Neidio i'r cynnwys

Patxaran

Oddi ar Wicipedia
Patxaran
Mathfruit liqueur Edit this on Wikidata
Deunyddsloe, anisette Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
GwladwriaethSbaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Diod feddwol felys lliw coch o Wlad y Basg yw patxaran, gyda chyfaint alcohol tua 25-30%. Fel gyda jin eirin tagu, fe'i gwneir trwy drwytho eirin tagu (eirin duon bach) - ffrwythau'r ddraenen ddu (Prunus spinosa) mewn gwirod, ond defnyddir gwirod blas anis yn hytrach na jin i wneud patcaran. Weithiau bydd ychydig o ffa coffi, darn o risgl sinamon neu god fanila yn cael eu hychwanegu hefyd. Mae'n cael ei weini'n yn oer iawn, i'w hyfed ar ôl cinio neu swper, i helpu treulio'r pryd.[1]

Yn 1988 crëwyd Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ar gyfer patxaran o Nafarroa Garaia.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn ôl y dogfennau, gweiniwyd patxaran yn y briodas rhwng Godofredo o Nafarroa a Teresa o Arellano yn 1415. Mab i Siarl III oedd Gonofre. Gwyddys bod y Frenhines Blanca wedi cymryd patxaran ym mynachlog Santa Maria de la Nieva yn 1441, fel planhigyn meddyginiaethol.[3]

Fodd bynnag, yng nghartrefi Nafarroa Garaia y cynhyrchwyd patxaran yn bennaf hyd at y 19eg ganrif. Er nad yw'n adnabyddus iawn y tu allan i Wlad y Basg, lledaenodd yr arfer o'i greui i raddau yn Sbaen, gan fod llawer o bobl ifanc Nafarroa yn cario potel o patxaran yn ystod eu gwasanaeth milwrol.[3]

Nafarroako patxarana
Patxaran o Nafarroa Garaia
Rhai o'r poteli a gymerodd ran yng Nghystadleuaeth Patxaran Cartref a gynhaliwyd yn Aretxabaleta yn 2013

Paratoi[golygu | golygu cod]

Eirin tagu ar ddraenen ddu

I baratoi patxaran, mae angen 250 gram eirin tagu, a litr o wirod, gan adael iddynt drwytho am 7 neu 8 mis mewn lle oer, tywyll. Ar ôl peth amser, rhaid ei hidlo, ei gymysgu â surop (dŵr a siwgr wedi'i ferwi gyda'i gilydd) a'i rhoi mewn potel.

Gellir ychwanegu deilen llawryf neu ffa coffi [4] hefyd i roi blas arbennig iddo. Mewn rhai achosion, gellir ychwanegu llawer o gynhwysion eraill, fel blodau camri, pabi neu sinamon mâl.

Gweini[golygu | golygu cod]

Argymhellir yfed patxaran mewn gwydr oer neu gwpan, rhwng 6 ac 8°C Er mwyn oeri'r ddiod, gellir gosod y botel yn yr oergell neu gellir ychwanegu ciwbiau . Fodd bynnag, mae'n well peidio ychwanegu gormod o rew, gan ei fod yn newid y blas yn y dŵr.

Nid yw patxaran yn gwella gydag amser, ac argymhellir ei yfed cyn i 2 neu 3 blynedd fynd heibio ers ei gynhyrchu. Mae'r blas melys yn ei gwneud hi'n bosibl ei hyfed eto ac eto, ond gall yfed gormod achosi problemau stumog. Hefyd, fel y rhan fwyaf o wirodydd melys, mae'n gallu cyfrannu at ben mawr.

Coctels[golygu | golygu cod]

Er ei fod yn wirod sy'n cael ei yfed yn draddodiadol ar ei ben ei hun, yn ddiweddar mae wedi dechrau cael ei gymysgu â diodydd eraill, yn enwedig rhai pefriog. Heddiw, fe'i defnyddir mewn coctels.[5][6][7]

Dyma'r prif goctels a wneir gyda patxaran: [8]

  • Mojito patxaran
  • Sorbed patxaran
  • Patxaran gyda cava
  • Patxaran gydag oren

Gwirodydd tebyg[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru (ac yn Iwerddon, yr Alban a Lloegr) gwneir jin eirin tagu (neu jin eirin duon bach).

Yng Nghatalonia, mae diod feddwol o'r enw ratafia yn cael ei gwneud trwy drwytho ffrwythau amrywiol mewn gwirod. Er mai cnau Ffrengig gwyrdd a ddefnyddir amlaf, weithiau defynddir eirin tagu.[9][10]

Yn yr Almaen a gwledydd eraill Almaeneg eu hiaith, gelwir gwirodydd a wneir drwy drwytho eirin tagu yn Schlehenlikör, gyda fodca, gin neu rym yn sail iddynt, weithiau'n gymysg â sbeisys a siwgr.[11] Brand poblogaidd yw Jägermeister, sy'n cael ei wneud â rym gwyn ac eirin tagu.[12]

Yn Lloegr, ceir seidr gydag eirin tagu. Slider yw'r enw arno ac mae'n gynnyrch nodweddiadol yn Swydd Dyfnaint.[13] Ail-ddefnyddir yr eirin tagu a ddefnyddiwyd i wneud jin eirin tagu.[14]

Yn yr Eidal, gwneir gwirod o'r enw Bargnolino. Yno, hefyd, mae'r ffrwythau'n cael eu trwytho mewn alcohol gyda sbeisys a siwgr, ond mae'r ganran o alcohol yn uwch, tua 40-45%. [15]

Yn Japan mae diod tebyg o'r enw umeshu, a wneir trwy drwytho bricyll Japaneaidd (ume) a siwgr mewn gwirod o'r enw shōchū. Diod alcoholig yw Shōchū a geir trwy ddistyllu gwin reis.[16]

Ofergoelion[golygu | golygu cod]

Dywedir gan rhai bod bwyta'r eirin tagu ar ôl cynhyrchu patxaran yn eich troi'n wallgof, neu'n gwneud i chi gasáu patxaran am byth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pacharán (más de cien años) | Mala Hierba Nunca, 2015-07-13, http://www.malahierbanunca.org/pacharan-mas-de-cien-anos/, adalwyd 2024-03-30
  2. País, Ediciones El (2002-01-26), "Reportaje | El éxito del pacharán 'domesticado'" (yn es), El País, ISSN 1134-6582, https://elpais.com/diario/2002/01/26/paisvasco/1012077628_850215.html
  3. 3.0 3.1 "Pacharán, la bebida digestiva que «sanó» a una Reina navarra" (yn es), abc, http://www.abc.es/estilo/gastronomia/20141022/abci-pacharan-bebida-casera-201410210018.html
  4. «Patxarana», Sukaldean.com.
  5. "Experimentos a base de Pacharán" (yn es-ES), abc, http://www.abc.es/viajar/gastronomia/20141201/abci-pacharan-receta-exito-traves-201411281428.html
  6. Correo, El, "El patxaran se cuela en la élite de los cócteles" (yn es-ES), elcorreo.com, http://www.elcorreo.com/vizcaya/ocio/201311/09/sabado-combinados-pacharan.html
  7. pamplona, dn.es., "Cócteles con pacharán, pinchos y maridajes, en Madrid Fusión" (yn es), diariodenavarra.es, http://www.diariodenavarra.es/noticias/navarra/pamplona_comarca/pamplona/2015/02/03/cocteles_con_pacharan_pinchos_maridajes_madrid_fusion_193818_1702.html
  8. Webmaster, "Cocteles" (yn es-es), www.pabloesparza.com, http://www.pabloesparza.com/web/index.php/es/recetas/21-recetas/70-cocteles, adalwyd 2024-03-30
  9. "Pacharán, sobremesa de rojizos destellos", Cocina Semana, http://www.cocinasemana.com/vinos-y-licores/articulo/pacharan-sobremesa-rojizos-destellos/20320
  10. "Festa Concurs de la Ratafia - Confraria de la Ratafia | El web de la ratafia, amb tota la informació referent sobre receptes, activitats, festes, concursos, gastronomia, festes,..." (yn ca), confrariaratafia.cat, http://confrariaratafia.cat/
  11. "Schlehenlikör" (yn de), Chefkoch.de, https://www.chefkoch.de/rezepte/31271008426494/Schlehenlikoer.html
  12. "Age restriction", mast-jaegermeister.de, http://mast-jaegermeister.de/en/products/schlehenfeuer/, adalwyd 2024-03-30
  13. "Sloe gin" (yn en), Wikipedia, 2017-12-25, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Sloe_gin&oldid=817034848
  14. "Tension brews as Golden Valley gin makers prepare for battle" (yn en), Hereford Times, http://www.herefordtimes.com/news/local/8781568.Tension_brews_as_Golden_Valley_gin_makers_prepare_for_battle/
  15. "La Guida Ufficiale dei Grass - Ricette - Bargnolino", www.igrass.it, http://www.igrass.it/home2/guide/dettaglio-ricetta.asp?id=21, adalwyd 2024-03-30
  16. About Umeshu - Japanese Umeshu, 2009-08-08, http://japanese-umeshu.ning.com/page/about-umeshu, adalwyd 2024-03-30