Neidio i'r cynnwys

Pabi coch

Oddi ar Wicipedia
Pabi Coch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Ranunculales
Teulu: Papaveraceae
Genws: Papaver
Rhywogaeth: P. rhoeas
Enw deuenwol
Papaver rhoeas
L.

Pabi gwyllt â blodau coch llachar yw'r Pabi Coch (Lladin: Papaver rhoeas). Fe'i cysylltir ag amaeth ers sawl mileniwm, ac mae'n chwynnyn nodweddiadol mewn caeau ŷd. Mae'n unflwydd, gyda'r blodau'n ymddangos yn hwyr yn y gwanwyn fel arfer.

Tyf un blodyn ar bob corsen fain, flewog. Mae pedwar petal ganddo, gyda smotyn du tua gwaelod pob un fel arfer.

Yn ogystal â bod yn chwynnyn cyffredin, fe'i tyfir yn fwriadol am ei hadau, a defnyddir wrth pobi ac i ychwanegu blas. Mae'r blodau yn fwytadwy yn ogystal, a gellir eu defnyddio mewn salad neu i wneud surop neu ddiodydd.

Symbol o waed

[golygu | golygu cod]

Mae'r pabi coch yn symbol o'r rhai a fu farw mewn rhyfeloedd, a hynny ers adeg y Rhyfel Byd Cyntaf; gwnaed hyn gan fod y pabi'n tyfu ar gaeau Fflandrys. Fe'u gwisigir yng ngwledydd y Gymanwlad yn unig ar Sul y Cofio; nid yw Iwerddon yn cydnabod y Pabi; yn 2017 gwisgodd Leo Varadkar "babi shamrock" - y Taoiseach cyntaf i wneud hynny - yn y Dáil. Ond mae'r rhan fwyaf o drigolion Iwerddon yn gwisgo'r lili i goffáu'r rhai a fu farw yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916 a'r gwrthdaro dilynol.

Mae gan lawer o wledydd symbolau gwahanol i gofio meirwon y Rhyfeloedd Byd:

  • Ffrainc: y "bleuet" glas (glas yr ŷd) yn hytrach na'r popi. Mae'r bleuet hefyd yn tyfu ar faes y gad yn Ffrainc, a daeth yn symbol genedlaethol o goffâd a gobaith i filwyr Ffrengig.
  • Gwlad Belg: Daisy - llygad Ebrill. Mae'r madeliefje (llygad Ebrill) yn fwy cyffredin fel symbol coffa Belgiaidd, na'r pabi coch.
  • India: y "melyn Mair melyn llachar geiriadur
  • Rwmania: Ers 2015, mae rhosyn-y-mynydd gwyllt (peony Rwmanaidd) yn cael ei wisgo
  • Rwsia: Rhuban oren a du
  • Serbia: Ramonda Natalija. Mae'r blodyn hwn yn symbol o wydnwch brwydr Serbia yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cynrychioli adfywiad y genedl.
  • Yr Iseldiroedd: Penigan pêr (neu'r Carnasiwn Gwyn). Caiff ei wisgo ar 4 Mai (Diwrnod Dodenherdenking: Coffâd y Meirw) i gofio'r rhai a fu farw ers dechrau'r Ail Ryfel Byd.
  • Iwerddon: Lili'r Pasg (Lilium longiflorum). Mae rhai yn Iwerddon yn gwisgo'r lili i goffáu'r rhai a fu farw yng ngwrthryfel y Pasg yn 1916 a'r gwrthdaro dilynol.

Yn Hydref 2016 gwnaeth Ffederasiynau pêl-droed Lloegr a'r Alban gais i FIFA ganiatau i'w chwaraewyr wisgo band-braich gyda llun y pabi arno mewn gêm i'w chynnal ar 11 Tachwedd 2016. Gwrthododd FIFA'r cais hwnnw.[1] Yn 2011 gwnaeth FIFA dro pedol munud olaf gan ganiatáu gwisgo'r band-fraich yn ystod gêm Cymru yn erbyn Norwy.

Fel protest yn erbyn y dull imperialaidd o ddyrchafu'r pabi coch i goffáu Prydeinwyr yn unig, yn y 1980au dechreuodd rai wisgo pabi gwyn yn arwydd o heddwch a choffâd pawb a laddwyd mewn rhyfeloedd.

Ffenoleg

[golygu | golygu cod]

Tynnodd Gerallt Pennant y llun hwn [dolen farw] rhwng Bewdley a Stourport ar 20 Mehefin 2010. Mae’n debyg fod llawer o blanhigion wedi blodeuo’n helaeth y flwyddyn honno, diolch i’r tywydd oer i ddechrau, ac yna’r sychder. Fel y dywedodd yr arddwraig Denise Quéré o Landerne, Llydaw: il faut les faire souffrir un peu - mae’n rhaid eu gwneud i ddioddef ychydig i gael llwyth o flodau.[2]

Ecoleg a chadwraeth

[golygu | golygu cod]

Bu i arolygon dros yr hanner canrif ddiwethaf o fflora'r Deyrnas Unedig ddangos bod 17 o’r 25 rhywogaeth sy’n dangos y gostyngiad tymor-hir mwyaf yn rhai sy’n nodweddiadol o gynefinoedd tir ȃr. Mae'r rhain yn cynnwys un neu ddwy o rywogaethau sy’n dal i fod yn lleol-gyffredin yng Nghymru, fel Troellig yr ŷd (Spergula arvensis) a Taglys yr ŷd (Fallopia convolvulus).

Mae Cloc y dyn tlawd (Llysiau'r Cryman Anagallis arvensis) a Fflamgoed fach yr ŷd (= Corlaethlys[3]) er enghraifft yn tyfu ym mhen talar na chafodd ei chwistrellu, ar fferm ger Flemingston ym Mro Morgannwg.

Mae planhigion eraill ar y rhestr mewn peryg difrifol neu mewn peryg o ddifodiant yng Nghymru, er enghraifft Crafanc yr ŷd (Ranunculus arvensis), Crib Gwener (Scandix pecten-veneris) a Dinodd Blynyddol (Scleranthus annuus). Mae'r ‘rhestr goch’ o blanhigion sydd mewn peryg yng Nghymru hefyd yn cynnwys Gwylaeth-yr-oen llyfn (Valerianella rimosa) (Perygl Difrifol) a Gludlys amryliw (Silenegallica) (Perygl). Bellach mae hyd yn oed planhigion a ystyrid yn lled gyffredin a niferus ar un adeg, fel y Pabi coch cyffredin (Papaver rhoeas) a Melyn yr ŷd (Chrysanthemum segetum), yn llawer iawn llai amlwg yn y tirlun Cymreig erbyn hyn. Ymysg y cnydau sydd brinaf o ran eu planhigion tir ȃr mae tatws, India corn a haidd. Bydd y rhain fel arfer erbyn hyn yn cael eu chwistrellu’n drwm ȃ chwynladdwyr a phlaladdwyr eraill, sy’n golygu na rodda'r cnydau hyn gyfle i’r planhigion na’r creaduriaid gwyllt eraill a ddisgwylir eu gweld ar dir ȃr yng Nghymru.[4]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 4 Tachwedd 2016.
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 30[dolen farw]
  3. https://llennatur.cymru/Y-Bywiadur#Euphorbia%20exigua[dolen farw]>Euphorbia exigua
  4. Hurford, C (2025) Fferm a Thyddyn, rhif 76 (2025), tud. 6-9
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: