orllewinol, Palesteina. Fe'i llywodraethir gan fwrdd o ymddiriedolwyr ac mae gan y brifysgol 22,000 o fyfyrwyr a 300 o ddarlithwyr, mewn 19 cyfadran. Hi yw'r brifysgol fwyaf ym Mhalesteina.

Daeth yn brifysgol lawn ym 1977, a hynny drwy siarter.

Yr Hen Gampws; 2017
Mynedfa i'r campws
Canolfan An-Najah ar gyfer Ymchwil Canser a bôn-gelloedd
Adran Wyddoniaeth; 2020
  • 1918: Fe'i sefydlwyd fel ysgol gynradd (Ysgol An-Najah Nabulsi) yn addysgu ei disgyblion lleol ac o dramor.
  • 1941: Enwyd y sefydliad yn Goleg An-Najah.
  • 1965: Daeth yn sefydliad hyfforddi athrawon, gyda'r hawl i ddyfarnu graddau prifysgol canolradd.
  • 1977: Esblygodd yn brifysgol lawn, Prifysgol Genedlaethol An-Najah gyda Chyfadran y Celfyddydau a Chyfadran Gwyddorau ac ymunodd â Chymdeithas Prifysgolion Arabaidd (AARU) fel aelod llawn.
  • 1978: Cafodd Cyfadrannau Economeg, Gwyddorau Gweinyddol, Gwyddorau Addysg a Pheirianneg eu creu.
  • 1981: Sefydlwyd Rhaglen gradd meistr gyntaf mewn rheoli cwricwla yng Nghyfadran y Gwyddorau Addysg a derbyniwyd An-Najah fel aelod yn Undeb Prifysgolion y Byd.
  • 1984:Ceuwyd y brifysgol am 4 mis gan fyddin Israel [1]
  • 1985: Ehangwyd cwmpas astudiaethau uwch i gynnwys meysydd newydd gan gynnwys Cemeg, Astudiaethau Islamaidd ac Addysg.
  • 1994: Sefydlwyd y Gyfadran Fferylliaeth; cyflwynwyd cyfadrannau a chanolfannau gwyddonol arbenigol newydd, gan gynnwys y Rhaglen Academaidd ar gyfer Astudio Ymfudo Anwirfoddol (APSIM); y Sefydliad Astudiaethau Dŵr ac Amgylcheddol; y Ganolfan Astudiaethau, Ymgynghori a Gwasanaethau Technegol; a'r Deorydd Busnes a Thechnoleg.
  • 1995: Sefydlwyd Cyfadran y Gyfraith.
  • 1997: Llofnodwyd cytundeb gyda chyfarwyddwr cyffredinol UNESCO i sefydlu Cadeirydd UNESCO ar Hawliau Dynol a Democratiaeth. Yn yr un flwyddyn, lansiodd y brifysgol y Rhaglen Arabeg ar gyfer Siaradwyr Brodorol.
  • 1998: Penderfynodd Bwrdd yr ymddiriedolwyr sefydlu'r Ganolfan Cynllunio Trefol a Rhanbarthol (CURP).
  • 1999: Sefydlwyd y Gyfadran Meddygaeth mewn cydweithrediad â phrifysgolion Al-Quds ac Al-Azhar. Yn yr un flwyddyn, sefydlwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cymunedol hefyd yn gwasanaethu'r gymuned leol.
  • 2000: Ar 25 Mehefin 2000, gosododd Yasser Arafat y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Peirianneg a Thechnoleg Munib Masri ar y Campws Newydd. Yn yr un flwyddyn, sefydlwyd y Gyfadran Meddygaeth Filfeddygol a nifer o raddau uwch, gwyddonol gan gynnwys Peirianneg Gyfrifiadurol, Ystadegau, yr Economi a Datblygu Amaethyddol.
  • 2001: Sefydlwyd y Gyfadran Technoleg Gwybodaeth. Cwblhawyd y gwaith o adeiladu Coleg Technoleg Hisham Hijjawi a chroesawodd y Coleg ei fyfyrwyr cyntaf ym mis Hydref.
  • 2003: Lansiwyd gorsaf radio "Llais An-Najah" gan helpu i gryfhau'r cysylltiadau â'r gymuned leol ac i ddarparu gwybodaeth ddibynadwy. Sefydlwyd y Ganolfan Polau Barn ac Astudiaethau Arolygon, y Ganolfan Addysg Barhaus (CEC) a'r Ganolfan Mesur a Gwerthuso (MEC) hefyd.
  • 2004: Sefydlwyd y Gyfadran Optometreg a'r Gyfadran Nyrsio.
  • 2005:
    • Sefydlu Palas Al-Qasem yn Beit Wazan i wasanaethu fel Canolfan Cynllunio Trefol a Rhanbarthol.
    • Sefydlu'r Gyfadran Anrhydeddau ac Uned Cadwraeth ac Ailadeiladu Pensaernïol.
    • Lansiwyd Gwobr An-Najah am Ymchwil Wyddonol ym maes gwyddoniaeth a'r dyniaethau.
    • Sefydlwyd dwy raglen meistr wyddonol: Hwsmonaeth Anifeiliaid ac Ynni Glân a Rhesymoli Defnydd.
  • 2006:
    • Sefydlwyd Sefydliad Meddygaeth Fforensig fel cangen o'r Gyfadran Meddygaeth.
    • Sefydlwyd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr An-Najah
    • Sefydlodd ei Ardderchowgrwydd, Mahmoud Abbas, Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina gampws newydd y brifysgol. Cyflwynwyd Doethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith i'r Arlywydd Abbas.
  • 2007: Sefydlodd y brifysgol y canlynol:
    • Canolfan Ieithoedd.
    • Lab Cyfrifiadurol ar gyfer Pobl â Nam ar eu Golwg.
    • Clinig Deintyddol.
    • Clinig Prostheteg ar yr Hen Gampws.
    • Sefydliad Rhagoriaeth TG Corea-Palesteina
    • Clinig Llygaid y Gyfadran Optometreg.
  • 2008:
    • Achredwyd y Gyfadran Meddygaeth fel cyfadran annibynnol gan Weinyddiaeth Addysg ac Addysg Uwch Palesteina.
    • Caffaelwyd ysbytai Al-Zakat yn Nablus., a'i addasu'nysbyty addysgu ar gyfer myfyrwyr meddygaeth a nyrsio; bydd yr ysbyty yn gwasanaethu rhanbarth cyfan o ogledd y Lan Orllewinol mewn cydweithrediad â Gweinidogaeth Iechyd Palesteina.
    • Agorwyd mosg yn Awst 2008.
    • Agorwyd adeiladau Chwaraeon ar y campws newydd ym mis Tachwedd 2008.

Corff myfyrwyr

[golygu | golygu cod]

Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr yn Balesteiniaid, ond mae yna fyfyrwyr ac athrawon o bob cwr o'r byd hefyd. Ymhlith yr ieithoedd a siaredir ar y campws mae Arabeg, Hebraeg, Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg.

Adeilad Coleg Nyrsio ac Optometreg Sheikh Zayed - Coleg Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd - Campws Newydd

Cyfadran

[golygu | golygu cod]

Yn y 2010au Ansam Sawalha, a oedd yn ddeon cyfadran fferylliaeth, oedd y fenyw Balesteinaidd gyntaf i gael ei henwi yn Oriel Anfarwolion Menywod mewn Gwyddoniaeth yn 2011. Anrhydeddwyd Sawalha am ei gwaith yn sefydlu'r Ganolfan Rheoli Gwenwyn a Gwybodaeth Cyffuriau gyntaf yn Nhiriogaethau Palesteina yn 2006.[2][3]

Cyfleuster cynhyrchu sain

Erbyn 2020au roedd gan y brifysgol un-deg-chwech o gyfadrannau gwyddonol a chyfadrannau'r dyniaethau . Mae An-Najah yn cynnig hyfforddiant israddedig ym meysydd meddygaeth, peirianneg, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol a'r gwyddorau naturiol, yn ogystal â chyrsiau astudio graddedig yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Mae'r cyfadrannau gwyddonol yn cynnwys:
  • Cyfadran Gwyddoniaeth
  • Cyfadran Peirianneg
  • Cyfadran Technoleg Gwybodaeth
  • Cyfadran Amaeth
  • Cyfadran Meddygaeth Ddynol
  • Cyfadran Optometreg
  • Cyfadran Fferylliaeth
  • Cyfadran Meddygaeth Filfeddygol
  • Cyfadran Nyrsio
  • Cyfadran Addysg Gorfforol
Mae'r Cyfadrannau'r Dyniaethau yn cynnwys:
  • Cyfadran y Celfyddydau
  • Cyfadran y Celfyddydau Cain 
  • Cyfadran y Gyfraith Islamaidd ( Shari'a )
  • Cyfadran y Gyfraith
  • Cyfadran Economeg a Gwyddorau Gweinyddol
  • Cyfadran y Gwyddorau Addysg
  • Cyfadran Astudiaethau Graddedig .

Cydweithredu a chyfnewid tramor

[golygu | golygu cod]

Mae gan y brifysgol sawl partner-brifysgol, gan chwyddo nifer y myfyrwyr cyfnewid yn sylweddol fel canran o'r myfyrwyr tramor yn An-Najah. Caiff gweddil y myfyrwyr tramor eu denu i An-Najah gan gyrsiau mewn Arabeg ar gyfer tramorwyr a gynigir gan y brifysgol.

Mynedfa i'r Coleg Peirianneg a Thechnoleg Gwybodaeth

Gefeillio

[golygu | golygu cod]

Mae gefeillio rhwng Prifysgol Genedlaethol An-Najah a sawl undeb myfyrwyr gwledydd Prydain:

  • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Essex; er 1991
  • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Manceinion; er 2006, er gwaethaf gwrthwynebiad sylweddol. Cynhaliwyd ymgyrch eang iawn yn 2007 i naill ai ganslo'r gefeillio, neu i gael Undeb An-Najah i lofnodi datganiad yn gwrthwynebu terfysgaeth, ond trechwyd yr ymgyrch yn drwm pan ddaeth i bleidlais.
  • Undeb myfyrwyr Ysgol Economeg Llundain.

Partneriaid

[golygu | golygu cod]
  • Fachhochschule Darmstadt (Prifysgol y Gwyddorau Cymhwysol Darmstadt), Darmstadt, yr Almaen
  • Rhaglen Dwyrain Canol Prifysgol McGill (MMEP) mewn Cymdeithas Sifil ac Adeiladu Heddwch. Bob blwyddyn, mae 2500 o fyfyrwyr israddedig An-Najah yn cymryd rhan mewn rhaglenni gwirfoddoli sy'n cael eu rhedeg trwy Ganolfan Gwasanaethau Cymunedol yr MMEP yn Nablus.

Sefydliadau cysylltiedig y Lan Orllewinol

[golygu | golygu cod]
  • Sefydliad Khodori, Tulkarm

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Middle East International No 256, 9 Awst 1985, Publishers Lord Mayhew, Dennis Walters MP; Daoud Kuttab p. 5
  2. ↑ "Dr. Ansam Sawalha, the First Palestinian Scientist in the Women in Science Hall of Fame". An-Najah National University. 8 Mai 2011. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2014.
  3. ↑ "Women in Science Hall of Fame- 2011". Embassy of the United States Amman Jordan. U.S. Department of State. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2011. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]